Gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw ein traethau a’n hafonydd i gymunedau lleol, ymwelwyr a bywyd gwyllt.

Mae dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio yn y Barri wedi methu â bodloni safonau ansawdd dŵr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid ydym eto yn gwybod yn llawn beth sy'n achosi'r broblem, ac mae'n debygol o fod oherwydd llawer o wahanol resymau.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau i ddeall yn well achosion ansawdd dŵr ymdrochi gwael ac i gefnogi camau gweithredu a all arwain at welliannau.

I weld y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ewch i waelod y dudalen.

Beth yw’r prosiect?

Mae’r prosiect hwn yn ymdrech ar y cyd i ddeall a gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio.

Dyfroedd Ymdrochi Aberogwr a Bae'r Tŵr Gwylio

Mae’r safleoedd hyn wedi’u dynodi’n ddyfroedd ymdrochi ac mae’r ddau safle wedi methu bodloni’r safonau ansawdd dŵr gofynnol o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013:

  • Mae Aberogwr wedi cael dosbarthiad ‘gwael’ am dair blynedd yn olynol ers ei ddynodiad yn 2023.
  • Cafodd Bae’r Tŵr Gwylio ddosbarthiad ‘gwael’ yn ystod blwyddyn gyntaf ei ddynodiad yn 2023, gan wella i ‘ddigonol’ yn 2024 a dirywio i ‘wael’ eto yn 2025.

Nod y prosiect yw:

  • deall beth sy'n effeithio ar ansawdd dŵr ar draws y dalgylch cyfan, o afonydd a nentydd i'r môr
  • nodi'r prif ffynonellau llygredd, boed hynny o systemau draenio, trefi, neu gefn gwlad cyfagos
  • cymryd camau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan brofi atebion ymarferol a fydd yn arwain at welliannau parhaol.

Pam mae hyn yn digwydd?

Gall llawer o ffactorau gwahanol effeithio ar ansawdd dŵr ar draws y dalgylch cyfan.

Swyddog CNC yn arbrofi sampl dŵ afon

Gall problemau gynnwys:

  • gorlifoedd storm a systemau draenio yn cael eu gorlethu mewn tywydd gwlyb ac yn gollwng i mewn i afonydd
  • seilwaith sy’n heneiddio dan bwysau cynyddol oherwydd twf poblogaeth a newid hinsawdd
  • llygredd o ffyrdd ac ardaloedd trefol yn mynd i mewn i afonydd drwy ddraeniau dŵr wyneb
  • pibellau sydd wedi’u cysylltu’n anghywir, lle mae dŵr gwastraff o gartrefi neu fusnesau wedi’i gysylltu’n anghywir i ddraeniau dŵr wyneb a gall fynd i mewn i afonydd neu’r môr heb ei drin
  • llygredd o dir ffermio, gan gynnwys gwastraff anifeiliaid yn golchi i mewn i gyrsiau dŵr

Oherwydd gall llygredd ddod o wahanol ffynonellau a chyfuno ar draws yr ardal, mae angen i ni edrych ar y dalgylch cyfan i ddeall y broblem a nodi'r atebion cywir.

Sut rydyn ni’n gwneud hyn?

Ar lawr gwlad: beth mae ein swyddogion arbenigol yn ei wneud

Mae dau swyddog penodedig yn gweithio ar draws y ddau ddalgylch i helpu i lunio darlun manwl o’r hyn sy’n digwydd.

Swyddog CNC yn gwirio peipen gollyngfa ar Afon Eweni

Mae eu gwaith yn cynnwys:

  • profi ansawdd dŵr, yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb
  • canfod lle mae llygredd yn mynd i mewn i afonydd a nentydd
  • nodi problemau draenio, gan gynnwys pibellau sydd wedi'u cysylltu yn anghywir
  • gweithio allan o ble mae bacteria niweidiol yn dod
  • gwirio pa mor iach yw afonydd trwy edrych ar y bywyd gwyllt ynddynt.

Swyddog CNC yn gwirio am bryfed a physgod mewn sampl o ddŵr afon

Mae’r gwaith ymarferol hwn, ynghyd â dadansoddiad o ddata presennol sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid, ac adeiladu ar wybodaeth staff arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi gweithio yn y dalgylchoedd hyn ers blynyddoedd lawer, yn ein helpu ni i lunio darlun clir o’r hyn sy’n digwydd a chymryd camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gweithio gyda’n gilydd ar draws y dalgylchoedd

Ochr yn ochr â’r gwaith maes, rydyn ni’n dod â sefydiadau ynghyd i weithio ar draws y dalgylchoedd.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n arwain y prosiect, gan gydweithio’n agos â:

  • Dŵr Cymru - pwy rydyn ni'n eu rheoleiddio
  • Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir - gwasanaeth iechyd yr amgylchedd ar y cyd ar gyfer cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, sy'n ymdrin â materion fel llygredd, diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cynog Bro Morganwg

a’n estyn allan at:

  • sefydliadau amgylcheddol
  • tirfeddianwyr a grwpiau cymunedol

Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd sefydliadau sydd â gwahanol gyfrifoldebau ac arbenigeddau i wneud y canlynol:

  • rhannu gwybodaeth a data
  • cytuno ar flaenoriaethau a chydlynu camau gweithredu
  • gweithio’n fwy effeithlon drwy osgoi dyblygu
  • datblygu cynllun cydgysylltiedig ar gyfer gwella

Drwy weithio fel hyn, gall partneriaid fynd i’r afael â materion cymhleth gyda’i gilydd na allai unrhyw sefydliad unigol eu datrys ar ei ben ei hun.

Gwrando a chynnwys cymunedau

Mae gwybodaeth leol yn hanfodol. Rydyn ni’n gwneud y canlynol:

  • gweithio gyda grwpiau yn y gymuned, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid
  • creu cyfleoedd i rannu gwybodaeth a syniadau
  • cynorthwyo cyfranogiad cymunedol wrth fonitro a meithrin dealltwriaeth leol o ansawdd dŵr
  • cadw pobl yn wybodus drwy ddiweddariadau a digwyddiadau ymgysylltu

Rydyn ni am i hyn fod yn ymdrech ar y cyd, lle mae pawb yn deall yr heriau ac yn gallu chwarae rhan wrth wella ansawdd dŵr. Pan fydd pawb yn deall yr heriau, gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth wella ansawdd dŵr.

Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud?

Swyddog CNC yn gwirio sampl dŵr yn Afon Ogwr

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag adeiladu’r sylfeini ar gyfer gwelliant gwirioneddol, parhaol.

Yn y tymor byr, bydd yn:

  • rhoi tystiolaeth well a chliriach i ni
  • nodi camau gweithredu â blaenoriaeth a chamau cyflym ymlaen

Dros amser, bydd yn:

  • cynorthwyo buddsoddiad ac atebion wedi’u targedu
  • gwella ansawdd dŵr a chydnerthedd amgylcheddol
  • creu model ar gyfer gwella dyfroedd ymdrochi eraill ledled Cymru

Cymryd rhan

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac i weithio gydag unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu gyda’r prosiect.

Mae’r prosiect eisoes ar y gweill a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2027. Ar hyn o bryd, rydyn ni yn y cyfnod casglu tystiolaeth, sy’n hanfodol i sicrhau bod camau gweithredu yn y dyfodol wedi’u targedu ac yn effeithiol.

Gallwch wneud y canlynol:

  • cadw eich hun yn wybodus drwy gyfrwng diweddariadau am y prosiect
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu
  • rhannu eich gwybodaeth am yr ardal
  • helpu i nodi problemau ac atebion

E-bost: dyfroeddymdrochicanolyde@cyfoethnaturiol.cymru a gadewch i ni wybod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.

Sut allwch chi helpu

Os ydych chi wedi gweld llygredd, wedi sylwi ar newidiadau mewn afonydd, neu os oes gennych chi wybodaeth leol am ddraenio neu ansawdd dŵr, gallai eich mewnbwn chi wneud gwahaniaeth go iawn.

Byddwn ni allan ar draws y dalgylch ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd eisiau rhannu eu profiad.

Swyddog CNC yn cerdded ar draeth Aberogwr

Gallwch chi hefyd chwarae rhan ymarferol wrth wella ansawdd dŵr drwy edrych am broblemau syml gartref, fel pibellau sydd wedi’u cysylltu’n anghywir, lle gallai dŵr gwastraff fod yn mynd i mewn i ddraeniau dŵr wyneb yn lle’r garthffos fudr. Ewch i wefan Dŵr Cymru am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi’n amau llygredd, rhowch wybod i ni ar-lein neu drwy ein llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 03000 65 3000.

Mae arwyddion o lygredd i wylio amdanynt yn cynnwys:

  • Afliwiad llaethog, cymylog neu lwyd yn y dŵr
  • Pysgod marw neu mewn trafferth
  • Arogleuon carthffosiaeth neu gemegol cryf
  • Malurion sy’n gysylltiedig â’r toiled (weips gwlyb, nwyddau mislif)
  • Dŵr brown neu wyrdd yn llifo i nentydd o gaeau amaethyddol, yn enwedig ar ôl glaw trwm
  • Sglein tebyg i olew, ewyn gormodol, neu ewyn trwchus ar wyneb y dŵr

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect

Chwiliwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect neu dilynwch ni ar Facebook.

Gorffennaf 2026: Siarad â phobl am ansawdd dŵr yn Aberogwr

Treuliodd ein swyddogion ddiwrnod yn Aberowg yn siarad â thrigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr am ansawdd dŵr ymdrochi a'r gwaith sydd ar y gweill i'w ddeall a'i wella.

Buom yn siarad â mwy na 100 o bobl drwy gydol y dydd, gan gynnwys nofwyr, pysgotwyr, teuluoedd, perchnogion cŵn ac ymwelwyr o bob cwr o Dde Cymru a Lloegr. Roedd gan lawer ddiddordeb mewn dysgu mwy am y ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd dŵr.

Rhannodd ein tîm wybodaeth am sut i roi gwybod am ddigwyddiadau llygredd, esboniodd sut y gall pibellau sydd wedi'u camgysylltu effeithio ar afonydd a dyfroedd ymdrochi.

Cawsom ein calonogi gan yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd, gyda llawer o bobl yn mynegi cefnogaeth i'r ymdrechion i wella ansawdd dŵr ymdrochi a diogelu'r amgylchedd lleol. Bydd y sgyrsiau a'r wybodaeth leol a rannwyd gyda ni yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r heriau sy'n effeithio ar y dalgylch.

Bydd ein digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus nesaf yn cael ei gynnal ym Mae’r Tŵr Gwylio, Y Barri, yn ddiweddarach y mis hwn. Edrychwn ymlaen at gwrdd â mwy o drigolion ac ymwelwyr a chlywed eu safbwyntiau.

30 Gorffennaf 2026: Gwaith monitro ymestynnol ar ansawdd y dŵr yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio

Byddwn yn cynnal gwaith monitro ymestynnol ar ansawdd y dŵr yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio yn ystod mis Awst a Medi 2026.

Rydym wedi comisiynu JBA Consulting i gasglu a phrofi hyd at chwe sampl dŵr bob diwrnod o’r wythnos yn y ddau safle dŵr ymdrochi dynodedig dros gyfnod o wyth wythnos.

Rydym yn monitro dyfroedd ymdrochi dynodedig yn rheolaidd drwy gydol y tymor ymdrochi, gan gasglu o leiaf wyth sampl rhwng mis Mai a mis Medi. Darllenwch fwy am Sut rydym yn monitro ac yn amddiffyn dyfroedd ymdrochi Cymru.

Fel rhan o’r rhaglen ymestynnol hon, bydd tua 240 o samplau ychwanegol yn cael eu casglu yn y ddau safle ar wahanol adegau drwy gydol y dydd. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut mae ansawdd y dŵr yn newid o dan wahanol amodau amgylcheddol, gan gynnwys adegau gwahanol o’r llanw, lefelau afonydd a glawiad amrywiol a gwahanol amodau tywydd, er enghraifft y gwynt.

Er mwyn casglu’r samplau yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd dronau arbenigol yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd dŵr ymdrochi.

Mae dronau’n ffordd ddiogel a chost-effeithiol o gasglu samplau dŵr heb orfod mynd i’r dŵr dro ar ôl tro. Cânt eu gweithredu gan beilotiaid hyfforddedig, maent wedi’u dylunio i lanio ar y dŵr ac esgyn oddi arno, a chynhelir gwiriadau cyn samplu i sicrhau nad oes unrhyw bobl yn agos at yr ardal samplu.

Bydd samplau’n cael eu dadansoddi gan labordy achrededig yn unol â gofynion profi dŵr ymdrochi.

Bydd y gwaith hwn yn cefnogi ein hymdrechion ehangach i ddeall yn well y ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd y dŵr ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio, ac i nodi camau gweithredu a allai arwain at welliannau.

Diweddariad diwedd haf 2026

Wrth i ni nesáu at ddiwedd y tymor dŵr ymdrochi, hoffem roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar draws Prosiect Dyfroedd Ymdrochi Canol De Cymru.

Sefydlwyd y prosiect i wella dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio ac i nodi camau gweithredu ymarferol a all helpu i gyflawni gwelliannau hirdymor.

Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth ar draws y ddau ddalgylch, ymchwilio i ffynonellau llygredd posibl, treialu technegau monitro newydd, ac ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid.

Llwyddiannau ymchwiliadau ar lawr gwlad

Mae ein hymchwiliadau maes ar draws y ddau ddalgylch yn ein helpu i nodi a datrys ffynonellau llygredd, gan ddarparu tystiolaeth sy'n cynorthwyo gwelliannau ymarferol ar lawr gwlad.

Yn nalgylch afon Ogwr, rydym wedi nodi a datrys nifer o ollyngiadau llygrol a oedd yn anhysbys o'r blaen. Yn ddiweddar, fe wnaethon ni olrhain arwyddion o lygredd carthffosiaeth i garthffos fudr wedi'i blocio ger afon Ewenni. Yn dilyn ein hymyrraeth, tynnwyd meintiau sylweddol o frasterau, olewau a saim o'r rhwydwaith, adferwyd y llif llawn, a chadarnhaodd ymweliadau dilynol fod y llygredd wedi'i ddatrys.

Drwy ein hymchwiliadau yn y dalgylch, rydym wedi nodi gollyngfa dŵr wyneb lygrol ac wedi defnyddio olrhain llifyn i olrhain ffynhonnell yr halogiad. Arweiniodd hyn ni at gamgysylltiad draenio mawr mewn depo dosbarthu, lle'r oedd carthion budr o doiledau a chyfleusterau lles yn cael eu pwmpio i system dŵr wyneb a oedd yn gollwng i afon Ewenni. Cymerodd y gweithredwyr gamau ar unwaith i atal y gollyngiad a chynnal gwaith adfer. Pan ddychwelsom i'r safle, gwelsom welliant sylweddol yn ansawdd y dŵr wrth yr ollyngfa.

Yn Nant Cefn Glas, un o is-afonydd afon Ogwr, fe wnaethon ni nodi arwyddion o lygredd carthffosiaeth, gan arwain at ddarganfod diffygion mewn carthffos a nifer o dai wedi'u camgysylltu. Yn dilyn ymyrraeth, cwblhawyd atgyweiriadau ac mae monitro parhaus yn ein helpu i asesu gwelliannau yn y cwrs dŵr.

Ym Mae’r Tŵr Gwylio, fe wnaethon ni ymateb i ganlyniadau bacteriol uwch drwy gynnal ymchwiliadau ychwanegol o fewn dalgylch y Llyn Morol. Fe wnaethon ni gynnal samplu dilynol a nodi lefelau uchel o facteria sy'n gysylltiedig â ffynonellau dynol o fewn ffos gyflenwi. Mae hyn wedi ein helpu i gyfyngu ar ffynonellau llygredd posibl a chanolbwyntio ar gam nesaf ein hymchwiliadau.

Ochr yn ochr â'r ymchwiliadau penodol hyn, rydym wedi nodi ac atgyfeirio nifer o ollyngfeydd llygrol, carthffosydd budr sy'n gollwng a chamgysylltiadau diwydiannol posibl ar gyfer camau gweithredu pellach. Mae'r holl bethau uchod wedi'u canfod drwy ddefnyddio gwybodaeth leol i olrhain problemau hysbys, drwy gerdded darnau o afonydd er mwyn gwirio gollyngfeydd a thrwy gynnal arolygon ecolegol.

Ar wahân i nodi ffynonellau llygredd, mae arolygon ecolegol hefyd wedi nodi ardaloedd lle mae llygredd gwasgaredig yn broblem. Yn wahanol i lygredd sy'n dod o un ffynhonnell adnabyddadwy, mae llygredd gwasgaredig yn mynd i mewn i afonydd a nentydd o sawl lle ar draws y dalgylch. Gall hyn gynnwys dŵr ffo o ffyrdd, ardaloedd trefol a thir fferm, yn enwedig yn ystod glaw trwm.

Mae'r prosiect yn gweithio gyda phartïon perthnasol eraill i ymchwilio i hyn a'i liniaru. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy arolygon ecolegol hefyd wedi helpu i gefnogi ymyriadau rheoleiddio ehangach a blaenoriaethu gwaith gwella ar draws y ddau ddalgylch.

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae'r prosiect nid yn unig yn gwella ein dealltwriaeth o broblemau ansawdd dŵr ond hefyd yn helpu i gyflawni camau ymarferol i fynd i'r afael â nhw.

Deall ffynonellau llygredd drwy olrhain ffynonellau microbau

Yr haf hwn, cynhaliwyd cynllun peilot olrhain ffynonellau microbau (MST) ar draws y ddau ddalgylch i helpu i nodi a oedd halogiad bacteriol yn gysylltiedig yn bennaf â ffynonellau dynol, da byw neu adar.

Mae canlyniadau cychwynnol yn awgrymu y gallai ffynonellau dynol fod yn cyfrannu mwy at lwyth bacteria na da byw neu adar, er bod y canfyddiadau'n rhagarweiniol ac mae samplu pellach yn mynd rhagddo i wella hyder a chefnogi ymchwiliadau wedi'u targedu yn y dyfodol.

Byddwn yn parhau i adeiladu ein dealltwriaeth dros y misoedd nesaf i helpu i dargedu ymchwiliadau yn y dyfodol a llywio sut y gellid defnyddio olrhain ffynonellau microbau yn ehangach yng Nghymru.

Monitro dŵr ymdrochi yn ystod tymor 2026

Mae samplu dŵr ymdrochi wedi parhau drwy gydol y tymor yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio, gyda'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi trwy'r proffiliau dŵr ymdrochi.

Fel y disgwyliwyd, mae ansawdd y dŵr wedi amrywio dros y tymor, gan adlewyrchu natur gymhleth y ddau ddalgylch. I gefnogi'r gwaith hwn, mae tair sond monitro parhaus wedi'u defnyddio o fewn dalgylch afon Ogwr, ac mae'r data o'r rhain ar gael ar ein gwefan. Mae safleoedd monitro ychwanegol ar draws y ddau ddalgylch yn mesur ystod o ddangosyddion ansawdd dŵr i wella dealltwriaeth o dueddiadau ansawdd dŵr a ffynonellau llygredd.

O'r monitro ychwanegol hwn, lle cofnodwyd canlyniadau bacteriol uchel, rydym wedi cynnal ymchwiliadau i nodi ffynonellau llygredd posibl a phenderfynu ble gallai ymyriadau fod fwyaf effeithiol.

Bydd dosbarthiadau dŵr ymdrochi tymor 2026 yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Gweithio gyda'n gilydd ar draws y dalgylchoedd

Mae'r sefydliadau sydd â chyfrifoldeb statudol dros ansawdd dŵr eisoes wedi bod yn cydweithio ar faterion penodol. Maent bellach yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd i rannu gwybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf ar draws eu prosiectau sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr, fel bod pawb yn ymwybodol o'r hyn y mae eraill yn ei wneud. Mae hyn yn lleihau dyblygu ac, yr un mor bwysig, yn darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a dysgu ar y cyd.

Ar lawr gwlad, mae ein timau ymchwilio yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau lleol eraill, gan rannu data a chanfyddiadau technegol wrth i ni fynd ymlaen. Y tu hwnt i hyn, rydym am barhau i siarad ag ystod ehangach o bobl a sefydliadau sy'n gofalu am y gwaith hwn, gan eich hysbysu am yr hyn rydym yn ei ddarganfod trwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf fel yr ydym fan hyn, ac rydym yn croesawu sgwrs barhaus, ddwyffordd wrth i'r gwaith ddatblygu.

Gwrando ar gymunedau

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd wedi bod yn rhan allweddol o'r prosiect drwy gydol yr haf.

Fe wnaethon ni gynnal digwyddiadau ymgysylltu yn Aberogwr, Bae’r Tŵr Gwylio a Gŵyl Natur Pen-y-bont ar Ogwr, gan siarad yn uniongyrchol â channoedd o bobl sy'n byw, yn gweithio, yn ymweld ac yn treulio amser yn y dalgylchoedd.

Helpodd y digwyddiadau hyn i godi ymwybyddiaeth o ansawdd dŵr ymdrochi, adrodd ar lygredd a chamgysylltiadau draenio, wrth hefyd wella dealltwriaeth o amcanion y prosiect ac ymchwiliadau parhaus.

Rhannodd llawer o bobl sylwadau am gyrsiau dŵr lleol, problemau draenio a digwyddiadau llygredd hanesyddol, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol sy'n helpu i lywio ymchwiliadau parhaus. Darparodd y sgyrsiau wybodaeth leol gwerthfawr hefyd, gan amlygu meysydd o bryder o fewn y ddau ddalgylch.

Cawsom adborth cadarnhaol gan bobl, a groesawodd y cyfle i drafod y gwaith yn uniongyrchol gyda thîm y prosiect, gan ddangos gwerth ymgysylltu parhaus â chymunedau lleol drwy gydol oes y prosiect.

Edrych i’r dyfodol

Wrth i'r prosiect barhau y tu hwnt i dymor y dŵr ymdrochi, byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth, datblygu ymchwiliadau a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddeall yn well y pwysau sy'n effeithio ar ansawdd dŵr ar draws y ddau ddalgylch.

Bydd data a gesglir yn ystod yr haf yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth ehangach y prosiect ac yn helpu i lunio argymhellion ar gyfer gweithredu, buddsoddi a rheoli dalgylchoedd yn y dyfodol. Bydd y gwersi a ddysgwyd hefyd yn helpu i lywio dulliau o wella ansawdd dŵr ymdrochi mewn mannau eraill yng Nghymru.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hyd yn hyn.

30 Medi 2026: Deall iechyd afonydd drwy arolygon macroinfertebratau

Swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal samplu cic mewn nant fas, gan ddefnyddio rhwyd wedi’i dal i lawr yr afon wrth sefyll ymhlith cerrig mewn dŵr sy’n llifo i gasglu pryfed dyfrol ac infertebratau eraill yr afon.

Fel rhan o'n prosiect i wella ansawdd dŵr ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio, rydym yn cynnal arolygon cicsamplu ar draws dalgylchoedd Afon Ogwr ac Afon Tregatwg.

Gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru, rydym yn cynnal arolygon macroinfertebratau gan ddefnyddio techneg a elwir yn gicsamplu. Drwy darfu ychydig ar wely'r afon a chasglu pryfed a chreaduriaid bach eraill y dŵr mewn rhwyd, gallwn asesu iechyd afonydd a nodi ardaloedd y gallai llygredd fod yn effeithio arnynt.

Mae rhywogaethau fel gwybed mai, pryfed cerrig a phryfed cadys yn arbennig o sensitif i lygredd, tra bo eraill yn goddef ansawdd dŵr gwael yn well.

Drwy edrych ar y mathau a'r niferoedd o rywogaethau sy'n bresennol mewn gwahanol leoliadau, gallwn greu darlun o iechyd afonydd dros amser. Bydd hyn yn ein helpu i nodi pwysau llygredd, targedu ymchwiliadau a chael dealltwriaeth well o’r ffactorau sy'n effeithio ar afonydd sy'n llifo tuag at y dyfroedd ymdrochi hyn.

Mae'r arolygon hyn yn rhan bwysig o'n rhaglen ehangach i gasglu tystiolaeth ac maent yn ategu'r gwaith monitro ansawdd dŵr sy'n cael ei gynnal ar draws y dalgylchoedd. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau ochr yn ochr â samplau cemegol a bacteriol, teithiau cerdded ar hyd afonydd ac archwiliadau ar allfeydd er mwyn helpu i ganfod ffynonellau penodol y llygredd ac ardaloedd ehangach y mae llygredd yn effeithio arnynt.

Mae'r gwaith hwn eisoes wedi helpu i lywio ymchwiliadau sydd wedi datgelu allfeydd sy’n llygru, camgysylltiadau draenio, carthffosydd sy’n gollwng a ffynonellau halogi eraill sy’n effeithio ar gyrsiau dŵr lleol.  Mae hefyd wedi ein helpu i ganfod lle mae llygredd yn mynd i mewn i afonydd o amryw o ffynonellau, gan gefnogi ymchwiliadau a chamau pellach.

Hyd yma, rydym wedi casglu cicsamplau mewn dwsinau o leoliadau ar draws y ddau ddalgylch.  Rydym yn cynllunio ein harolygon yn ofalus fel y gallwn gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom a tharfu cyn lleied â phosib ar gynefinoedd afon.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau dyfroeddymdrochicanolyde@cyfoethnaturiol.cymru 

Yn cau 31 Maw 2027

Wedi agor 25 Meh 2026

Ardaloedd

  • Baruc
  • St. Bride's Major

Cynulleidfaoedd

  • Ansawdd dŵr
  • Water quality

Diddordebau

  • Ansawdd dŵr
  • Water quality