Rydym yn ymgynghori ar ein cynigion i gynyddu taliadau a sut rydym yn ariannu rhai o'n gwasanaethau rheoleiddio. Gallwch ddod o hyd i'r cynigion codi tâl llawn isod. Darllenwch hwn cyn bwrw ymlaen â'r cwestiynau.
Mae cwestiynau ein hymgynghoriad yn gofyn i chi am eich barn ar ein cynigion, yn gyffredinol ac yn ôl meysydd rheoleiddio penodol. Byddwn yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynigion terfynol, yr ydym yn bwriadu eu gweithredu o Ebrill 2023, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
Mae sawl adran yn yr ymgynghoriad hwn. Byddem yn croesawu eich adborth ar gynifer o'r rhain ag y credwch sy'n berthnasol i chi neu'ch sefydliad.
Cwblhewch yr adrannau dan y pennawd Amdanoch chi a'r Cwestiynau Cyffredinol cyn symud ymlaen i'r adrannau penodol am y gyfundrefn. Mae un cwestiwn olaf ar gyfer unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym.
Rydym wedi nodi ein hymgynghoriad fel y gallwch ymateb i bob maes, neu ganolbwyntio ar y meysydd sy'n effeithio fwyaf arnoch. Os nad ydych am wneud sylw ar gyfundrefn benodol, gallwch symud ymlaen i'r nesaf. Nid oes mwy na thri chwestiwn fesul cyfundrefn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda: sroc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Y bwriad yw gweithredu’r cynlluniau hynny o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion.
Share
Share on Twitter Share on Facebook