Prosiect mwynglawdd metel Cwmnewydion
Trosolwg
Mae prosiect Cwmnewydion yn canolbwyntio ar fwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch, sydd wedi'u lleoli o fewn Cwm Cwmnewydion, tua 1.5 km i'r de-orllewin o bentref Trisant a 3.75 km i'r gogledd-orllewin o Bont-Rhyd-y-groes yng Ngheredigion.
Mae cwrs dŵr Nant Cwmnewydion yn llifo ar hyd llawr y dyffryn yn union gerllaw ffin ogleddol mwynglawdd Graig Goch.
I fyny'r afon i'r dwyrain o fwynglawdd Graig Goch mae Ceuffordd Frongoch a mwynglawdd Wemyss.
Mae mwynglawdd Frongoch ymhellach i'r gogledd ddwyrain ac mae mewn dalgylch dŵr wyneb gwahanol (Nant Cell), er bod y dŵr daear o fewn system y mwynglawdd yn gollwng o geuffordd Frongoch.
Mae nifer o gamau gwaith adfer eisoes wedi'u gwneud ym mwynglawdd Frongoch, sydd wedi mynd i'r afael â nifer o broblemau dŵr wyneb gyda dyluniadau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ym mwynglawdd Wemyss.
Roedd mwynglawdd Graig Goch yn cynhyrchu mwyn plwm a sinc o 1840 i 1889 ac yn gweithio ar yr un wythïen â mwyngloddiau Wemyss a Frongoch gerllaw tua'r dwyrain, er nad yw'r gweithfeydd mwyngloddio wedi'u cysylltu o dan yr wyneb.
Mae Ceuffordd Frongoch yn mynd yn fras i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol am oddeutu 1.5km ac yn draenio mwynglawdd Wemyss o fewn yr un dalgylch, a mwynglawdd Frongoch.
Mae Nant Cwmnewydion wedi'i halogi'n helaeth â sinc, plwm a chadmiwm, a'r ffynhonnell fwyaf yw Ceuffordd Frongoch. Mae'r nant yn ffynhonnell sylweddol o fetelau i Nant Magwr ac Afon Ystwyth, gan achosi methiannau mewn safonau ar gyfer sinc, plwm a chadmiwm.
Opsiynau Lliniaru Posib
- Trin dŵr mwynglawdd
- Rheoli dŵr wyneb e.e. draenio safle mwynglawdd
- Rheoli gwaddodion
- Ail-broffilio gwastraff mwynglawdd
- Capio gwastraff mwynglawdd
- Rheoli dŵr wyneb e.e. gwahanu
Hynt y brosiect
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn casglu gwybodaeth i ddeall yn well y risg o lygredd o Fwynglawdd Wemyss, Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch er mwyn nodi rhestr o atebion lliniaru posibl. Mae Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch yn cael eu datblygu gyda’i gilydd o dan un prosiect o’r enw Cwmnewydion, gyda Mwynglawdd Wemyss yn cael ei ddatblygu fel prosiect ar wahân o fewn y Rhaglen gyfan.
Mae timau’r ddau brosiect yn gweithio’n agos i chwilio am arbedion a sicrhau’r buddion mwyaf posibl.
Rydyn ni wedi comisiynu Adroddiad Cwmpasu sy’n cynnwys Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch ac wedi cynnal asesiadau archeolegol ac ecolegol, er mwyn nodi’r problemau sy’n achosi llygredd i’r cwrs dŵr/ansawdd y dŵr ac y mae angen mynd i’r afael â hwy.
Rydym wedi gosod strwythur monitro llif yng ngheufforff Frongoch i gofnodi llifiant gan ddal i fonitro ansawdd dŵr yn fisol mewn lleoliadau ar hyd Nant Cwmnewydion
Y camau nesaf
Ym Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch, y cam nesaf yw cynnal Astudiaeth Ddichonoldeb er mwyn asesu addasrwydd technegol, amgylcheddol ac economaidd yr amrywiol opsiynau lliniaru posibl.
Rydyn ni’n ystyried opsiynau ymyrryd posibl i leihau llygredd i’r dyfrffyrdd cyfagos, gyda’r nod o wella ansawdd y dŵr ar hyd Nant Magwr ac Afon Ystwyth.
Mae pob safle’n unigryw gyda’i heriau a’i gyfleoedd ei hun. Mae’n debygol y bydd angen cyfuniad o’r opsiynau lliniaru posibl ar lefel uchel er mwyn llwyddo i wella ansawdd dŵr yn Nant Cwmnewydion, Nant Magwr ac Afon Ystwyth.
Hoffem gael eich barn a’ch safbwyntiau wrth i ni barhau i ddatblygu ein hopsiynau, yn ogystal â’r cyfleoedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach sydd ar gael.
Bydd hyn yn arwain at restr fer o opsiynau dichonadwy a fydd yn arwain at ddewis strategaeth adfer a ffefrir ar gyfer y safle.
Mae’n debygol mai strategaeth fesul cam fydd hon, sy’n targedu ffynonellau llygredd penodol dros gyfnod o sawl blwyddyn, gan ganiatáu dylunio, adeiladu ac yna asesu pob ymyrraeth.
Hoffem i’r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill fod yn rhan allweddol o’r broses hon.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddarach yn y prosiect, ac yn cyhoeddi cylchlythyrau a fydd yn esbonio hynt y prosiect.
Llinell Amser Gyfredol
Hyd yma: Asesu Arolwg gwaelodlin a monitro ansawdd dŵr er mwyn llywio Astudiaeth Gwmpasu a rhestr hir o opsiynau adferiad.
Haf 2024: Diffinio’r broblem Astudiaeth Dichonoldeb i asesu rhestr hir o opsiynau ac i nodi rhestr fer addas.
Gwanwyn 2025: Dewisiadau’r rhestr fer Digwyddiad ymgynghori Rhanddeiliaid er mwyn cael adborth ar y rhestr fer o opsiynau.
Haf 2025: Strategaeth adfer a ffefrir Datblygiad o’r Strategaeth Adfer a ffefrir i’r safle gyda opsiynau ymyrraeth graddedig er mwyn eu hystyried ymhellach.
2026 Ymlaen: Y dewis a ffefrir Dylunio ac adeiladu yr opsiwn ymyrraeth gyda’r sgôr uchaf gan ddilyn gyda asesiad o’r effaith ar safon dŵr.
Cylchlythyrau
2023
More Information
Os hoffech ofyn am wybodaeth benodol, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio cwmnewydion@metalmineswales.co.uk.
Dolenni gwefan
Gwaith Plwm a Sinc Wemyss - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Cadw mewn Cysylltiad a Sut i Gymryd Rhan
Rydym am glywed gennych wrth i ni symud ymlaen â Phrosiect Mwynglawdd y Cwmnewydion ac archwilio’r cyfleoedd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach y gellir eu datblygu fel rhan o’r strategaeth a ffefrir ar gyfer y safle hwn.
Os hoffech chi rannu eich barn neu gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
cwmnewydion@metalmineswales.co.uk
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook