Mwynglawdd Plwm a Sinc Dylife

Yn cau 19 Hyd 2043

Wedi agor 16 Hyd 2023

Trosolwg

Dylife

Mae Mwynglawdd Dylife 13km i'r gogledd-orllewin o Lanidloes, Powys, ar y ffordd fynyddig i Fachynlleth.

Cafodd ei nodi fel un o brif ffynonellau metelau dalgylch Afon Dyfi ac mae'n gyfrifol am y ffaith fod Afon Twymyn yn methu cyrraedd safonau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewropeaidd ar gyfer sinc, plwm a chadmiwm.

Roedd Dylife yn tynnu plwm a sinc o dair gwythïen: Dylife, Esgairgaled a Llechwedd Ddu. Mae'n bosibl bod y gweithfeydd cloddio cynharaf yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid ac y gallent fod wedi’u cysylltu â chaer Rufeinig Penycrocbren gerllaw.

Mae'r cyfeiriad cynharaf y gwyddys amdano at fwyngloddio yn Dylife yn dyddio i'r 1600au cynnar, ac roedd gweithgarwch yn parhau'n ysbeidiol, drwy flynyddoedd ffyniant canol y 1800au pan adeiladwyd yr olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, hyd at y 1930au, pan ddaeth gweithgarwch yn y mwynglawdd i ben.

Mae'r hanes mwyngloddio helaeth hwn wedi gadael llu o domenni sbwriel noeth, siafftiau, ffosydd, gwaith mwyngloddio tanddaearol ac adfeilion hen strwythurau gan gynnwys cafnau olwyn a dyfrffosydd.

Mae Afon Twymyn ac un o'i llednentydd, Nant Dropyns, yn llifo trwy'r safle, gan dderbyn gollyngiadau a dŵr ffo metelaidd sy'n effeithio ar ansawdd dŵr ac ecoleg. Mae hyn yn golygu bod Afon Twymyn yn methu â chyflawni'r 'statws da' sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr holl ffordd i'w chydlifiad ag Afon Dyfi.

Cwblhawyd gwaith peirianyddol dros dro yn ddiweddar gyda'r nod o atal erydiad a gwella draeniad dŵr wyneb. Y camau nesaf yw symud y Dyluniad Amlinellol o fesurau ymyrryd a nodwyd gan yr Astudiaeth Dichonoldeb ymlaen i Ddyluniad Manwl, gan gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam bod eich barn yn bwysig

I roi eich adborth ar y prosiect hwn, cliciwch yma: https://re-url.uk/W9OD

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel