Gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw ein traethau a’n hafonydd i gymunedau lleol, ymwelwyr a bywyd gwyllt.
Mae dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio yn y Barri wedi methu â bodloni safonau ansawdd dŵr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid ydym eto yn gwybod yn llawn beth sy'n achosi'r broblem, ac mae'n debygol o fod oherwydd llawer o wahanol resymau.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau i ddeall yn well achosion ansawdd dŵr ymdrochi gwael ac i gefnogi camau gweithredu a all arwain at welliannau.
Beth yw’r prosiect?
Mae’r prosiect hwn yn ymdrech ar y cyd i ddeall a gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi yn Aberogwr a Bae’r Tŵr Gwylio.

Mae’r safleoedd hyn wedi’u dynodi’n ddyfroedd ymdrochi ac mae’r ddau safle wedi methu bodloni’r safonau ansawdd dŵr gofynnol o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013:
- Mae Aberogwr wedi cael dosbarthiad ‘gwael’ am dair blynedd yn olynol ers ei ddynodiad yn 2023.
- Cafodd Bae’r Tŵr Gwylio ddosbarthiad ‘gwael’ yn ystod blwyddyn gyntaf ei ddynodiad yn 2023, gan wella i ‘ddigonol’ yn 2024 a dirywio i ‘wael’ eto yn 2025.
Nod y prosiect yw:
- deall beth sy'n effeithio ar ansawdd dŵr ar draws y dalgylch cyfan, o afonydd a nentydd i'r môr
- nodi'r prif ffynonellau llygredd, boed hynny o systemau draenio, trefi, neu gefn gwlad cyfagos
- cymryd camau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan brofi atebion ymarferol a fydd yn arwain at welliannau parhaol.
Pam mae hyn yn digwydd?
Gall llawer o ffactorau gwahanol effeithio ar ansawdd dŵr ar draws y dalgylch cyfan.

Gall problemau gynnwys:
- gorlifoedd storm a systemau draenio yn cael eu gorlethu mewn tywydd gwlyb ac yn gollwng i mewn i afonydd
- seilwaith sy’n heneiddio dan bwysau cynyddol oherwydd twf poblogaeth a newid hinsawdd
- llygredd o ffyrdd ac ardaloedd trefol yn mynd i mewn i afonydd drwy ddraeniau dŵr wyneb
- pibellau sydd wedi’u cysylltu’n anghywir, lle mae dŵr gwastraff o gartrefi neu fusnesau wedi’i gysylltu’n anghywir i ddraeniau dŵr wyneb a gall fynd i mewn i afonydd neu’r môr heb ei drin
- llygredd o dir ffermio, gan gynnwys gwastraff anifeiliaid yn golchi i mewn i gyrsiau dŵr
Oherwydd gall llygredd ddod o wahanol ffynonellau a chyfuno ar draws yr ardal, mae angen i ni edrych ar y dalgylch cyfan i ddeall y broblem a nodi'r atebion cywir.
Sut rydyn ni’n gwneud hyn?
Ar lawr gwlad: beth mae ein swyddogion arbenigol yn ei wneud
Mae dau swyddog penodedig yn gweithio ar draws y ddau ddalgylch i helpu i lunio darlun manwl o’r hyn sy’n digwydd.

Mae eu gwaith yn cynnwys:
- profi ansawdd dŵr, yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb
- canfod lle mae llygredd yn mynd i mewn i afonydd a nentydd
- nodi problemau draenio, gan gynnwys pibellau sydd wedi'u cysylltu yn anghywir
- gweithio allan o ble mae bacteria niweidiol yn dod
- gwirio pa mor iach yw afonydd trwy edrych ar y bywyd gwyllt ynddynt.

Mae’r gwaith ymarferol hwn, ynghyd â dadansoddiad o ddata presennol sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid, ac adeiladu ar wybodaeth staff arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi gweithio yn y dalgylchoedd hyn ers blynyddoedd lawer, yn ein helpu ni i lunio darlun clir o’r hyn sy’n digwydd a chymryd camau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Gweithio gyda’n gilydd ar draws y dalgylchoedd
Ochr yn ochr â’r gwaith maes, rydyn ni’n dod â sefydiadau ynghyd i weithio ar draws y dalgylchoedd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n arwain y prosiect, gan gydweithio’n agos â:
- Dŵr Cymru - pwy rydyn ni'n eu rheoleiddio
- Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir - gwasanaeth iechyd yr amgylchedd ar y cyd ar gyfer cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, sy'n ymdrin â materion fel llygredd, diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cynog Bro Morganwg
a’n estyn allan at:
- sefydliadau amgylcheddol
- tirfeddianwyr a grwpiau cymunedol
Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd sefydliadau sydd â gwahanol gyfrifoldebau ac arbenigeddau i wneud y canlynol:
- rhannu gwybodaeth a data
- cytuno ar flaenoriaethau a chydlynu camau gweithredu
- gweithio’n fwy effeithlon drwy osgoi dyblygu
- datblygu cynllun cydgysylltiedig ar gyfer gwella
Drwy weithio fel hyn, gall partneriaid fynd i’r afael â materion cymhleth gyda’i gilydd na allai unrhyw sefydliad unigol eu datrys ar ei ben ei hun.
Gwrando a chynnwys cymunedau
Mae gwybodaeth leol yn hanfodol. Rydyn ni’n gwneud y canlynol:
- gweithio gyda grwpiau yn y gymuned, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid
- creu cyfleoedd i rannu gwybodaeth a syniadau
- cynorthwyo cyfranogiad cymunedol wrth fonitro a meithrin dealltwriaeth leol o ansawdd dŵr
- cadw pobl yn wybodus drwy ddiweddariadau a digwyddiadau ymgysylltu
Rydyn ni am i hyn fod yn ymdrech ar y cyd, lle mae pawb yn deall yr heriau ac yn gallu chwarae rhan wrth wella ansawdd dŵr. Pan fydd pawb yn deall yr heriau, gallwn ni i gyd chwarae rhan wrth wella ansawdd dŵr.
Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud?

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag adeiladu’r sylfeini ar gyfer gwelliant gwirioneddol, parhaol.
Yn y tymor byr, bydd yn:
- rhoi tystiolaeth well a chliriach i ni
- nodi camau gweithredu â blaenoriaeth a chamau cyflym ymlaen
Dros amser, bydd yn:
- cynorthwyo buddsoddiad ac atebion wedi’u targedu
- gwella ansawdd dŵr a chydnerthedd amgylcheddol
- creu model ar gyfer gwella dyfroedd ymdrochi eraill ledled Cymru
Cymryd rhan
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac i weithio gydag unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu gyda’r prosiect.
Mae’r prosiect eisoes ar y gweill a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2027. Ar hyn o bryd, rydyn ni yn y cyfnod casglu tystiolaeth, sy’n hanfodol i sicrhau bod camau gweithredu yn y dyfodol wedi’u targedu ac yn effeithiol.
Gallwch wneud y canlynol:
- cadw eich hun yn wybodus drwy gyfrwng diweddariadau am y prosiect
- cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu
- rhannu eich gwybodaeth am yr ardal
- helpu i nodi problemau ac atebion
E-bost: dyfroeddymdrochicanolyde@cyfoethnaturiol.cymru a gadewch i ni wybod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd.
Sut allwch chi helpu
Os ydych chi wedi gweld llygredd, wedi sylwi ar newidiadau mewn afonydd, neu os oes gennych chi wybodaeth leol am ddraenio neu ansawdd dŵr, gallai eich mewnbwn chi wneud gwahaniaeth go iawn.
Byddwn ni allan ar draws y dalgylch ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd eisiau rhannu eu profiad.

Gallwch chi hefyd chwarae rhan ymarferol wrth wella ansawdd dŵr drwy edrych am broblemau syml gartref, fel pibellau sydd wedi’u cysylltu’n anghywir, lle gallai dŵr gwastraff fod yn mynd i mewn i ddraeniau dŵr wyneb yn lle’r garthffos fudr. Ewch i wefan Dŵr Cymru am ragor o wybodaeth.
Os ydych chi’n amau llygredd, rhowch wybod i ni ar-lein neu drwy ein llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 03000 65 3000.
Mae arwyddion o lygredd i wylio amdanynt yn cynnwys:
- Afliwiad llaethog, cymylog neu lwyd yn y dŵr
- Pysgod marw neu mewn trafferth
- Arogleuon carthffosiaeth neu gemegol cryf
- Malurion sy’n gysylltiedig â’r toiled (weips gwlyb, nwyddau mislif)
- Dŵr brown neu wyrdd yn llifo i nentydd o gaeau amaethyddol, yn enwedig ar ôl glaw trwm
- Sglein tebyg i olew, ewyn gormodol, neu ewyn trwchus ar wyneb y dŵr
Yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect
Chwiliwch yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect neu dilynwch ni ar Facebook.
25 Mehefin 2026 - darllenwch ein datganiad
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau dyfroeddymdrochicanolyde@cyfoethnaturiol.cymru
Ardaloedd
- Baruc
- St. Bride's Major
Cynulleidfaoedd
- Ansawdd dŵr
- Water quality
Diddordebau
- Ansawdd dŵr
- Water quality
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook