Cynllun Adnoddau Coedwig Machynlleth

Ar gau 9 Hyd 2022

Wedi'i agor 5 Medi 2022

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'n gynaliadwy yr coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Arwynebedd cynllun adnoddau Coedwig Machynlleth yw 1,809 hectar, yn cynnwys y pum ardal goedwig wahanol o Bennal, Pont Dyfi, Cilgwyn, y Bont-faen a Chomins-coch.

Mae’r cynllun yn ymdrin â blociau coedwigoedd cwbl weithredol a chynhyrchiol sydd nid yn unig yn darparu buddion gwasanaethau ecosystemau lluosog ond yn cyfrannu at ddiwydiant coed canolbarth Cymru a’r economi leol.

Mae’r coedwigoedd yn gorwedd mewn tirwedd sy’n pontio Dyffryn Dyfi, dalgylch afon pwysig sy’n bwydo i mewn i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Aber Afon Dyfi ac yn llifo allan i Fae Ceredigion.

Mae rhannau Pennal a Phont Dyfi o'r goedwig o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae dynodiadau pwysig eraill sy'n agos at y blociau coedwig hyn yn cynnwys ACA a SoDdGA Cadair Idris i'r gogledd a SoDdGA Pumlumon, SoDdGA Cwm Llyfnant, SoDdGA Mwyngloddfeydd Esgair Hir ac Esgair Fraith a SoDdGA Pencreigiau'r Llan i'r de, yn agos at y Bont-faen.

Mae'r boblogaeth fawr agosaf yn byw yng nghymuned tref farchnad Machynlleth (poblogaeth 2,235).  Mynediad i'r coedwigoedd: ar gyfer Pennal a Phont Dyfi, ewch ar hyd yr A487; ar gyfer Cilgwyn ar hyd y B4404; ar gyfer y Bont-faen trwy ffordd y Bont-faen i'r de o Fachynlleth; ac ar gyfer Comins-coch ar hyd cefnffordd yr A470.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:

Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Machynlleth

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi'r map

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (A - Pennal a Phont Dyfi)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (B - Forge)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (C - Commins Coch)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (D - Cilgwyn)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (A - Pennal a Phont Dyfi)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (B - Forge)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (C - Commins Coch)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (D - Cilgwyn)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (A - Pennal a Phont Dyfi)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (B - Forge)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (C - Commins Coch)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (D - Cilgwyn)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:     

  • Drwy gydol cyfnod y cynllun sydd ar y gweill, bydd y blociau amrywiol o Goedwig Machynlleth yn parhau i fod yn goetiroedd cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol yn cael eu gwella'n sylweddol, gan ddarparu mwy o wytnwch i blâu, clefydau a newidiadau hinsoddol.
  • Bydd ardaloedd ‘Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol’ yn cael eu trosi'n gyson yn ôl yn goetir llydanddail brodorol, gyda chysylltedd rhwng y nodweddion gweddilliol hyn yn cael ei gadw a'i wella drwy reoli cnydau cyfagos. 
  • Bydd ehangu coridorau glannau afon cadarn o goed llydanddail brodorol a choetir olynol yn gwella cysylltedd cynefinoedd ymhellach ac yn darparu tir clustog gwell i ddiogelu ansawdd dŵr a nodweddion dynodedig ymhellach i lawr y dalgylch, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol.
  • Ffefrir dull ‘System Goedamaeth Fach ei Heffaith’ cynyddrannol lle bynnag y bydd cyfyngiadau ffisegol mynediad, datguddiad a hanes rheoli cnydau cyfagos yn caniatáu, gan ddod â 557 hectar (31%) o’r coetir o dan ryw ffurf o reolaeth gorchudd parhaus. Wrth i gnydau ifanc y dyfodol gael eu cynnwys mewn cylchred o deneuo rheolaidd, bydd y gyfran hon yn cynyddu ymhellach dros amser.
  • Bydd lledaeniad cyflym Phytophthora ramorum yn gofyn am gael gwared ar gnydau coed llarwydd yn gyflym iawn ar draws ardal y cynllun. Gyda 12% o'r goedwig yn cynnwys rhywogaethau coed llarwydd ar hyn o bryd, bydd eu symud yn ffactor arwyddocaol sy'n ysgogi'r rhaglen lwyrgwympo arfaethedig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
  • Bydd nodi a chadw nodweddion treftadaeth o fewn y goedwig, a darparu cyfleoedd mynediad iach i'r gymuned, yn parhau i fod yn amcanion pwysig.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer  Machynlleth i'n helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Ardaloedd

  • Machynlleth

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig