Gofynnon Ni, Dwedoch Chi, Gwnaethom Ni

Isod mae rhai o'r materion rydym wedi ymgynghori arnynt yn ddiweddar a'u canlyniadau.

Gofynnon ni

Fe ofynnon ni am eich sylwadau ar Gynllun Adnoddau Coedwig Breiddin, sy’n gymysgedd o goetir preifat a rhywfaint o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru - oll yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn gynllun lefel uchel sy’n pennu’r gwaith rheoli ar gyfer y coetiroedd, gan gyflwyno’r amcanion hirdymor ar gyfer pob un o’r coetiroedd (adfer coetir hynafol, rheoli coetir brodorol, neu waith rheoli coedwigaeth safonol, er enghraifft), a’r ymagwedd gyffredinol at unrhyw ailstocio, er enghraifft gyda rhywogaethau llydanddail brodorol neu goed conwydd. Ond nid yw’r cynllun yn ymdrin â gwaith rheoli penodol yr ystâd o ddydd i ddydd. Ein Tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig sy’n gwneud hyn, ac mae eu gwaith yn helpu i lywio’r cynllun. 

Dywedoch chi

Lefel isel o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwn, gyda dim ond 3 o bobl yn cynnig sylwadau. Fodd bynnag, gwyddom fod y coetiroedd hyn yn bwysig oherwydd nifer yr ymwelwyr bob blwyddyn. Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb.  

Roedd cefnogaeth i amcanion y cynllun sydd â’r nod o nodi, gwarchod a chynnal nodweddion hanesyddol, cynyddu niferoedd y coed llydanddail brodorol a gwella bioamrywiaeth.  

Roedd pryderon ynglŷn â chynnal a chadw llwybrau troed o fewn Cynllun Breiddin a siom nad oedd hyn wedi’i gynnwys fel amcan, ac roedd peth anfodlonrwydd ynghylch enw’r cynllun, sef ‘Y Trallwng’, yn hytrach na ‘Breiddin’, fel yr adwaenir y safle yn lleol. 

Gwnaethom ni

Rydym wedi rhoi sylw i’r sylwadau a dderbyniwyd ac maent wedi’u rhannu â thimau perthnasol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gellir, lle bo modd, eu gweithredu neu eu cofnodi i’w hystyried ar gyfer gwaith rheoli yn y dyfodol.  

 

Rydym wedi diweddaru’r amcanion i gynnwys “Cynnal a gwella profiadau ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel a phleserus. Mae hawliau tramwy cyhoeddus a mannau eraill ble mae mynediad agored yn y cynllun yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, a dylid parhau gyda hyn. Bydd parhau i reoli o dan  
System Goedamaeth Fach ei Heffaith, gan recriwtio mwy o ardaloedd yn y dyfodol, ac ardaloedd eraill ble caiff coetir hynafol ei adfer yn raddol, yn gwella estheteg y goedwig yn y tymor hir.” 

Penderfynwyd hefyd newid enw’r cynllun i Gynllun Adnoddau Coedwig Breiddin. 

Rydym yn gweithio’n galed i gydbwyso’r gofynion ar y coetir i sicrhau buddion i gymunedau, i fioamrywiaeth a’r amgylchedd, ac i’r economi. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil clefydau fel Phytophthora ramorum, sydd wedi effeithio ar goed llarwydd, ynghyd â chlefyd coed ynn a chlefydau eraill sy’n effeithio ar wytnwch y coetiroedd. 

Gofynnon ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Bolisi Gorfodi a Sancsiynau, a fydd yn gwneud sut mae’n mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol o bob math yn haws ei ddeall ac yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

Cymeradwywyd a chyhoeddwyd ein polisi presennol ar orfodi ac erlyn ym mis Mawrth 2013. Yn ddiweddar, sefydlwyd grŵp arbenigol mewnol gennym, gan gynnwys cynrychiolwyr cyfreithiol, i gynnal adolygiad o’r polisi hwn a’i ganllawiau cysylltiedig.

Nid yw ein Polisi Gorfodi a Sancsiynau diwygiedig yn newid ein hymagwedd at orfodi.  Yn bennaf, rydym yn ymgysylltu â gweithredwyr, unigolion a busnesau i addysgu a galluogi cydymffurfedd neu atal niwed, i roi'r amgylchedd yn gyntaf, ac i integreiddio arferion amgylcheddol da o fewn dulliau gweithio arferol.

Mae ein hadolygiad o’r polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig yn ystyried newidiadau deddfwriaethol ar gyfer ein diben craidd, ein strwythurau sefydliadol newydd, eglurder ar y defnydd o gosbau sifil (lle mae’r pwerau hynny gennym), a gofynion hygyrchedd, i’w cyhoeddi fel cyfres o dudalennau gwe.

Ar ôl i'r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben, byddwn yn asesu ac yn cyhoeddi'r holl ymatebion perthnasol a dilys i'r ymgynghoriad.

Yn amodol ar gymeradwyaeth gan lywodraethu mewnol yr Is-grŵp Gorfodi a’r Bwrdd Busnes Rheoleiddiol, bydd ein Polisi Gorfodi ac Erlyn diwygiedig wedyn yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Dywedoch chi

Cawsom 26 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan amrywiaeth eang o bobl a chwmnïau, gan gynnwys cynrychiolwyr o glybiau genweirio, ymddiriedolaethau afonydd, ymddiriedolaethau coetir, cynghorydd cymuned a grwpiau cymunedol, elusennau, Undeb Amaethwyr Cymru, RSPB Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a nifer o gwmnïau cyfyngedig.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r Polisi Gorfodi a Sancsiynau newydd ac am weld CNC yn cymryd camau gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol, ac yn arbennig llygredd afonydd, pysgota anghyfreithlon, difrod i natur, a thipio anghyfreithlon.

Roedd llawer o’r ymatebion yn ymwneud â’n presenoldeb mewn digwyddiadau a’n hymateb iddynt, gan nodi digwyddiadau penodol yr oedd ganddynt wybodaeth uniongyrchol amdanynt neu lle roeddent yn anfodlon ar gamau gweithredu CNC yn yr achos unigol hwnnw.

Roedd rhai ymatebwyr, er eu bod yn feirniadol o CNC, yn cydnabod bod CNC yn wynebu prinder adnoddau / diffyg presenoldeb ar lawr gwlad ac nad oedd fawr o ddiben cael Polisi Gorfodi a Sancsiynau heb y staff na’r adnoddau i’w weithredu.

Bydd y sylwadau a godwyd ynghylch adnoddau ac ymateb i ddigwyddiadau, er nad ydynt yn rhan o’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu bwydo’n ôl i’n bwrdd busnes rheoleiddio a gellir eu defnyddio mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Gwnaethom ni

Rydym yn bwriadu:

Cyhoeddi'r Polisi Gorfodi a Sancsiynau diwygiedig

Adolygu pob ymateb a darparu adroddiad manwl ar gyfer ein bwrdd busnes rheoleiddio

Rhannu'r ymatebion gyda’r rhannau perthnasol o’r busnes, h.y. ymateb i ddigwyddiadau

Mae’r ddogfen wedi’i golygu a ganlyn (Atodiad 1) yn crynhoi themâu’r ymatebion a gawsom mewn perthynas â’r ymgynghoriad hwn.