Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am reoli coetiroedd a choedwigoedd cyhoeddus Cymru, sef Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r Ystad yn darparu adnoddau pren gwerthfawr a chânt eu rheoli hefyd er budd a llesiant pobl a’r cymunedau lleol sy’n ymweld â nhw, yn ogystal â’r bobl sy’n dibynnu arnynt i wneud bywoliaeth. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys sicrhau eu bod yn gydnerth yn y tymor hir, mewn perthynas â’r argyfyngau natur a hinsawdd, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol hefyd allu mwynhau’r buddion maent yn eu cynnig. Bob deng mlynedd, mae CNC yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig, y Cynllun Adnoddau Coedwig.
Ar hyn o bryd, mae CNC yn adolygu’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn Niwbwrch. Mae’r Cynllun yn cwmpasu 952 hectar o dir rhwng Tywyn Niwbwrch, aber Afon Malltraeth a phentref Niwbwrch ar Ynys Môn. Yn ogystal â’r goedwig, mae cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyfagos Tywyn Niwbwrch, traeth Llanddwyn, aberoedd afon Braint ac afon Cefni, y buddiannau morol a physgota, y Cob ac Ynys Llanddwyn. Mae’r goedwig a’r Warchodfa yn rhan o ddwy Ardal Cadwraeth Ehangach, sef Y Twyni o Abermenai i Aberffraw, a Glannau Môn: Cors heli.
Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn un o dri chynllun pwysig iawn sy’n ategu ei gilydd ac yn ein helpu i reoli’r tir rydym yn berchen arno neu’n ei reoli yn Niwbwrch. Mae’n eistedd ochr yn ochr â’r Cynllun Rheoli Craidd ar gyfer yr Ardal Cadwraeth Arbennig a Chynllun Pobl sydd yn yr arfaeth ar gyfer llesiant, hamdden, mynediad a’r economi. Gyda’i gilydd, bydd y tri chynllun hwn yn helpu i lunio Datganiad Niwbwrch Integredig ehangach.
Mae coedwig Niwbwrch a’r ardal gyfagos yn dirwedd ddynamig a chymhleth â nifer o ecosystemau sy’n cydgysylltu. Mae’r ardal yn safle cadwraeth o bwys rhyngwladol ar gyfer cynefinoedd twyni tywod, ac yn ogystal mae’r goedwig yn Niwbwrch yn cynnig cynefinoedd amrywiol i fywyd gwyllt fel y Gigfran a’r Wiwer Goch. Mae’r lleoliad unigryw hefyd yn cynnig mynediad at amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a hamdden sydd o fudd i’r boblogaeth leol a’r miloedd o bobl sy’n ymweld â’r safle. Wrth gynllunio unrhyw waith yn Niwbwrch yn y dyfodol, ein nod yw cydbwyso barn ac uchelgais pobl a bod yn gymydog da, ar yr un pryd â rhoi ystyriaeth i fuddiannau a nodweddion niferus y safle mewn amgylchedd sy’n newid o hyd.
Nid yw peidio â chynllunio ar gyfer y dyfodol yn Niwbwrch yn opsiwn, ac mae’n rhaid i ni fod â chynllun i helpu i reoli’r safle. Mae prosesau naturiol yn araf newid y goedwig yn un sy’n cynnwys mwy o goed llydanddail yn y dwyrain, ac yn y gorllewin maent yn erydu’r clystyrau o goed conwydd sy’n agored i’r arfordir. Yn ogystal â’r newid naturiol hwn, bydd newid hinsawdd a’r codiad yn lefel y môr hefyd yn cael effaith ar gyfansoddiad a dosbarthiad y goedwig yn y tymor hir. Bydd y cynllun newydd yn caniatáu i’r prosesau naturiol ddod i ddominyddu fwy ar draws y safle cyfan, ac yn gwneud y goedwig yn fwy cydnerth i’r newidiadau hyn. Mae coedwig gydnerth yn dda nid yn unig i natur ond i bobl hefyd, a bydd yn helpu i gynnal adnodd hamdden pwysig a lle arbennig i bobl ymweld ag e ac i’r gymuned leol.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o'r amcanion ar gyfer Coedwig Niwbwrch
Mae'r ddogfen hon yn helpu i esbonio'r categorïau a ddangosir ar y mapiau isod:
Nod y cynllun newydd yw sefydlu Coetir Twyni mwy naturiol ger yr arfordir a fydd yn caniatáu mwy o le i gynefinoedd twyni tywod ger y môr. Bydd y Coetir Twyni hefyd yn helpu i ddiogelu’r goedwig gonwydd gymysg y tu ôl. Tua’r tir, bydd y goedwig gonwydd gymysg yn parhau i gael ei rheoli i hybu cynefin coedwig sy’n addas i’r wiwer goch ac i ddarparu cnydau masnachol, gan hefyd adnewyddu ardaloedd cadwraeth ar gyfer rhywogaethau pwysig fel y Gigfran, y Fadfall Ddŵr Gribog a Thafolen y Traeth. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn araf, dros gyfnod hir o amser, a fydd yn helpu pawb i addasu i’r newidiadau dros amser. Bydd y penderfyniadau rheoli a wneir yn y Cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac yn cael eu dilyn gan waith monitro rheolaidd a fydd yn helpu i lywio gwaith rheoli yn y dyfodol a’r penderfyniadau a wneir yn ystod adolygiad nesaf y Cynllun.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynlluniau a siarad â ni yn bersonol, byddwn yn cynnal dwy 'Sesiwn Galw Heibio' ar:
Dydd Mercher 2il Tachwedd 2022, 1.00-7.00yp yn Neuadd Prichard Jones, Niwbwrch, LL61 6SY
Dydd Iau 3ydd Tachwedd 2022, 3.00-7.00yp yng Nghlwb Pel-droed Tref Llangefni, Llangefni, LL77 7RP
Os yw'n bosib, cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y sesiynau hyn cyn mynychu yn https://bit.ly/Niwbwrch-drop-in1 neu https://bit.ly/Niwbwrch-drop-in2. Bydd hyn yn ein helpu i reoli'r sesiynau yn fwy effeithiol.
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Niwbwrch er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Share
Share on Twitter Share on Facebook