Llygredd dŵr mwyngloddiau metel

Yn cau 19 Hyd 2043

Wedi'i agor 16 Hyd 2023

Trosolwg

Cwm Rheidol

Llygredd o Fwyngloddiau Metel Segur

Mae mwyngloddiau metel segur yn achosi llawer o lygredd yng Nghymru. Mae tua 1,300 o safleoedd ar hyd a lled ein gwlad, ac amcangyfrifir eu bod nhw’n effeithio ar dros 700km o gyrsiau dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Awdurdod Glo yn cydweithio i fynd i’r afael â’r llygredd hwn, er mwyn gwella iechyd ein hafonydd, er budd pobl, bywyd gwyllt a’r economi.

Achosion llygredd

Mae gan Gymru hanes hir o fwyngloddio mwynau metel, yn dyddio nôl i’r Oes Efydd, gyda’r diwydiant yn cyrraedd penllanw yn hanner olaf y 19eg ganrif.

Roedd mwyngloddio fwy neu lai wedi dod i ben erbyn y 1920au, a’r rhan fwyaf o’r mwyngloddiau wedi cau ac yn segur, ond mae gollyngiadau o weithfeydd tanddaear a thrwytholchi metelau o domenni sborion yn dal i fod yn ffynonellau llygredd dŵr sylweddol hyd heddiw.

Beth yw’r broblem?

Mae llawer o’r metelau a ganfyddir mewn afonydd, nentydd a llynnoedd - metelau fel cadmiwm, plwm, sinc a chopr yn dod o fwyngloddiau metel segur. Mae lefelau uchel o’r metelau hyn yn achosi difrod amgylcheddol sylweddol, gan leihau poblogaethau pysgod ac amrywiaeth o ffawna infertebratau, sy’n golygu eu bod yn flaenoriaeth uchel o ran camau gweithredu cenedlaethol i lanhau ein hafonydd.

Mae tua 1,300 o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru ac amcangyfrifir eu bod nhw’n effeithio ar dros 700km o afonydd.

Mwyngloddiau segur yw’r prif reswm pam mae cyrff dŵr Cymru yn methu â chyflawni safonau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewropeaidd.

Beth sy’n cael ei wneud i ddatrys y broblem?

Yn y Strategaeth Mwynglawdd Metel dros Gymru, a gyhoeddwyd yn 2002, nodwyd y 50 mwynglawdd metel segur y credwyd a oedd yn achosi’r effaith fwyaf yn afonydd yng Nghymru.

Dangosodd astudiaethau fod y 50 mwynglawdd yma’n gollwng tua 200 tunnell o sinc, 32 tunnell o gopr, 15 tunnell o blwm a 600kg o gadmiwm bob blwyddyn. Ers hynny, rhoddwyd blaenoriaeth i ymchwiliadau safle benodol a chynhaliwyd ymyriadau adfer ar nifer o safleoedd, yn cynnwys cynllun adfer mawr yn Frongoch, yn ogystal â gwaith adfer llai a threialon triniaeth peilot ym Mwyngloddiau Mynydd Parys, Cwm Rheidol ac Abbey Consols.

Yn 2020, bu Adroddiad Asesu Cyrff Dŵr sy’n Methu yn ystyried ble roedd effeithiau mwyngloddiau metel yn brif reswm dros fethiant cyrff dŵr i gyflawni statws ‘Da’ y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac a oedd hi’n bosibl newid statws yn dilyn ymyriadau adfer.

Roedd yr adroddiad yn dosbarthu mwyngloddiau fel rhai Coch, Oren neu Wyrdd, gan nodi 129 o safleoedd Coch, 140 Oren a 278 Gwyrdd. Ystyrir bod safleoedd coch yn debygol iawn o gyfrannu’n sylweddol at lygredd cyrff dŵr, mae mwy o ansicrwydd am safleoedd Oren, ac mae angen rhagor o wybodaeth i benderfynu a ddylid eu hailddosbarthu yn safleoedd Coch neu Wyrdd (cyfranwyr ansylweddol).

Pa gamau rydyn ni’n eu cymryd nawr?

Cafodd y Rhaglen Mwyngloddiau Metel (Dim Glo) (neu’r ‘Rhaglen’) ei sefydlu yn 2020 i barhau â’r gwaith hwn. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal ar y cyd gan CNC a’r Awdurdod Glo. Mae’r Rhaglen yn un o nifer sy’n cyflawni’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon yng Nghymru, gyda’r nod o ddiogelu a gwella’r amgylchedd dŵr er budd pobl a bywyd gwyllt.

Prif amcan y Rhaglen yw sicrhau afonydd glanach, ac wrth wneud hynny, cyfrannu’n uniongyrchol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel y manylir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydyn ni’n cynnal rhaglen dreigl aml-flwyddyn o asesiadau ac arolygon o’r safleoedd Coch ac Oren. Byddwn yn asesu safleoedd i nodi a mesur ffynonellau llygredd, a lle bo’n briodol ac yn ymarferol, byddwn yn cynllunio a gweithredu gwaith ymyrryd. Gall y rhain gynnwys cynlluniau rheoli dŵr wyneb a sborion a/neu gynlluniau i drin dŵr mwyngloddiau.

Wrth fynd i’r afael â phroblemau ansawdd dŵr drwy waith adfer, efallai y  bydd cyfle hefyd i ymgorffori mesurau sydd o fudd i iechyd a llesiant cymunedau lleol, economïau lleol a’r amgylchedd ehangach, yn cynnwys yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth a gwarchod/hybu treftadaeth ddiwylliannol.

Mae’r Rhaglen hefyd yn buddsoddi mewn prosiectau ymchwil sy’n archwilio atebion triniaeth arloesol, yn cynnwys gweithio gydag academyddion ac arbenigwyr o fyd diwydiant ar dreialon triniaeth mewn labordai a threialu gwaith maes.

Rydyn ni wrthi’n datblygu strategaethau adfer yn ein safleoedd blaenoriaeth uchaf ac yn cynllunio gwaith ymyrryd ‘ar lawr gwlad’ lle mae prosiectau wedi’u datblygu’n ddigonol.

Pwy arall fydd yn rhan o hyn?

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid eraill yn cynnwys Llywodraeth Cymru, prifysgolion, awdurdodau lleol, tirfeddianwyr ac eraill sy’n ymddiddori mewn mwyngloddio, ac yn parhau i nodi atebion arloesol a chwilio am gymorth i gyflawni’r rhain mewn safleoedd blaenoriaeth. Byddwn hefyd yn siarad â chymunedau a busnesau lleol i gael eu syniadau a’u mewnbwn ar gynlluniau posibl.

Ein prosiectau

Gwaith plwm Cwmystwyth

Mwynglawdd plwm a sinc Dylife

Prosiect mwynglawdd metel Cwmnewydion

Gwaith plwm Nant y Mwyn

Mwynglawdd metel y Fan

Mwynglawdd Pandora

Mwynglawdd Parc

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel