Mwynglawdd Parc

Yn cau 21 Rhag 2043

Wedi'i agor 18 Rhag 2023

Trosolwg

Parc

Mae Mwynglawdd Parc yng Nghoedwig Gwydyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri, tua 1.6km i'r de-orllewin o Lanrwst a thua 5km i'r gogledd o Fetws-y-Coed.

Bu gwaith achlysurol ym Mwynglawdd Parc rhwng 1855 a 1963 a chloddiwyd dros 10,000 tunnell o blwm a 4,000 tunnell o sinc.

Trwy ei weithfeydd tanddaearol, mae’r mwynglawdd yn cysylltu ag un ar ddeg o fwyngloddiau eraill, ac mae'n agos iawn at nifer o fwyngloddiau annibynnol eraill fel Mwynglawdd Hafna a Mwynglawdd Pandora. 

Pan gaeodd y mwynglawdd ym 1963, safai tomen sborion fawr, sef pentwr o wastraff yn sgil gwaith cloddio, i lawr yr afon o’r brif fynedfa a’r allanfa ar gyfer cludo mwynau (Ceuffordd Lefel 3).  Achosodd fflachlifogydd dros nifer o flynyddoedd erydiad sylweddol ar y domen sborion, gan arwain at ollwng gwaddodion metelaidd ar dir fferm dros 1km i lawr yr afon.

Ym 1977 cynhaliwyd cynllun adfer er mwyn ailbroffilio a chapio’r domen sborion i greu tirffurf sefydlog â draeniad da ac adeiladu sianel wedi ei leinio ar gyfer Nant Gwydyr.

Yn 2011, dymchwelodd Lefel 3 yn agos at y fynedfa, gan achosi i ddŵr lifo allan o’r mwynglawdd o'r Ceuffordd is ar Lefel 4, trwy Kneebones Cutting, sef poncen neu wagle agored. 

Cynhaliwyd adolygiad o fwyngloddio a hydroleg dŵr mwyngloddio yn 2020, a nododd risg isel y byddai dŵr mwyngloddio’n gollwng yn sydyn o Geuffordd 3 a 4.

Fel llawer o hen fwyngloddiau metel, mae gan Fwynglawdd Parc nifer o ddynodiadau ecolegol.  Mae'r Ceuffyrdd dan sylw a'r nodweddion cysylltiedig wedi'u lleoli mewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer glaswelltiroedd metelaidd a'r ystlum pedol lleiaf ac mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd y nodweddion daearegol, casgliadau o blanhigion a safleoedd gaeafgysgu ystlumod.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel