Gwaith Plwm a Sinc Wemyss
Trosolwg
Mae Mwynglawdd segur Wemyss ryw 15km i'r de-ddwyrain o Aberystwyth, Ceredigion.
Cefndir
Mae wedi ei leoli ar ben dyffryn Cwmnewydion, un o lednentydd Afon Magwr, sy'n ymuno ag Afon Ystwyth yn Abermagwr.
Gweithiodd y wythïen mwynau Frongoch ochr yn ochr â mwyngloddiau Frongoch a Chraig Goch.
Daeth Wemyss yn rhan annatod o Fwynglawdd Frongoch ac ni ellir ei ystyried ar wahân i’w gymydog mwy disglair.
Yn y 1840au daeth y ddau fwynglawdd o dan yr un berchnogaeth, ac fe estynnwyd ceuffordd draenio Wemyss hefyd i wasanaethu gweithfeydd Frongoch, gan ddod yn Geuffordd Frongoch yr ydym yn gyfarwydd â hi heddiw.
Fe wnaeth y mwyngloddiau barhau i weithredu gyda’i gilydd, gyda llwyddiant amrywiol trwy gydol ail hanner y 19eg ganrif hyd nes iddynt gael eu caffael gan y cwmni o Wlad Belg 'Société Anonyme Miniére' ym 1898.
Fe wnaeth y Belgiaid fuddsoddi'n drwm mewn moderneiddio a thrydaneiddio'r gweithrediadau mwyngloddio, a oedd yn cynnwys adeiladu gorsaf bŵer hydro-drydanol newydd sbon ym Mhont Ceunant a melin fawr trin mwynau yn Wemyss.
Fodd bynnag, roedd y fenter yn fyrhoedlog ac erbyn 1904 roedd y cwmni wedi ei ddiddymu a chafodd holl beiriannau’r mwynglawdd eu gwerthu mewn arwerthiant.
Heddiw, mae safle Wemyss y cael ei ddominyddu gan adfeilion y felin drin a'i thomenni gwastraff mawr, sy’n cael eu ffinio i'r de ger Ffrwd Cwmnewydion ac i'r gorllewin ger y ffrwd lai, Y Felin.
Mae yna hefyd olion y pwll olwyn ar gyfer olwyn ddŵr 56 troedfedd, a gafodd ei fwydo o ffos o Frongoch.
Mae Wemyss yn ffynhonnell sylweddol o lygredd metel ac yn achosi effaith cemegol ac ecolegol ar gyrsiau dŵr i lawr yr afon.
Opsiynau Lliniaru Posib
- Trin dŵr mwynglawdd
- Rheoli dŵr wyneb e.e. draenio safle mwynglawdd
- Rheoli gwaddodion
- Ail-broffilio gwastraff mwynglawdd
- Capio gwastraff mwynglawdd
- Rheoli dŵr wyneb e.e. gwahanu
Amddiffynfeydd Dros Dro i Atal Erydiad
Statws:
Ar y Gweill / Yn y Cam Adeiladu
Ar hyn o bryd rydym yn y broses o osod amddiffynfeydd dros dro i atal erydiad yn Wemyss.
Bydd amddiffynfeydd dros dro i atal erydiad yn Wemyss yn cynnwys gosod rholiau creigiau ar y tomenni sborion i leihau faint o ddeunydd halogedig sy’n mynd i mewn i'r cwrs dŵr.
Bydd amddiffynfeydd dros dro i atal erydiad yn cael eu gosod yn y lleoliad hwn
Hynt y brosiect
Statws:
Dyluniad Manwl
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn casglu gwybodaeth i ddeall yn well y risg o lygredd o Fwynglawdd Wemyss, Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch er mwyn nodi rhestr o atebion lliniaru posibl.
Mae Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch yn cael eu datblygu gyda’i gilydd o dan un prosiect o’r enw Cwmnewydion, gyda Mwynglawdd Wemyss yn cael ei ddatblygu fel prosiect ar wahân o fewn y Rhaglen gyfan. Mae timau’r ddau brosiect yn gweithio’n agos i chwilio am arbedion a sicrhau’r buddion mwyaf posibl.
Rydyn ni wedi comisiynu Adroddiad Cwmpasu sy’n cynnwys Mwynglawdd Graig Goch a Cheuffordd Frongoch ac wedi cynnal asesiadau archeolegol ac ecolegol, er mwyn nodi’r problemau sy’n achosi llygredd i’r cwrs dŵr/ansawdd y dŵr ac y mae angen mynd i’r afael â hwy.
Ym Mwynglawdd Wemyss, nododd Astudiaeth Dichonoldeb mai'r prif ffynonellau llygredd yw'r tomenni sborion llawn metel sy'n nodweddu'r safle. Mae erydiad, mobileiddio a thrwytholchi metelau yn digwydd lle mae'r cyrsiau dŵr a'r glawiad yn rhyngweithio â'r gwastraff mwyngloddio hwn. Fe wnaethom symud nifer o ymyriadau peirianneg ar gyfer rheoli dŵr wyneb i'r cam Dyluniad Amlinellol. Yn gynnar yn 2024, fe wnaethom symud y prosiect hwn i’r cam Dyluniad Manwl.
Mae dyluniad manwl yn golygu ein bod bellach yn cwblhau ein dyluniad yn barod i'w adeiladu. Byddwn yn parhau i gysylltu â thirfeddianwyr lleol wrth i ni symud ymlaen trwy'r cam hwn. Yn ogystal, fe wnaethom nodi opsiynau i osod amddiffynfeydd dros dro i atal erydiad.
Y camau nesaf
Rydym bellach yn symud ymlaen trwy ein cam dylunio manwl. Bydd ein timau yn parhau i fonitro Wemyss yn ystod y cyfnod hwn.
Byddwn yn cwblhau'r mesurau i osod amddiffynfeydd dros dro i atal erydiad yn ystod gwanwyn 2025.
Amserlen bresennol
Isod, ceir amserlen o'n gwaith ar gyfer Wemyss. Sylwch fod yr amserlen hon yn ddangosol ac y gallai newid.
Gwanwyn 2025:
- Adeiladu amddiffynfeydd dros dro i atal erydiad
- Gweithio ar y dyluniad manwl
- Symud i’r cam tendro
Haf 2025:
- Cwblhau'r dyluniad manwl
- Ymgysylltu â thirfeddianwyr a rhanddeiliaid ehangach
- Mynd trwy'r broses dendro
2026 ymlaen:
- Cyfnod adeiladu disgwyliedig
Cylchlythyrau
2023
Gwybodaeth Bellach
Os hoffech ofyn am wybodaeth benodol, cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio cwmnewydion@metalmineswales.co.uk.
Dolenni gwefan
Prosiect mwynglawdd metel Cwmnewydion - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Cadw mewn Cysylltiad a Sut i Gymryd Rhan
Rydym am glywed gennych wrth i ni symud ymlaen â Phrosiect Mwynglawdd y Wemyss a Chwmnewydion ac archwilio’r cyfleoedd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach y gellir eu datblygu fel rhan o’r strategaeth a ffefrir ar gyfer y safle hwn.
Os hoffech chi rannu eich barn neu gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
cwmnewydion@metalmineswales.co.uk
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook