Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Bolisi Gorfodi a Sancsiynau, a fydd yn gwneud sut mae’n mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol o bob math yn haws ei ddeall ac yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.
Cymeradwywyd a chyhoeddwyd ein polisi presennol ar orfodi ac erlyn ym mis Mawrth 2013. Yn ddiweddar, sefydlwyd grŵp arbenigol mewnol gennym, gan gynnwys cynrychiolwyr cyfreithiol, i gynnal adolygiad o’r polisi hwn a’i ganllawiau cysylltiedig.
Nid yw ein Polisi Gorfodi a Sancsiynau diwygiedig yn newid ein hymagwedd at orfodi. Yn bennaf, rydym yn ymgysylltu â gweithredwyr, unigolion a busnesau i addysgu a galluogi cydymffurfedd neu atal niwed, i roi'r amgylchedd yn gyntaf, ac i integreiddio arferion amgylcheddol da o fewn dulliau gweithio arferol.
Mae ein hadolygiad o’r polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig yn ystyried newidiadau deddfwriaethol ar gyfer ein diben craidd, ein strwythurau sefydliadol newydd, eglurder ar y defnydd o gosbau sifil (lle mae’r pwerau hynny gennym), a gofynion hygyrchedd, i’w cyhoeddi fel cyfres o dudalennau gwe.
Ar ôl i'r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben, byddwn yn asesu ac yn cyhoeddi'r holl ymatebion perthnasol a dilys i'r ymgynghoriad.
Yn amodol ar gymeradwyaeth gan lywodraethu mewnol yr Is-grŵp Gorfodi a’r Bwrdd Busnes Rheoleiddiol, bydd ein Polisi Gorfodi ac Erlyn diwygiedig wedyn yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Cawsom 26 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan amrywiaeth eang o bobl a chwmnïau, gan gynnwys cynrychiolwyr o glybiau genweirio, ymddiriedolaethau afonydd, ymddiriedolaethau coetir, cynghorydd cymuned a grwpiau cymunedol, elusennau, Undeb Amaethwyr Cymru, RSPB Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a nifer o gwmnïau cyfyngedig.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r Polisi Gorfodi a Sancsiynau newydd ac am weld CNC yn cymryd camau gorfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol, ac yn arbennig llygredd afonydd, pysgota anghyfreithlon, difrod i natur, a thipio anghyfreithlon.
Roedd llawer o’r ymatebion yn ymwneud â’n presenoldeb mewn digwyddiadau a’n hymateb iddynt, gan nodi digwyddiadau penodol yr oedd ganddynt wybodaeth uniongyrchol amdanynt neu lle roeddent yn anfodlon ar gamau gweithredu CNC yn yr achos unigol hwnnw.
Roedd rhai ymatebwyr, er eu bod yn feirniadol o CNC, yn cydnabod bod CNC yn wynebu prinder adnoddau / diffyg presenoldeb ar lawr gwlad ac nad oedd fawr o ddiben cael Polisi Gorfodi a Sancsiynau heb y staff na’r adnoddau i’w weithredu.
Bydd y sylwadau a godwyd ynghylch adnoddau ac ymateb i ddigwyddiadau, er nad ydynt yn rhan o’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu bwydo’n ôl i’n bwrdd busnes rheoleiddio a gellir eu defnyddio mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Rydym yn bwriadu:
Cyhoeddi'r Polisi Gorfodi a Sancsiynau diwygiedig
Adolygu pob ymateb a darparu adroddiad manwl ar gyfer ein bwrdd busnes rheoleiddio
Rhannu'r ymatebion gyda’r rhannau perthnasol o’r busnes, h.y. ymateb i ddigwyddiadau
Cafodd ein polisi Gorfodi ac Erlyn ei gymeradwyo a'i gyhoeddi ym mis Mawrth 2013.
Yn ddiweddar, gwnaethom sefydlu grŵp arbenigol mewnol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr cyfreithiol, i gynnal adolygiad o'r polisi hwn a'r canllawiau cysylltiedig.
Nid yw ein polisi na'n canllawiau diwygiedig yn newid ein dull gweithredu. Yn bennaf, rydym yn ymgysylltu â gweithredwyr, unigolion a busnesau i addysgu a galluogi cydymffurfiaeth neu i atal difrod, i roi'r amgylchedd yn gyntaf, ac i integreiddio arferion amgylcheddol da o fewn dulliau gwaith arferol.
Os nad yw'r unigolion neu fusnesau hyn yn cydymffurfio, fel arfer byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad i'w helpu i wneud hynny gyda datrysiadau ac amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer gwneud unrhyw welliannau. Pan ydym yn amau bod trosedd wedi digwydd, rydym yn cymhwyso'r ystod lawn o bwerau a sancsiynau gorfodi ffurfiol cymesur.
Mae ein hadolygiad o'r polisi hwn a'r canllawiau cysylltiedig yn ystyried newidiadau deddfwriaethol ar gyfer ein diben craidd, ein strwythurau sefydliadol newydd, eglurder ar y defnydd o sancsiynau sifil (lle mae gennym y pwerau hynny) a gofynion hygyrchedd, ar gyfer eu cyhoeddi fel cyfres o dudalennau gwe.
Trwy ddefnyddio atodiadau unigol ar gyfer pob un o'r sancsiynau, mae'n darparu proses glir ar sut i gyflwyno'r sancsiwn hwnnw.
Ar ôl i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ddod i'w derfyn, byddwn yn asesu ac yn cyhoeddi'r holl ymatebion perthnasol a dilys i'r ymgynghoriad.
Bydd ein Polisi Gorfodi ac Erlyn diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan wedyn yn amodol ar gymeradwyaeth gan y broses lywodraethu mewnol yn yr Is-grŵp Gorfodi a'r Bwrdd Rheoleiddio Busnes.
Share
Share on Twitter Share on Facebook