Cynllun Adnoddau Coedwig y Trallwng
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'n gynaliadwy yr coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth y Trallwng yn cynnwys coedwig y Trallwng a thri bloc cysylltiedig llai, sy’n 253.2 ha i gyd. Yn gorwedd rhwng ffordd yr A458 Trallwng-Amwythig a gorlifdir afon Hafren, coed conwydd sydd o fewn ardal y Cynllun yn bennaf, ond mae yno hefyd ardaloedd sylweddol o goed llydanddail a thir amaethyddol agored. Mae coedwig y Trallwng yn gorwedd ar ochr Cymru o’r ffin â Lloegr, ac mae pen dwyreiniol y goedwig yn gorwedd ar y ffin ei hun. Mae tref yr Amwythig wedi’i lleoli tua 7km i’r de-orllewin i’r Cynllun.
Mae’r cynefin sy’n amgylchynu blociau Cynllun y Trallwng yn cynnwys tir pori wedi’i amgáu, a gwrychoedd rhyngddynt ynghyd â chlytiau llai o goedwigoedd llydanddail a chonwydd. Mae coedwig y Trallwng yn cynnwys rhwydwaith mawr o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n ei chysylltu â’r dirwedd o’i hamgylch, ynghyd â maes parcio cyhoeddus ar y gwaelod a thirnod hanesyddol amlwg – Piler Rodney – ar y copa.
Mae Cynllun y Trallwng yn dod o fewn dwy o wahanfeydd dŵr dalgylch afon Hafren: o’r cydlifiad ag afon Camlad hyd y cydlifiad â Nant Bele; ac o’r cydlifiad â Nant Bele hyd y cydlifiad â Nant Sundorne. Mae’r ddwy wahanfa ddŵr wedi’u nodi’n rhai ‘Cymedrol’ yn ôl asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Isod mae crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig y Trallwng, ac yna mapiau dangosol ar gyfer y Weledigaeth Hirdymor, Strategaethau Rheoli Coedwigoedd ac Ailstocio a gynigir ar gyfer y goedwig:
Prif Amcanion, Cyfleoedd a Blaenoriaethau:
- Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth.
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy ddylunio gwaith cwympo coed a’r dewis o rywogaethau ailstocio.
- Cynyddu’r ardaloedd coetir olynol / coetir afonol er mwyn gwella cydnerthedd cynefinoedd a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.
- Defnyddio cyfuniad o waith adfer naturiol ac ailstocio gofalus i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau coedwig er mwyn cryfhau yn erbyn plâu ac afiechydon ar yr un pryd â datblygu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Cynyddu’r amrywiaeth strwythurol drwy roi Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ar waith.
- Cydweddu ymhellach effeithiau gweledol y coetiroedd â’r dirwedd ehangach, gan helpu i wella, Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol yr ardaloedd y maent yn gorwedd o’u mewn.
- Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth ac archeolegol pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
- Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy gynnig amgylchedd amrywiol diogel a phleserus.
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Symud ymlaen at adfer safleoedd coetir hynafol drwy dynnu coed conwydd a chreu cynefinoedd llydanddail brodorol.
- Cynyddu’r ardaloedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith.
- Cynnydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel coedwigoedd llydanddail brodorol.
- Cynnydd yn yr amrywiaeth o goed llydanddail a chonwydd – o ran rhywogaethau ac oedran – er mwyn gwella cydnerthedd coetiroedd yn erbyn plâu ac afiechydon.
- Cynnydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel cynefinoedd agored o flaenoriaeth.
- Cynyddu’r ardaloedd bach o le agored o amgylch y sgri ac wyneb y graig yn SoDdGA Bryn Breidden, gan wella addasrwydd y cynefin ar gyfer y casgliadau prin o blanhigion a geir yno.
Pam bod eich safbwyntiau o bwys
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwig y Trallwng i'n helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Ardaloedd
- Welshpool Castle
- Welshpool Gungrog
- Welshpool Llanerchyddol
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook