Gwaith Plwm a Sinc Wemyss
Trosolwg
Mae Mwynglawdd segur Wemyss ryw 15km i'r de-ddwyrain o Aberystwyth, Ceredigion.
Mae wedi ei leoli ar ben dyffryn Cwmnewydion, un o lednentydd Afon Magwr, sy'n ymuno ag Afon Ystwyth yn Abermagwr.
Gweithiodd y wythïen mwynau Frongoch ochr yn ochr â mwyngloddiau Frongoch a Chraig Goch.
Daeth Wemyss yn rhan annatod o Fwynglawdd Frongoch ac ni ellir ei ystyried ar wahân i’w gymydog mwy disglair.
Yn y 1840au daeth y ddau fwynglawdd o dan yr un berchnogaeth, ac fe estynnwyd ceuffordd draenio Wemyss hefyd i wasanaethu gweithfeydd Frongoch, gan ddod yn Geuffordd Frongoch yr ydym yn gyfarwydd â hi heddiw.
Fe wnaeth y mwyngloddiau barhau i weithredu gyda’i gilydd, gyda llwyddiant amrywiol trwy gydol ail hanner y 19eg ganrif hyd nes iddynt gael eu caffael gan y cwmni o Wlad Belg 'Société Anonyme Miniére' ym 1898.
Fe wnaeth y Belgiaid fuddsoddi'n drwm mewn moderneiddio a thrydaneiddio'r gweithrediadau mwyngloddio, a oedd yn cynnwys adeiladu gorsaf bŵer hydro-drydanol newydd sbon ym Mhont Ceunant a melin fawr trin mwynau yn Wemyss.
Fodd bynnag, roedd y fenter yn fyrhoedlog ac erbyn 1904 roedd y cwmni wedi ei ddiddymu a chafodd holl beiriannau’r mwynglawdd eu gwerthu mewn arwerthiant.
Heddiw, mae safle Wemyss y cael ei ddominyddu gan adfeilion y felin drin a'i thomenni gwastraff mawr, sy’n cael eu ffinio i'r de ger Ffrwd Cwmnewydion ac i'r gorllewin ger y ffrwd lai, Y Felin.
Mae yna hefyd olion y pwll olwyn ar gyfer olwyn ddŵr 56 troedfedd, a gafodd ei fwydo o ffos o Frongoch.
Mae Wemyss yn ffynhonnell sylweddol o lygredd metel ac yn achosi effaith cemegol ac ecolegol ar gyrsiau dŵr i lawr yr afon.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook