WEDI CAU Cynnig Parc Cenedlaethol Cymru - Cyfnod Ymgysylltu 2023

Ar gau 27 Tach 2023

Wedi agor 9 Hyd 2023

Trosolwg

Ewch i dudalen Wales’s New National Park Proposal – Engagement Period 2023 i weld y dudalen hon yn Saesneg neu mynd yn ôl i dudalen wybodaeth Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru

Cynhaliwyd cyfnod ymgysylltu cynnar am saith wythnos o ddydd Llun 9 Hydref tan ddydd Llun 27 Tachwedd 2023.

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb, a oedd yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am y prosiect, gofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar fap cynnar o’r ardal sy’n cael ei hasesu, y cyfeirir ati fel yr ardal chwilio.

Map ardal chwilio

Dangosodd yr ardal chwilio y terfynau daearyddol lle byddem yn gwerthuso a fyddai’r meini prawf statudol ar gyfer parc cenedlaethol yn cael eu bodloni. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o dirweddau sydd, ar y cyd ag AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (a elwir bellach yn ‘dirwedd genedlaethol’), â’r potensial i fodloni meini prawf dynodiad tirwedd statudol. Nid oedd yr ardal chwilio yn ffin i barc cenedlaethol arfaethedig, a rhagwelwyd mireinio pellach wrth i ni symud ymlaen drwy’r broses.

Dywedodd Ash Pearce, rheolwr y prosiect:

“Bydd ymgynghoriad llawn ar fap ffiniau arfaethedig yn 2024 pan fyddwn wedi cwblhau ein hasesiadau ac wedi mireinio’r map. Ar y cam hwn, mae’r map yn diffinio’r ardal i ganolbwyntio ar ein gwaith asesu, ac mae gennym ddiddordeb mewn gwrando ar safbwyntiau’r holl randdeiliaid a’u deall. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect i ymweld ag un o’n digwyddiadau galw heibio ar-lein neu wyneb yn wyneb i ddarganfod mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac i rannu eich adborth â ni drwy lenwi holiadur.”

Mae dyddiadau, amseroedd a lleoliadau’r digwyddiadau a gynhaliwyd i’w gweld yn y tabl isod.

Digwyddiadau ymgysylltu – mis Hydref a mis Tachwedd 2023:

Dyddiad

Amser

Math o ddigwyddiad

Lleoliad 

Dydd Mercher 11 Hydref

*1pm – 7pm

Wyneb yn wyneb (galw heibio)

Canolfan Ceiriog, Heol Newydd, Glyn Ceiriog, Llangollen LL20 7HE

Nos Iau 19 Hydref

6pm – 7.30pm

Ar-lein

Microsoft Teams

Dydd Sadwrn 28 Hydref

*10am – 4pm

Wyneb yn wyneb (galw heibio)

Neuadd y Pentref, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun LL15 1UP

Dydd Llun 6 Tachwedd

*1pm – 7pm

Wyneb yn wyneb (galw heibio)

Y Sefydliad Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA

Nos Fawrth 14 Tachwedd

6pm – 7.30pm

Ar-lein

Microsoft Teams

Dydd Sadwrn 18 Tachwedd

*10am – 4pm

Wyneb yn wyneb (galw heibio)

Neuadd y Dref, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU

Dydd Mercher 22 Tachwedd

*1pm – 7pm

Wyneb yn wyneb (galw heibio)

Y Neuadd Goffa, The Record Journal, Trelawnyd LL18 6DN

*Gellid galw heibio unrhyw bryd rhwng yr amseroedd hyn.

Anogwyd pobl i alw heibio ar gyfer y digwyddiadau wyneb yn wyneb. Nid oedd angen cadw lle. Os oedd gan bobl ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o’r digwyddiadau ar-lein, fe’u hanogwyd i anfon neges e-bost at dîm y prosiect yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan nodi eu henw, eu buddiant (e.e. preswylydd, arweinydd cymunedol, tirfeddiannwr, ffermwr, perchennog busnes, cynrychiolydd sefydliad, ac ati) a pha ddigwyddiad yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddo (y dyddiad). Roedd y rhain yn ddigwyddiadau dwyieithog gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cyfnod ymgysylltu drwy ein tudalen we, y cyfryngau cymdeithasol a darllediadau newyddion lleol a chenedlaethol ar raglenni newyddion min nos ITV a’r BBC.

Roedd yn bleser mawr gennym siarad â thros 700 o bobl (619 wyneb yn wyneb a 105 ar-lein). Cawsom hefyd 966 o ymatebion i holiaduron. Dadansoddwyd yr holl ymatebion yn ofalus a chyflwynwyd y canfyddiadau mewn Adroddiad Cyfnod Ymgysylltu 2023.

Ardaloedd

  • Clwydian Range and Dee Valley

Cynulleidfaoedd

  • Designated Landscapes

Diddordebau

  • Community Engagement