Mwynglawdd Metel y Fan
Trosolwg
Mae Mwynglawdd y Fan ym mhentref bach gwledig y Fan, tua 3km i'r gogledd-ddwyrain o Lanidloes, Powys.
Roedd Mwynglawdd y Fan yn hen fwynglawdd plwm, sinc ac arian.
Roedd yn un o'r mwyngloddiau plwm mwyaf cynhyrchiol yn Ewrop yn y 1870au.
Mae cofnodion o dreialon mwyngloddio yn dyddio'n ôl i 1850 a chafodd y mwyn cyntaf ei gynhyrchu ym 1866.
Dechreuodd cyfradd y cynhyrchu ostwng yn y 1890au ac yn y diwedd caeodd y mwynglawdd ym 1921 yn bennaf oherwydd y gostyngiad mewn prisiau plwm oherwydd mewnforion rhatach oddi tramor.
Mae nifer o asedau treftadaeth yn parhau ar safle'r mwynglawdd, er bod y rhan fwyaf o olion y gwaith blaenorol wedi’u clirio erbyn heddiw.
Mae’r nodweddion treftadaeth hyn yn cynnwys corn simnai, hen fynedfeydd a cheuffyrdd, twnnel rheilffordd dan do, colofnau tramffordd ac olion strwythurau’r llawr trin a’r olwyndy.
Bydd asedau o'r fath yn cael eu hasesu gan arbenigwyr i helpu i ddiogelu a gwarchod y nodweddion treftadaeth hyn.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook