Cynllun Llifogydd Stryd Stephenson

Closed 21 Apr 2021

Opened 22 Mar 2021

Overview

Diweddariad 09 Ionawr 2023

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llwyddo i benodi Alun Griffiths fel y prif gontractwr i wneud y gwaith adeiladu ar gyfer y cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd yn Llyswyry, Casnewydd, a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn y gwanwyn. 

Bydd y cynllun yn lleihau perygl llifogydd i dros 2,000 eiddo ac mae'n cynnwys cryfhau rhannau o'r arglawdd presennol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon, sy’n 1350m o hyd, ac adeiladu waliau llifogydd newydd, adran o briffordd a llifddor.

Mae disgwyl i'r gwaith o glirio llystyfiant ar hyd ardal y cynllun o Barc Coronation i Liberty Steel ddechrau ym mis Chwefror. Bydd gwaith paratoi ar gyfer yr adran uwch o briffordd yn cychwyn ym mis Mawrth a bwriedir dechrau’r gwaith i dyrchu a gosod wal gynnal ar gyfer y briffordd ym mis Ebrill.

Disgwylir i’r gwaith bara tan ddiwedd haf 2024.

Llinell Amser

Amcan strategol y cynllun yw lleihau perygl llifogydd ar gyfer cymunedau a busnesau cyfagos. Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno achos busnes i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun ac roedd hyn yn llwyddiannus.

Ym mis Medi 2020, fe wnaethom rannu ein cynigion cychwynnol ar gyfer y cynllun a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus. 

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom rannu ein cynlluniau a’n dyluniadau diwygiedig fel rhan o’n hymgynghoriad cyhoeddus cyn cynllunio.

Ar 3 Tachwedd 2021, cymeradwywyd ein cais cynllunio (cyf 21/0718) gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Sgroliwch i lawr i waelod y dudalen i gael gweld y dogfennau cynllunio.

Perygl llifogydd yn Llyswyry, Casnewydd

Delwedd o fap yn dangos maint llifogydd heb amddiffynfeydd newydd

Delwedd o fap yn dangos maint llifogydd heb amddiffynfeydd newydd

Mae cartrefi a busnesau yn Llyswyry yn agored i lifogydd o Afon Wysg yn ystod cyfnodau o law trwm a llanw uchel. Mae amwynderau hamdden a seilwaith fel yr A48, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Stadiwm Casnewydd a Pharc y Ddraig hefyd mewn perygl.

Mae bwnd llifogydd yn bodoli eisoes ar hyd Afon Wysg rhwng Stryd Stephenson a Corporation Road, ond mae hwn yn hen ac nid yw bellach yn addas i'r diben.

Mae llawer o'r busnesau yn yr ystâd ddiwydiannol sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r afon eisoes yn profi llifogydd ar raddfa fach o bwyntiau isel ar hyd glan yr afon – y mwyaf amlwg ohonynt yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020

Heb ymyrraeth, amcangyfrifwn y gallai llifogydd orlifo’r bwnd presennol gan achosi difrod sylweddol i gartrefi a busnesau yn yr ardal yn y dyfodol.

Mae'r ystâd ddiwydiannol yn gyfrannwr allweddol at gyflogaeth ac economi Casnewydd. Gallai llifogydd ar raddfa fawr yn yr ardal hon gael effaith drychinebus ar yr economi a'r gymuned leol.

Amcangyfrifir y byddai llifogydd sylweddol sy'n effeithio ar yr ardal yn costio £230m.


Cynigion ar gyfer y cynllun newydd

Mae'r bwnd llifogydd presennol yn ymestyn am 1,350m ar hyd arglawdd dwyreiniol Afon Wysg.

Mae’r cynigion yn argymell codi rhannau o’r arglawdd presennol. Mewn ardaloedd eraill, bydd waliau llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu er mwyn codi’r amddiffynfa i’r lefel angenrheidiol.  

Cynigir gosod fflodiart newydd hefyd ar gyfer Corporation Road, ynghyd â rhan newydd o briffordd er mwyn gwella mynediad i’r ystâd ddiwydiannol pan fydd y fflodiart ar gau.

Edrychwch ar y PDF i gael mwy o wybodaeth

Gwelliannau i amddiffynfeydd glannau’r afon

  • Bydd darn 240m o'r bwnd presennol drwy Barc Coronation yn cael ei godi.
  • Bydd darn 590m o'r bwnd presennol i'r de o Barc Coronation yn cael ei godi a'i uwchraddio gyda wal bentyrru newydd.  
  • Darn 640m o wal goncrit newydd drwy ystâd ddiwydiannol Felnex.
  • Codi rhywfaint o dir priffordd Stryd Stephenson mewn mannau er mwyn cynnal lefel ofynnol yr amddiffynfa, yn ogystal â chodi dwy ardal arall o ben glan yr afon ymhellach i’r gogledd.

Gosod fflodiart newydd

  • Bydd fflodiart newydd yn cael ei gosod ar draws Corporation Road lle mae’n pasio o dan bont y rheilffordd, i’w chau cyn unrhyw ddigwyddiad llifogydd sylweddol a ragwelir. 
  • Bydd darn newydd o briffordd 700m o hyd yn cysylltu pen terfyn presennol Corporation Road ag Ystâd Ddiwydiannol Felnex gan ganiatáu i draffig ymadael â Corporation Road pan fydd y fflodiart ar gau.
  • Dau ddarn byr newydd o wal lifogydd goncrid mewn tir diwydiannol preifat yn ardal ddeheuol y cynllun.


Tirlunio a gwelliannau i fannau cyhoeddus

Mae'r bwnd llifogydd presennol yn llwybr troed cyhoeddus ac mae hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir eiconig Cymru. CNC sy'n gyfrifol am reoli a hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru ac mae'n deall y gwerth a ddaw yn ei sgil.

Mae’r argymhellion yn golygu y bydd angen adlinio rhywfaint o Lwybr Arfordir Cymru mewn rhai mannau er mwyn gallu codi’r bwnd presennol a gosod wal bentyrru newydd ar gyfer llifogydd.

Mae ein cynlluniau'n cynnwys uwchraddio'r rhan o Lwybr Arfordir Cymru yr effeithir arni, ynghyd â gwelliannau i'r man gwyrdd ym Mharc Coronation.

Bydd llwybr newydd yn cael ei greu ym Mharc Coronation i ddarparu gwell cysylltiad â glan yr afon a'r caeau chwaraeon, gan greu llwybr cerdded crwn. Bydd llwyfannau gwylio yn cael eu hintegreiddio i'r arglawdd i ganiatáu ar gyfer mannau gorffwys a darparu cysylltiad â chynefinoedd glan yr afon.

Bydd ardaloedd i blannu coed a blodau gwyllt yn cael eu darparu yn y parc i gynyddu bioamrywiaeth leol, yn ogystal â thair coedwig drefol sy'n darparu tua 1,600 o goed ifainc newydd.

Bydd biniau ychwanegol yn cael eu gosod i leihau sbwriel a gwastraff cŵn a byrddau dehongli newydd sy'n darparu gwybodaeth am brosiect, bioamrywiaeth a threftadaeth yr ardal.

Safon yr amddiffyniad rhag llifogydd a newid yn yr hinsawdd

Byddai'r cynigion yn cynyddu’r amddiffyniad rhag llifogydd i safon digwyddiad llifogydd un mewn 200 mlynedd (mae hyn yn cyfeirio at ddigwyddiad arwyddocaol sydd â siawns o 0.5% o digwydd mewn blywddyn  neu sydd â siawns o 63.3% o ddigwydd mewn 200 mlynedd). Mae hyn yn unol â Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Aber Afon Hafren.

Datblygwyd y cynigion gyda'r newid yn yr hinsawdd mewn golwg, gan gyfrif am gynnydd yn lefel y môr a'r cynnydd a ragwelir mewn glawiad dros y 50 mlynedd nesaf. Amcangyfrifwn y byddai dros 1,100 o gartrefi a 1,000 o fusnesau yn elwa o lai o berygl llifogydd o ganlyniad i'r cynllun, gan ystyried rhagfynegiadau newid hinsawdd yn y dyfodol.

Ystyriaethau Amgylcheddol

Mae Afon Wysg yn y lleoliad hwn yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae'n ymestyn o'r afon i grib yr arglawdd. Mae rhannau o'r arglawdd hefyd yn Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) oherwydd eu cynefinoedd.

Mae’r wangen, sef math o bysgodyn, yn nodwedd o’r ACA ac mae’n hynod o sensitif i ddirgryniad.

Mae cofnodion hanesyddol hefyd yn dangos bod nifer o rywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn yr ardal – gan gynnwys adar atodlen un, dyfrgwn, ystlumod a thylluanod gwynion. Mae arolygiadau hefyd wedi nodi cynefinoedd posibl ar gyfer llygod pengrwn y dŵr, pathewod, moch daear a madfallod dŵr cribog.

Mae arolygon cynhwysfawr sy'n benodol i rywogaethau arbennig mewn ardal astudio wedi cadarnhau nad yw'r rhain yn debygol o fod yn bresennol nac yn bridio o fewn yr ardal waith yr effeithir arni. Ym mis Mai 2021, ymchwiliwyd ymhellach i goed ger y cynllun mewn perthynas â’r posibilrwydd y gallai ystlumod ddewis clwydo yno, a bydd gwaith yn agos at un goeden yn cael ei wneud yn unol â Dull Rhagofalus cytûn o weithio i leihau'r posibilrwydd o aflonyddwch.

Cynlluniwyd adeiladu'r cynllun i leihau'r effaith ar unrhyw rywogaethau a chynefinoedd sensitif er mwyn sicrhau nad oes colled barhaol i gynefinoedd gwarchodedig. Bydd technegau fel peiriannau hydrolig ‘distaw’ yn cael eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu mewn ardaloedd sensitif i leihau sŵn a dirgryniadau i'r eithaf. Mae lleoliad yr amddiffynfeydd arfaethedig yn ddigon pell i ffwrdd o'r afon (> 40m) er mwyn osgoi'r potensial am unrhyw effeithiau dirgryniad ar bysgod yn ystod eu tymor mudo.

Er gwaethaf dyluniad sensitif, rydym wedi nodi oddeutu 650 o goed a llwyni y bydd angen eu torri yn ystod y gwaith adeiladu. Mae asesiad o'r rhain wedi nodi bod y mwyafrif yn goed a llwyni gwerth isel, hunan-hadau a chrebachlyd. Er mwyn cyfiawnhau y weithred hon, rydym yn bwriadu ailblannu oddeutu 1,600 o goed ifainc, newydd gan greu tair ‘coedwig drefol’ yn bennaf ym Mharc y Coroni.

Edrychwch ar y PDF i gael mwy o wybodaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni wedi ystyried yr effaith ar yr amgylchedd yn nogfennau ein cais cynllunio (sgroliwch i lawr i weld yr atodiadau).


Mwy o wybodaeth

A fyddech cystal â chymryd peth amser i ddarllen y dogfennau rydyn ni wedi'u cyflwyno fel rhan o'n cais cynllunio i Gyngor Casnewydd.

Gallwch hefyd ddarllen ein cwestiynau cyffredin am y cynllun.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch drwy e-bostio: stephensonstreet@naturalresources.cymru

 

What happens next

Mae’r gweithgaredd tendro ar gyfer y contract bellach wedi’i gwblhau. Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2023. 

Areas

  • Liswerry
  • Newport

Audiences

  • Flooding
  • Llifogydd
  • Cymraeg

Interests

  • Flooding
  • Llifogydd