Ymgynghoriad ar ein Hofferyn Bandio Gosodiadau arfaethedig

Ar gau 13 Tach 2023

Wedi'i agor 21 Awst 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 22 Ion 2024

Fel rhan o’n hymrwymiad i asesu’n barhaus y modd y cyflawnwn ein gwasanaethau a’r modd yr adolygwn ein taliadau ar gyfer gweithgareddau rheoleiddio, a hefyd er mwyn sicrhau bod ein prosesau mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, aeth CNC ati i gomisiynu Adolygiad Strategol o Godi Tâl (SRoC) ar gyfer gwasanaethau trwyddedu a ddarperir i’n cwsmeriaid.

Fel rhan o’r ymgynghoriad hwnnw, fe wnaethom gynnig cyflwyno pedwar band codi tâl newydd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau gosodiadau. Tra bo rhaglen y SRoC wedi cael cymeradwyaeth ar gyfer y taliadau yn y maes hwn, yn ôl adborth a ddeilliodd o ymgynghoriad SRoC tan fis Ionawr 2023, roeddech o’r farn nad oeddem wedi cyflwyno digon o wybodaeth am y pedwar band newydd na’r modd y byddent yn cael eu rhoi ar waith.

Aethom ati i egluro sut byddai’r offeryn bandio arfaethedig yn gweithio, a rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2023 cynhaliwyd ymgynghoriad arall (a barodd 12 wythnos) er mwyn rhannu ein cynigion a cheisio adborth. Rydym wedi ystyried yr adborth a gawsom, ac o ganlyniad rydym wedi cyflwyno newidiadau i’r canllawiau a’r offeryn bandio.

O 23:59 ar 14 Ionawr 2024, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio ein hofferyn Asesu Risgiau Gweithredol (Opra) i bennu taliadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau. O 00.00  ar 15 Ionawr 2024, yn achos yr holl geisiadau y byddai’n ofynnol iddynt gael sgôr Opra o’r blaen, bydd angen iddynt ddefnyddio’r offeryn bandio codi tâl newydd i gyfrifo’r tâl sy’n daladwy.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio Opra i bennu’r tâl parhau blynyddol sy’n daladwy – er, byddwn yn adolygu’r maes hwn a fydd yn ffurfio rhan o’n rhaglen waith tymor hwy.

Ffeiliau:

Trosolwg

Fel corff Llywodraeth Cymru, rhaid i CNC gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni adennill costau’r gwasanaethau rheoleiddio a ddarparwn yn llawn oddi wrth y rhai sy’n eu defnyddio, yn hytrach na chael y gwasanaethau hynny wedi’u hariannu drwy drethiant cyffredinol.

Rhwng Hydref 2022 ac Ionawr 2023, fe wnaethom ymgynghori ar daliadau ceisiadau newydd ar gyfer nifer o gyfundrefnau, gan gynnwys gosodiadau. Gwnaethom y newidiadau hyn oherwydd nad oedd ein taliadau ar y pryd yn adlewyrchu'r gost o ddarparu ein gwasanaeth i chi. Rhoddwyd y newidiadau hyn ar waith i adennill ein costau. 

Fel rhan o’r ymgynghoriad hwnnw, cynigiom gyflwyno pedwar band codi tâl newydd ar gyfer ceisiadau am drwydded gosodiad.  Dywedodd yr adborth a gawsom drwy’r ymgynghoriad wrthym eich bod yn teimlo nad oeddem wedi darparu digon o wybodaeth am y pedwar band newydd a sut y byddent yn berthnasol. Gwnaethom ymrwymo i ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid gyda mwy o fanylion cyn penderfynu a ddylid cyflwyno'r offeryn bandio newydd.

I benderfynu pa fand tâl sy'n berthnasol i gais, rydym wedi datblygu offeryn bandio. Bwriad yr offeryn bandio yw cyfateb y tâl sy'n daladwy yn agosach â'r amser y mae'n ei gymryd i benderfynu ar bob cais ac felly'r gost i ni o ddarparu'r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn wahanol i’r offeryn OPRA, lle talodd ymgeiswyr swm yn seiliedig ar ‘ffactor risg’ amgylcheddol ar gyfer y safle cyfan.

Mae'r asesiad sydd ei angen i benderfynu ar amrywiad yn benodol i gais. Gall amrywio rhwng ceisiadau a wneir gan yr un gweithredwr safle, ac rydym am i’r tâl adlewyrchu cost y gwasanaeth a ddarperir. Nid un dull sy'n addas i bawb fydd hwn, ond un hyblyg, i gyd-fynd â'r cais unigol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: sroc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Strategic review of charging