Gwaith Plwm Cwmystwyth

Yn cau 19 Hyd 2043

Wedi agor 16 Hyd 2023

Trosolwg

Cwmystwyth

Lleolir mwynglawdd Cwmystwyth tua 6km i’r gogledd-ddwyrain o Bont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion.

Cefndir

Mae mwyngloddiau metel segur yn achosi llygredd sylweddol yng Nghymru, gan niweidio ecoleg afonydd gyda metelau fel cadmiwm, plwm, sinc a chopr. Mae tua 1,300 o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru yr amcangyfrifir eu bod yn effeithio ar 700 cilometr o afonydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Awdurdod Glo yn gweithio gyda’i gilydd ar y Rhaglen Mwyngloddiau Metel i fynd i’r afael â’r etifeddiaeth lygrol hon. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.

Prif nod y rhaglen, lle bo hynny’n ymarferol yn dechnegol ac yn ariannol, yw lleihau llygredd o fwyngloddiau metel segur er mwyn gwella cyflwr ein hafonydd, er budd yr amgylchedd, pobl a’r economi.

Wrth wneud hynny, bydd hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru, ac yn gwella buddion llesiant cymunedol, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cyd-destun y Prosiect

Lleolir hen Fwynglawdd Cwmystwyth yn rhannau uchaf Cwm Ystwyth tua un cilometr i’r dwyrain o bentref Cwmystwyth, Ceredigion. Mae Afon Ystwyth yn derbyn yr holl ddŵr wyneb ac is-wyneb sy’n draenio o’r mwynglawdd, sy’n ffynhonnell sylweddol o lygredd metelau, gan gynnwys plwm, cadmiwm a sinc.

Mae’r mewnbwn hwn o fetelau yn cyfrannu at fethiant Afon Ystwyth i gyrraedd y safonau sydd ganddi o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer sinc, gyda sinc yn parhau i fod yn uwch i lawr yr afon o’r mwynglawdd cyn belled â’r môr ym Mae Ceredigion. Mae’r mewnbynnau metel yn effeithio ar ansawdd dŵr ac ecoleg.

Felly mae Cwmystwyth yn un o’n safleoedd blaenoriaeth uchel ac yn destun prosiect penodol i leihau’r llygredd hwn.

Mae’r mwynglawdd mewn ardal sydd â gwerth uchel o ran ecoleg, tirwedd a threftadaeth, a bydd y prosiect yn ystyried y sensitifrwydd a chyfyngiadau amgylcheddol hyn ar y safle ac oddi ar y safle.

Bydd tîm y prosiect yn gweithio’n rhagweithiol gyda chymunedau a’n partneriaid i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl o unrhyw waith a wneir.

Opsiynau Lliniaru Posibl

Opsiynau Lliniaru Posib:

  • Rheoli cyrsiau dŵr, e.e. gwahaniad
  • Rheoli dŵr wyneb, e.e. draeniad ar y safle mwyngloddio
  • Mesurau rheoli i atal erydiad pentyrrau sborion
  • Ailbroffilio gwastraff mwyngloddio gyda/heb gapio
  • Trin dŵr mwynglawdd
  • Rheoli gwaddod

Y Camau Nesaf

Bydd dyluniad amlinellol y camau ymyrryd ac adfer a nodir gan yr astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei ddatblygu ymhellach, gan gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid, cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio a mathau eraill o ganiatâd rheoleiddiol y mae eu hangen.

Strategaeth fesul cam fydd hon, gyda’r gwaith o ddylunio ac adeiladu gwaith galluogi (rheoli dŵr wyneb a chyrsiau dŵr) wedi’i ddilyn gan 12 mis o waith monitro. Bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio i fireinio dyluniad y system trin dŵr mwyngloddiau.

Gwaith adeiladu, comisiynu a gweithredu’r system trin dŵr mwyngloddiau yw’r cam olaf ar gyfer rheoli ffynonellau llygredd yn yr hirdymor. Cyflwynir amserlen ddangosol isod. Mae hyn yn amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol.

Hoffem i’r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill chwarae rhan allweddol yn y broses hon. Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddarach yn y prosiect ac yn cyhoeddi cylchlythyrau rheolaidd.

Llinell Amser Gyfredol

 

Treftadaeth ac Ecoleg Mwyngloddio

Saif Mwynglawdd Cwmystwyth o fewn ardal o sensitifrwydd archaeolegol ac ecolegol uchel, sy’n ymwneud â’r mwynglawdd a’i bentyrrau sborion cysylltiedig.

Mae’r rhain yn cynnwys nodweddion ecolegol o ddiddordeb o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mwyngloddiau Cwmystwyth. Mae nifer o blanhigion prin yn tyfu ar y pentyrrau sborion sy’n llawn metel, gan gynnwys cennau a bryoffytau, sy’n ffurfio cynefin ‘glaswelltir metelaidd’.

Mae’r mwynglawdd hefyd wedi’i leoli o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Elenydd ac yn ffinio ag Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Elenydd-Mallaen.

Mae adar o bwys sy’n nythu, ac sydd â safleoedd nythu o fewn yr AGA, yn cynnwys y barcud coch, yr hebog tramor a’r cudyll bach.

Mae Mwynglawdd Cwmystwyth wedi’i chysylltu, trwy Afon Ystwyth, ag ardaloedd ecolegol sensitif pellach i lawr yr afon, ar yr afon ei hun ac ar yr arfordir, lle mae’n arllwys i gynefinoedd morol sensitif ym Mae Ceredigion.

Mae holl safle’r mwynglawdd, gan gynnwys gweithfeydd tanddaearol, wedi’i ddynodi’n heneb gofrestredig. Perchennog y mwynglawdd yw Ymddiriedolaeth Mwynfeydd Cambria, a ffurfiwyd i brynu a chadw Mwynglawdd Cwmystwyth yn 2012.

Mae’r mwynglawdd yn cael ei gydnabod fel un o’r safleoedd mwyngloddio metel pwysicaf yng Nghymru. Mae’r ymddiriedolaeth yn ymdrechu i gadw a hyrwyddo nodweddion diwylliannol ac archaeolegol y safle fel y gall y cyhoedd yn gyffredinol ei werthfawrogi’n well.

Mae rhagor o wybodaeth am Fwynglawdd Cwmystwyth a gwaith Ymddiriedolaeth Mwynfeydd Cambria ar gael yma:

cambrianmines.co.uk

Cylchlythyrau

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Gwybodaeth Bellach

Os hoffech ofyn am wybodaeth benodol, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio cwmystwyth@metalmineswales.co.uk.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Cadw mewn Cysylltiad a Sut i Gymryd Rhan

Rydym am glywed gennych wrth i ni symud ymlaen â Phrosiect Mwynglawdd y Cwmystwyth ac archwilio’r cyfleoedd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach y gellir eu datblygu fel rhan o’r strategaeth a ffefrir ar gyfer y safle hwn.

Os hoffech chi rannu eich barn neu gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

cwmystwyth@metalmineswales.co.uk

Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio - Logo

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel