Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am reoli coetiroedd a choedwigoedd cyhoeddus Cymru, sef Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r Ystad yn darparu adnoddau pren gwerthfawr a chânt eu rheoli hefyd er budd a llesiant pobl a’r cymunedau lleol sy’n ymweld â nhw, yn ogystal â’r bobl sy’n dibynnu arnynt i wneud bywoliaeth. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys sicrhau eu bod yn gydnerth yn y tymor hir, mewn perthynas â’r argyfyngau natur a hinsawdd, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol hefyd allu mwynhau’r buddion maent yn eu cynnig. Bob deng mlynedd, mae CNC yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig, y Cynllun Adnoddau Coedwig.
Lleoliad Rhuthun
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun yn cynnwys wyth bloc o goedwig a chyfanswm ei arwynebedd yw 749 ha. Ar y cyfan, mae'r gwahanol flociau coedwig yn rhai conifferaidd yn bennaf, er bod rhai blociau unigol yn cynnwys cyfrannau uchel o goed llydanddail. Mae'r blociau wedi'u gwasgaru ar draws ardal o tua 100 km2 o gwmpas trefi yr Wyddgrug, Rhuthun a Dinbych, gyda'r tri bloc mwyaf dwyreiniol – Coed Moel Famau, Nercwys a Llangwyfan - yn gorwedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae'r holl flociau ar wahân i Langwyfan o fewn 4 km i ffordd yr A494, sy'n rhedeg tua'r gogledd-ddwyrain trwy ardal y cynllun. Coed Moel Famau, sy'n 428 hectar, yw'r bloc mwyaf ac mae’n gorwedd ar asgwrn cefn ucheldir Bryniau Clwyd tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.
Mae’r cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun yn cynnwys tir fferm amgaeëdig wedi'i bori, rhostir agored a blociau o goedwigoedd conwydd masnachol, sydd fel arfer wedi'u lleoli ar y tir uwch, gyda choetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau isaf ac ar hyd glannau afonydd. Mae coedwig fawr Clocaenog, a reolir hefyd gan CNC, i'r gorllewin o Gynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun. Mae holl flociau coedwig Rhuthun wedi'u neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ac mae hefyd yn caniatáu mynediad caniatáol i geffylau a beiciau. Ceir rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy'n cysylltu'r blociau â'r dirwedd ehangach, gyda llwybr pellter hir Clawdd Offa'n rhedeg ar hyd ymyl blociau Coed Moel Famau a Llangwyfan.
Mae Coedwig Rhuthun yn syrthio i chwe dalgylch afon gwahanol fel y'u diffinnir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae'r dalgylchoedd hyn i gyd yn perthyn i ddalgylchoedd mwy Clwyd a Dyfrdwy, ac o'r chwech, mae dau yn meddu ar statws cyffredinol 'Da', dau yn statws cyffredinol 'Cymedrol' a dau statws cyffredinol 'Gwael'.
Cyfleoedd a Blaenoriaethau
Mae'r ddogfen hon yn helpu i esbonio'r categorïau a ddangosir ar y mapiau isod:
Coed Moel Famau
Llangwyfan
Nercwys
Rhyd y Gaseg a Pool Parc
Bontuchel a Trer Parc
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y Cynllun Adnoddau Coedwig
Yn ogystal â’r arolwg ar-lein hwn, cynhelir sesiwn galw heibio yn Neuadd Bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanbedr DC, LL15 1UP, rhwng 3pm a 7.15pm ddydd Llun 27 Mawrth 2023, er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid drafod Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun wyneb yn wyneb gyda chynllunwyr coedwig CNC.
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Rhuthun er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Share
Share on Twitter Share on Facebook