Cynllun Llifogydd Stryd Stephenson

Ar gau 21 Ebr 2021

Wedi'i agor 22 Maw 2021

Trosolwg

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Stryd Stephenson ym mis Chwefror 2023 a bydd yn lleihau'r perygl o lifogydd i fwy na 2000 o adeiladau yng Nghasnewydd. 

Gweld y dudalen hon yn Saesneg 

Trosolwg o'r cynllun perygl llifogydd

Mae cartrefi a busnesau yn ardal Llyswyry o Gasnewydd, yn agored i lifogydd o Afon Wysg trwy rai mannau isel yn yr amddiffynfeydd llifogydd presennol yn ystod cyfnodau o law trwm a llanw uchel.

Mae amwynderau hamdden a seilwaith fel yr A48, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Stadiwm Casnewydd a Pharc y Ddraig hefyd mewn perygl.

Bydd ein cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn helpu i leihau'r risg o lifogydd i fwy na 2000 eiddo a busnes yn yr ardal ac mae wedi'i adeiladu gyda rhagamcanion newid hinsawdd yn y dyfodol mewn golwg, gan roi ystyriaeth i godiad yn lefel y môr dros yr 50 mlynedd nesaf.

Mae'r gwaith yn cynnwys cryfhau rhannau o'r arglawdd llifogydd 1350m presennol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon ac adeiladu waliau llifogydd newydd, gan godi rhan o'r briffordd a gosod llifddor fawr.

Mae'r cynllun yn cynnwys y gwaith a ddangosir isod:

  • Tir lleol yn codi i'r gogledd o Stryd Stephenson yn ogystal â chodi ffordd a thirlunio ar Stryd Stephenson
  • Codi a gwella arglawdd llifogydd presennol ar hyd ffin orllewinol Parc Coronation
  • Adeiladu wal lifogydd ac arglawdd o bolion dalen
  • Adeiladu 0.7km o ffordd liniaru llifogydd sy'n cysylltu Heol East Bank a Corporation Road, gyda gwaith draenio cysylltiedig, pwyntiau mynediad a mân addasiadau i Heol East Bank
  • Atgyfnerthu waliau llifogydd concrit a darn byr o fwnd llifogydd o fewn Ystad Ddiwydiannol Felnex
  • Atgyfnerthu wal lifogydd concrid ger Pye Corner
  • Atgyfnerthu wal lifogydd concrid a llwybr mynediad yn Nhrefonnen
  • Llifddor i bont reilffordd Corporation Road
  • Falfiau clec llanwol atal gwrthlif a gwelliannau i gwlferi arglawdd Network Rail
  • Gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru a thirlunio i Barc Coronation

Yn ogystal â lleihau perygl llifogydd i’r gymuned, bydd y cynllun hefyd yn gwella mannau gwyrdd cymunedol a’r rhan eiconig o Lwybr Arfordir Cymru sydd gerllaw.

Mae hyn yn cynnwys llwybr troed newydd ym Mharc Coronation sy’n cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru i greu llwybr cerdded cylchol gyda llwyfannau gwylio newydd ar draws Afon Wysg.

Mae tair 'coedwig drefol' newydd sy’n cynnwys 1,600 o goed ifanc newydd hefyd yn yr arfaeth ar gyfer Parc Coronation i gymryd lle tua 650 o goed a llwyni y bydd angen eu tynnu fel rhan o'r gwaith adeiladu.

Amcangyfrifir mai £21m fydd cost y cynllun ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Llwyddodd CNC i benodi Alun Griffiths fel y prif gontractwr i wneud y gwaith ym mis Rhagfyr 2022

Mae disgwyl i'r gwaith barhau tan ddiwedd hydref 2024.

Diweddariadau ar y cynnydd

Mis Chwefror 2024 – blwyddyn ers i'r gwaith adeiladu ddechrau 

Flwyddyn ers i'r gwaith adeiladu ddechrau, rydym yn falch o allu dweud bod y prosiect yn gwneud cynnydd da.

Dyma gip sydyn ar ba waith sydd wedi'i gwblhau erbyn hyn:

  • Mae’r gwaith o osod 700 metr llinol o bolion dalen wedi’i gwblhau, er mwyn helpu i gryfhau’r arglawdd ar hyd Afon Wysg.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r wal goncrit sydd wedi'i hatgyfnerthu o amgylch ystad ddiwydiannol Felnex wedi'i chwblhau, sy'n ffurfio 35% arall o'r amddiffyniad cyffredinol rhag llifogydd.
  • Mae’r gwaith paratoi ar gyfer y rhan uchel o’r briffordd oddi ar Ffordd East Bank bron wedi’i gwblhau, a bydd hyn yn darparu llwybr amgen i ddefnyddwyr ffordd yn yr ardal.

Rhagor o wybodaeth ar gael yn ein datganiad i’r wasg

Mae'r ffilm drôn hon o'r awyr yn dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud ar y cynllun llifogydd newydd hyd yma: 

https://vimeo.com/901866861/9fe2440871

Mae'r llun uchod yn dangos y llanw uchel ar hyd Afon Wysg yng Nghasnewydd ar 12 Chwefror, wrth ymyl y 700 metr llinol o bolion dalen sydd wedi'u cwblhau yn ddiweddar, gan helpu i gryfhau'r arglawdd ar hyd Afon Wysg.

Gorffennaf 2023 – chwe mis ar ôl cychwyn y gwaith : cipolwg ar y cynnydd hyd yma

Dros y chwe mis diwethaf mae ein contractwr, Alun Griffiths, wedi bod yn gweithio'n galed ar adeiladu'r cynllun llifogydd yn Llyswyry. Dyma grynodeb o'r gwaith a wnaed hyd yma:

Clirio llystyfiant

Bellach mae'r gwaith clirio llystyfiant ar hyd y cynllun llifogydd o'r pwynt gogleddol ym Mharc Coronation hyd at Liberty Steel yn y de wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith clirio hwn wedi caniatáu i'n contractwyr ddechrau ar y rhan o'r amddiffynfa llifogydd sy’n cynnwys polion dalen.

Gwaith gosod polion dalen

Dechreuodd y gwaith o osod polion dalen ar hyd Afon Wysg ym mis Ebrill a disgwylir i’r gwaith fod wedi ei orffen erbyn diwedd Awst 2023.

Mae polion dalen yn fath o sylfaen ddofn a ddefnyddir mewn gwaith adeiladu. Mae'r polion dalen a ddefnyddir yn ddarnau o ddur wedi'u hailgylchu a'u cynhyrchu'n adnewyddadwy, sy'n cael eu bwrw i’r ddaear hyd at ddyfnder penodol. Mae ganddyn nhw ymylon sy'n cyd-gloi ac maen nhw'n ffitio gyda'i gilydd i ffurfio wal neu rwystr sy'n strwythurol gadarn. Nid ydynt yn difrodi'r ddaear o'u cwmpas, yn wahanol i bolion concrit cyffiniol neu rai wedi’u tyllu.

Mae’r polion dalen wedi’u gosod gan ddefnyddio gwasgydd hydrolig yn null Giken, sydd wedi bod yn gymorth sylweddol i leihau’r dirgryniadau a'r tarfu oherwydd sŵn ar fywyd gwyllt a diwydiant lleol.

Creu llwybr newydd i fusnesau lleol o amgylch Ystad Ddiwydiannol Felnex

Mae’r gwaith paratoi yn mynd rhagddo ar gyfer y rhan o'r briffordd wedi’i chodi oddi ar Heol East Bank. Disgwylir i'r briffordd newydd gael ei chwblhau yn Haf 2024. Bydd hyn yn darparu llwybr amgen i ddefnyddwyr ffordd yn yr ardal, pe bai'r llifddor ar Heol Corporation yn cael ei gweithredu at ddibenion cynnal a chadw neu cyn adegau pan ragwelir llif llanw brig. 

Gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru

Mae gwaith wedi dechrau ar Lwybr Arfordir Cymru i wella'r llwybr cyhoeddus; bydd hyn yn gwella'r llwybr yn weledol ac yn ei wneud yn fwy hygyrch.  

Mae'r ffilm drôn hon o'r awyr yn dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud ar y cynllun llifogydd newydd hyd yma: 

https://vimeo.com/849458461/cab0d2f7fa

Mehefin 2023 - AS lleol yn ymweld ag amddiffynfa rhag llifogydd Stryd Stephenson

13 Chwefror – Gwaith adeiladu'n dechrau'n swyddogol

Heddiw, (dydd Llun, 13 Chwefror) mae'r gwaith yn dechrau'n swyddogol ar gynllun llifogydd Stryd Stephenson!

Bydd gwaith i glirio'r llystyfiant ar hyd y cynllun o Barc Coronation i Liberty yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf.

Disgwylir i'r gwaith galluogi ar gyfer y rhan uwch o'r briffordd ddechrau ym mis Mawrth a’r bwriad yw bod y gwaith torri llystyfiant ar y priffyrdd a gosod polion dalen yn dechrau ym mis Ebrill.

Ionawr 2023 – gwaith adeiladu i fod i ddechrau

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y gwaith adeiladu ar y cynllun rheoli perygl llifogydd yn dechrau ym mis Chwefror eleni, gydag Alun Griffiths wedi ei benodi'n brif gontractwr.

Rhagor o wybodaeth ar gael yn ein datganiad i'r wasg

Tirlunio a gwelliannau i fannau cyhoeddus

Mae'r bwnd llifogydd presennol yn llwybr troed cyhoeddus ac mae hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir eiconig Cymru. CNC sy'n gyfrifol am reoli a hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru ac mae'n deall y gwerth a ddaw yn ei sgil.

Mae’r argymhellion yn golygu y bydd angen adlinio rhywfaint o Lwybr Arfordir Cymru mewn rhai mannau er mwyn gallu codi’r bwnd presennol a gosod wal bentyrru newydd ar gyfer llifogydd.

Mae ein cynlluniau'n cynnwys uwchraddio'r rhan o Lwybr Arfordir Cymru yr effeithir arni, ynghyd â gwelliannau i'r man gwyrdd ym Mharc Coronation.

Bydd llwybr newydd yn cael ei greu ym Mharc Coronation i ddarparu gwell cysylltiad â glan yr afon a'r caeau chwaraeon, gan greu llwybr cerdded crwn. Bydd llwyfannau gwylio yn cael eu hintegreiddio i'r arglawdd i ganiatáu ar gyfer mannau gorffwys a darparu cysylltiad â chynefinoedd glan yr afon.

Bydd ardaloedd i blannu coed a blodau gwyllt yn cael eu darparu yn y parc i gynyddu bioamrywiaeth leol, yn ogystal â thair coedwig drefol sy'n darparu tua 1,600 o goed ifainc newydd.

Bydd biniau ychwanegol yn cael eu gosod i leihau sbwriel a gwastraff cŵn a byrddau dehongli newydd sy'n darparu gwybodaeth am brosiect, bioamrywiaeth a threftadaeth yr ardal.

Ystyriaethau Amgylcheddol

Mae Afon Wysg yn y lleoliad hwn yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae'n ymestyn o'r afon i grib yr arglawdd. Mae rhannau o'r arglawdd hefyd yn Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) oherwydd eu cynefinoedd.

Mae’r wangen, sef math o bysgodyn, yn nodwedd o’r ACA ac mae’n hynod o sensitif i ddirgryniad.

Mae cofnodion hanesyddol hefyd yn dangos bod nifer o rywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn yr ardal – gan gynnwys adar atodlen un, dyfrgwn, ystlumod a thylluanod gwynion. Mae arolygiadau hefyd wedi nodi cynefinoedd posibl ar gyfer llygod pengrwn y dŵr, pathewod, moch daear a madfallod dŵr cribog.

Mae arolygon cynhwysfawr sy'n benodol i rywogaethau arbennig mewn ardal astudio wedi cadarnhau nad yw'r rhain yn debygol o fod yn bresennol nac yn bridio o fewn yr ardal waith yr effeithir arni. Ym mis Mai 2021, ymchwiliwyd ymhellach i goed ger y cynllun mewn perthynas â’r posibilrwydd y gallai ystlumod ddewis clwydo yno, a bydd gwaith yn agos at un goeden yn cael ei wneud yn unol â Dull Rhagofalus cytûn o weithio i leihau'r posibilrwydd o aflonyddwch.

Cynlluniwyd adeiladu'r cynllun i leihau'r effaith ar unrhyw rywogaethau a chynefinoedd sensitif er mwyn sicrhau nad oes colled barhaol i gynefinoedd gwarchodedig. Bydd technegau fel peiriannau hydrolig ‘distaw’ yn cael eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu mewn ardaloedd sensitif i leihau sŵn a dirgryniadau i'r eithaf. Mae lleoliad yr amddiffynfeydd arfaethedig yn ddigon pell i ffwrdd o'r afon (> 40m) er mwyn osgoi'r potensial am unrhyw effeithiau dirgryniad ar bysgod yn ystod eu tymor mudo.

Er gwaethaf dyluniad sensitif, rydym wedi nodi oddeutu 650 o goed a llwyni y bydd angen eu torri yn ystod y gwaith adeiladu. Mae asesiad o'r rhain wedi nodi bod y mwyafrif yn goed a llwyni gwerth isel, hunan-hadau a chrebachlyd. Er mwyn cyfiawnhau y weithred hon, rydym yn bwriadu ailblannu oddeutu 1,600 o goed ifainc, newydd gan greu tair ‘coedwig drefol’ yn bennaf ym Mharc y Coroni.

Edrychwch ar y PDF i gael mwy o wybodaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni wedi ystyried yr effaith ar yr amgylchedd yn nogfennau ein cais cynllunio (sgroliwch i lawr i weld yr atodiadau).

Safon yr amddiffyniad rhag llifogydd a newid yn yr hinsawdd

Byddai'r cynigion yn cynyddu’r amddiffyniad rhag llifogydd i safon digwyddiad llifogydd un mewn 200 mlynedd (mae hyn yn cyfeirio at ddigwyddiad arwyddocaol sydd â siawns o 0.5% o digwydd mewn blywddyn  neu sydd â siawns o 63.3% o ddigwydd mewn 200 mlynedd). Mae hyn yn unol â Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Aber Afon Hafren.

Datblygwyd y cynigion gyda'r newid yn yr hinsawdd mewn golwg, gan gyfrif am gynnydd yn lefel y môr a'r cynnydd a ragwelir mewn glawiad dros y 50 mlynedd nesaf. Amcangyfrifwn y byddai dros 1,100 o gartrefi a 1,000 o fusnesau yn elwa o lai o berygl llifogydd o ganlyniad i'r cynllun, gan ystyried rhagfynegiadau newid hinsawdd yn y dyfodol.

 

Mwy o wybodaeth a dolennau defnyddiol

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â ni drwy e-bostio stephensonstreet@naturalresources.wales 

Ewch i dudalen prosiect Alun Griffiths: Cynllun Amddiffyn Llifogydd Stryd Stephenson – Cymuned Griffiths

Beth sy'n digwydd nesaf

Mae’r gweithgaredd tendro ar gyfer y contract bellach wedi’i gwblhau. Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2023. 

Ardaloedd

  • Liswerry
  • Newport

Cynulleidfaoedd

  • Flooding
  • Llifogydd

Diddordebau

  • Flooding
  • Llifogydd