Rheoli Risg Tomen Lo Penyrenglyn - Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gosod draeniau ar y domen lo ym Mhenyrenglyn i leihau'r risg o dirlithriadau.
Dyma ddogfennau'r cais cynllunio drafft rydyn ni'n bwriadu eu cyflwyno i Gyngor Rhondda Cynon Taf i'w cymeradwyo (dogfennau Saesneg yn unig).
1. Ffurflen Gais a Thystysgrifau
2. Ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
3. Cynllun Lleoliad
4. Cynllun Trefniant Cyffredinol
5. Lluniad o Nodweddion Draenio, Manylion Traciau a Ffyrdd
6. Uwchgynllun Amgylcheddol
7. Croestoriad Hir Tirwedd
8. Croestoriad Tirwedd
9. Strategaeth Draenio
10. Datganiad Cynllunio
11. Datganiad Seilwaith Gwyrdd
12. Adroddiad Amgylcheddol y Prosiect (yn cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol)
13. Gwerthusiad Tirwedd a Gweledol
14. Adroddiad Ecoleg
15. Asesiad Cyflwr Cynefin, Arolwg Blodau ac Adroddiad Arolwg INNS
16. Nodyn Technegol Asesiad Coed ar Lefel y Ddaear (Ystlumod)
17. Nodyn Technegol Arolwg y Troellwr
18. Nodyn Technegol Asesiad Addasrwydd Cynefin Pathewod
19. Arolwg Coed (2024)
20. Asesiad Archaeolegol wrth Ddesg
21. Arolwg Archaeolegol Tramffordd Gludo’r Inclein
22a. Astudiaeth Desg Geotechnegol
22b. Adroddiad Ymchwiliad Tir
23. Asesiad Risg Cloddio am Lo
24. Asesiad Sgrinio Cydymffurfiaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
25. Asesiad Infertebratau
26. Datganiad dylunio a mynediad
Darllenwch a rhowch eich adborth gan ddefnyddio'r ddolen arolwg ar-lein isod neu drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol at penyrenglyn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae copïau papur o'r dogfennau ar gael ym Mhrosiect Penyrenglyn / Neuadd Plant y Cymoedd ar Corbett Street, Penyrenglyn, CF42 5ET.
Bydd sesiwn galw heibio gyhoeddus hefyd ym Mhrosiect Penyrenglyn / Neuadd Plant y Cymoedd ddydd Llun 22 Medi 2025 rhwng 3:00pm – 7:00pm, i bobl weld y cynlluniau drafft, siarad â swyddogion y prosiect, a gofyn cwestiynau am y gwaith arfaethedig.
Pam bod eich barn yn bwysig
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi helpu i lunio'r cynnig ar gyfer y gwaith draenio hanfodol ar y domen glo. Trwy rannu eich adborth, gallwch ddylanwadu ar sut mae'r prosiect yn cael ei ddylunio a'i gyflwyno i sicrhau ei fod yn diogelu'r gymuned leol a'r amgylchedd. Bydd eich ymatebion yn cael eu hystyried cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.
Rhannwch eich barn
Ardaloedd
- Treherbert
Cynulleidfaoedd
- Coal Tip Safety
Diddordebau
- Coal Tip Safety
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook