Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi – Ymgynghoriad Cyn Cynllunio
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio cyhoeddus ar y dyluniadau drafft ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi, a fydd yn rhedeg o 7 Ebrill tan 18 Mai 2026.
Mae llifogydd llanwol wedi effeithio ar y rhan hon o Aberteifi yn y gorffennol, gan effeithio ar gartrefi, busnesau a llwybrau trafnidiaeth ar hyd glan ogleddol Afon Teifi.
Mae tua 90 eiddo mewn perygl arbennig, ac mae cynnydd yn lefelau'r môr, ynghyd â newid hinsawdd, yn golygu bod y bygythiad yn debygol o gynyddu.
Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys wal llifogydd llanwol newydd, gwelliannau ar hyd y Strand, ac ardaloedd newydd o gynefin rhynglanwol. Nod y cynlluniau hyn yw amddiffyn y dref yn y dyfodol wrth wella rhannau o lan yr afon.
Bydd gwella amddiffyniad rhag llifogydd yn helpu i ddiogelu cartrefi, busnesau, mannau cymunedol a gwasanaethau hanfodol, gan hefyd gefnogi gwydnwch hirdymor y dref.

Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i weld y cynigion cynnar a helpu i lunio'r dyluniad terfynol.
Dyma ddogfennau'r cais cynllunio drafft rydyn ni'n bwriadu eu cyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion i'w cymeradwyo.
- Ffurflen gais
- Datganiad Cynllunio – Cymraeg
- Datganiad Dylunio a Mynediad - Cymraeg
- Hysbysiad Safle
- Lluniadau Dylunio
- Datganiad Seilwaith Gwyrdd ac Uwchgynllun Tirwedd
- Datganiad Dull Coedyddiaeth
- Asesiad Canlyniadau Llifogydd
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Datganiad Amgylcheddol
- Uwchgynllun Amgylcheddol
- Ffotogyfosodiadau
- Darluniau
Darllenwch a rhowch eich adborth gan ddefnyddio'r ddolen i’r arolwg ar-lein isod neu drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol yn cynllunllanwaberteifi@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae copïau papur o'r dogfennau ar gael yn Llyfrgell Aberteifi, Stryd Morgan
Aberteifi, SA43 1DG.
Sesiwn galw heibio
Bydd sesiwn galw heibio i’r cyhoedd yn Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi, ddydd Mercher 13 Mai, 1-7pm.
Dyma gyfle i gwrdd â thîm y prosiect, gofyn cwestiynau a rhoi adborth ar y gwaith arfaethedig.

Pam y mae eich barn chi yn bwysig
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi'r cyfle i chi helpu i lunio'r cynnig ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi. Drwy rannu eich adborth, gallwch ddylanwadu ar sut mae'r prosiect yn cael ei gynllunio a'i gyflwyno i sicrhau ei fod yn amddiffyn y gymuned leol a'r amgylchedd. Bydd eich ymatebion yn cael eu hystyried cyn i gais cynllunio ffurfiol gael ei ystyried gan Gyngor Sir Ceredigion.
Digwyddiadau
-
Sesiwn galw heibio
O 13 Mai 2026 at 13:00 i 13 Mai 2026 at 19:00Join us at our public drop-inn session on Wednesday 13 May 2026 to meet the project team, ask questions and provide feedback. The session will be open 1-7pm at Tower Room, Cardigan Castle.
Your views will help shape the final design.
Ardaloedd
- Aberteifi/Cardigan-Mwldan
- Aberteifi/Cardigan-Rhyd-y-Fuwch
- Aberteifi/Cardigan-Teifi
Cynulleidfaoedd
- Llifogydd
Diddordebau
- Llifogydd
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook