Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'n gynaliadwy yr coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnodd Coedwig Mathrafal yn amlinellu rheolaeth 22 bloc coedwig i’r dyfodol sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio ardal Cynllun Adnodd Coedwig Mathrafal. Mae blociau coedwig Mathrafal wedi’u gwasgaru dros ardal o 175 km2, rhwng ac o amgylch y dref a phentrefi’r Trallwng, Llanfair Caereinion a Llanfyllin. Mae’r blociau wedi’u lleoli i’r gorllewin o’r Trallwng, gyda’r clwstwr mwyaf o amgylch pentref Meifod (Ffigur 1). Mae nifer o’r blociau mwyaf ar hyd dyffryn Meifod a gellir eu cyrraedd o ffordd A495. Mae ardal y cynllun yn 636.4 ha i gyd ac yn cynnwys coed llydanddail yn bennaf.
Mae’r cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnodd Coedwig Mathrafal yn cynnwys ffermdir caeedig wedi’i bori a chnydau âr, yn nodweddiadol ar waelod y dyffrynnoedd ac ar ben y bryniau, a blociau o goedwigoedd conwydd a choetiroedd llydanddail, yn nodweddiadol ar lethrau mwy serth y dyffryn. Mae holl flociau Coedwig Mathrafal, ac eithrio Big Forest a Figyn Wood, wedi cael eu neilltuo dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ar gyfer mynediad agored ar droed, a hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau drwy ganiatâd. Ceir rhwydwaith eang o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n cysylltu llawer o flociau Mathrafal â’r dirwedd ehangach. Mae Llwybr Cenedlaethol pellter hir Glyndŵr yn rhedeg drwy flociau Broniarth a Choed Figyn, ac yn ffinio ar nifer o’r blociau eraill.
Mae Coedwig Mathrafal yn perthyn i ddeuddeg dalgylch afon gwahanol. Mae gan bump o’r rhain statws Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr cyffredinol ‘Da’, ac mae gan bump arall statws cyffredinol ‘Cymedrol’; mae dalgylchoedd ‘Guilsfield Brook – o’r tarddiad i’r cydlifiad â Nant Rhyd-y-Moch’ ac ‘Afon Banwy’ wedi cael statws cyffredinol ‘Gwael’. Gweler adran Dŵr Croyw a Pherygl Llifogydd i gael rhagor o fanylion.
Isod mae crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Mathrafal, ac yna mapiau dangosol ar gyfer y Weledigaeth Hirdymor, Strategaethau Rheoli Coedwigoedd ac Ailstocio a gynigir ar gyfer y goedwig:
Prif Amcanion, Cyfleoedd a Blaenoriaethau:
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Gogledd)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Dwyrain)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (De)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Gorllewin)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Gogledd)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Dwyrain)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (De)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Gorllewin)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Gogledd)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Dwyrain)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (De)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Gorllewin)
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwig Mathrafal i'n helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook