Gwaith Plwm Nant y Mwyn
Trosolwg
Lleolir mwynglawdd Nant y Mwyn gerllaw pentref Rhandir-mwyn yn Sir Gaerfyrddin; tua 10 km i'r gogledd o Lanymddyfri.
Mae tystiolaeth o fwyngloddio hynafol (cyn-Rufeinig) ar y safle, fodd bynnag mae'r rhan fwyaf o'r gweithfeydd yn dyddio o'r 16eg ganrif hyd at yr 20fed ganrif.
Ysbeidiol fu gweithgarwch mwyngloddio yn Nant y Mwyn ar ddechrau’r 20fed ganrif a rhoddwyd y gorau i’r safle yn gynnar yn y 1930au.
Gellir rhannu'r gweithfeydd yn ddwy brif ran; y Mwynglawdd Uchaf a'r Mwynglawdd Isaf.
Gweithfeydd y Mwynglawdd Uchaf yw'r rhai mwyaf ac fe'u ceir ar hyd dyffryn Nant y Bai i'r gogledd o Rhandir-mwyn. Maen nhw'n ffurfio porth Upper Boat Level (neu 'fynedfa'r mwynglawdd') sydd wedi dymchwel, pyllau gwaddodi, lloriau trin, tŷ’r injan a simnai a thomenni sbwriel sylweddol. Lleolir gweithfeydd y Mwynglawdd Isaf gerllaw i'r de-orllewin o Randir-mwyn yng nghwm Nant y Mwyn, er fod y gwaith yn ymestyn i’r gogledd-ddwyrain ar hyd y cwm.
Mae'r gweithfeydd hyn yn cynnwys dyddodion rwbel a hen ardal brosesu’r mwynglawdd, porth Ceuffordd Pannau a phorth Deep Boat Level. Deep Boat Level yw'r prif bwynt gollwng ar gyfer Mwynglawdd Nant y Mwyn ac mae wedi'i leoli ar dir eiddo preswyl. Mae'r porth wedi dymchwel gan achosi i'r dŵr arllwys o siafft tua 50m yn ôl o'r porth gwreiddiol cyn llifo i mewn i Nant y Mwyn trwy lednant Church Terrace.
Mae Nant y Mwyn a Nant y Bai wedi’u halogi’n sylweddol ac yn cyfrannu tua 13 tunnell o sinc, 2 dunnell o blwm a 40 kg o gadmiwm i’r amgylchedd bob blwyddyn. Maent yn ffynhonnell bwysig o fetelau yng nghyd-destun Afon Tywi, gan achosi i'r afon fethu â chyrraedd safonau ar gyfer sinc a chadmiwm, ac mae lefelau sinc yn parhau i fod yn uchel am tua 25km i lawr yr afon o'r mwynglawdd.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook