Ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen

Adborth wedi'i ddiweddaru 8 Meh 2026

Gofynnon ni

Gofynnwyd am eich sylwadau ar Gynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn gynllun lefel uchel sy’n pennu gwaith rheoli cyffredinol y coetiroedd, gan gyflwyno’r amcanion hirdymor ar gyfer pob coetir (er enghraifft adfer coetir hynafol, rheoli coetir brodorol, neu waith rheoli coedwigaeth safonol), a’r ymagwedd gyffredinol at unrhyw ailstocio, er enghraifft o ran rhywogaethau llydanddail brodorol neu goed conwydd. Ond nid yw’r cynllun yn ymdrin â gwaith rheoli penodol yr ystad o ddydd i ddydd. Ein Tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig sy’n gwneud hyn, ac mae eu gwaith yn helpu i lywio’r cynllun.

Dywedoch chi

Lefel gymharol isel o ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad hwn gyda dim ond 11 o bobl/sefydliadau yn rhoi o’u hamser i gynnig sylwadau trwy ein porth Citizen Space ar-lein neu’n uniongyrchol trwy e-bost. Daeth tua 17 aelod o’r cyhoedd neu sefydliad lleol i siarad â ni yn ein sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb. Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb, gan fod eich adborth yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Roedd cefnogaeth eang i’r nodau o leihau ein gwaith llwyrgwympo yn y cynllun hwn a dal ati i reoli ac adfer llecynnau o goetir hynafol ac ardaloedd glannau afonydd. Roedd llawer o’r ymatebion a gawsom wyneb yn wyneb yn ein sesiynau galw heibio neu ar-lein yn sôn am ddefnyddio’r coedwigoedd ar gyfer cerdded a beicio mynydd, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r coedwigoedd hyn fel adnodd a chyfle i gysylltu â natur yn yr ardal hon.

Cawsom rai ymatebion yn pryderu ynghylch ymddygiadau gwrthgymdeithasol, gyda thipio anghyfreithlon, sbwriel a cherbydau modur anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn y goedwig yn cael eu hadrodd. Mae’n bwysig i ni eich bod yn dal ati i roi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon a digwyddiadau oddi ar y ffordd fel y gellir delio â nhw. Dylid rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon ar ein tir i’r llinell ddigwyddiadau 24/7 neu drwy’r ffurflen ar-lein yma Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol neu drwy ffonio 0300 065 3000. Mae hyn yn caniatáu i’r timau lleol drefnu i gasglu tystiolaeth a chlirio’r gwastraff a dipiwyd. Os nad yw’r tipio anghyfreithlon o fewn coedwig rydyn ni’n ei rheoli, rhaid rhoi gwybod am hyn i’r Awdurdod Lleol perthnasol.

Dylid rhoi gwybod am yrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon drwy rif 101 yr ​​heddlu. Mae’r adroddiadau hyn yn hanfodol bwysig er mwyn casglu tystiolaeth a gwybodaeth er mwyn targedu adnoddau yn y dyfodol yn y lleoliadau cywir.

Soniodd yr ymatebion hefyd am bwysigrwydd ein hamgylcheddau naturiol a hanesyddol fel ein coetir hynafol, hen waliau cerrig, carneddau a bywyd gwyllt.

Gwnaethom ni

Mae’r holl sylwadau wedi cael eu trosglwyddo a’u trafod gyda’r timau lleol perthnasol.

Rydym yn cydnabod bod rhai mathau o bwysau hamdden yn bryder ac rydym yn gweithio’n galed i annog hamdden gyfrifol. Roedd adnewyddu’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn cynnwys Amcan i weithio gyda phartneriaid, fel yr heddlu, i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol fel beiciau oddi ar y ffordd anghyfreithlon a thipio anghyfreithlon – dyma pam mae eich adroddiadau mor bwysig i ni fel y gallwn ddeall y meysydd blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt yn ein coedwigoedd.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd hanesyddol o fewn ardal y cynllun a’i hen waliau cerrig, carneddau a ffermydd niferus yn ogystal â hanes diwydiannol mwy diweddar, a byddwn yn dal ati i amddiffyn hyn. Rydym wedi cynnwys Amcan yn y cynllun adnewyddedig i Warchod yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae pob un o fapiau’r cynllun yn dangos ble rydym wedi cytuno ar fannau agored o amgylch henebion cofrestredig fel y cytunwyd gyda CADW ac rydym yn gweithio’n agos gyda nhw ar gynlluniau rheoli ar gyfer y safleoedd hyn. Rydym hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â Heneb i gadw ein cofnodion yn gyfredol ar bob nodwedd archaeolegol arall y mae angen ei diogelu.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw amgylchedd ein coedwig i fywyd gwyllt, rhywfaint ohono’n brin ac o dan fygythiad. Mae gennym gynlluniau i wella cynefinoedd ymhellach dros y 10 mlynedd nesaf er budd rhai o’r rhywogaethau mwy prin a dan fygythiad, a fydd hefyd yn arwain at fanteision dilynol i lu o rywogaethau eraill.

 

Ar gau 17 Ebr 2026

Wedi agor 12 Maw 2026

Trosolwg

Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.

Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu.

Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen yn cynnwys tua 5 coetir wedi'u rhannu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac yn cwmpasu ardal o 1,365 hectar.

Mae lleoliad y coetiroedd yn ddyffrynnoedd serth ger cymunedau Merthyr Tudful i'r Gogledd, trwy Aberfan, Aberpennar a Throedyrhiw ac i lawr i Dreharris ac Abercynon yn y De. Mae mwyafrif y Cynllun Coetiroedd yn ymestyn rhwng Afon Taf i'r dwyrain ac Afon Cynon i'r Gorllewin ac mae'n eistedd o fewn Dalgylch ehangach Taf.

Mae'r Cynllun Adfer Coetiroedd yn darparu nifer o fanteision gyda rhai ardaloedd yn darparu adnodd pren gwerthfawr, eraill yn canolbwyntio ar hamdden (h.y. Parc Beicio Cymru) ac adfer cynefinoedd (Adfer Coetiroedd Hynafol, cynefin Madfallod Dŵr Cribog, cynefin glaswelltir).

Amcanion Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen

Mapiau

Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:

Esboniad o allweddi’r map

Map Lleoliad

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1 - Amcanion Hirdymor

Gweledigaeth Hirdymor Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen

Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd

Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen

Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd

Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannau Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd ac ochrau dyffrynnoedd dros amser
  • Cynnydd mewn cadw gorchudd coedwig yn y tymor hir
  • Adfer Planhigfeydd yn Raddol ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol 
  • Coetiroedd Hynafol Amrywio rhywogaethau coed

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen, er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon chwe i wyth wythnos wedi'r dyddiad cau.

Digwyddiadau

  • Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth

    O 24 Maw 2026 at 14:00 i 24 Maw 2026 at 17:30
    Location Canolfan Gymunedol Pennar, Llyfrgell Aberpennar, Stryd Rhydychen, Aberpennar CF45 3HD

    Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Gymunedol Pennar, Llyfrgell Aberpennar, Stryd Rhydychen, Aberpennar CF45 3HD ar 24 Mawrth 2026. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin,Ystad Allen ac Ynysowen.

  • Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth

    O 26 Maw 2026 at 14:30 i 26 Maw 2026 at 18:30
    Location Canolfan Willows Troed-y-rhiw, Stryd y Bont, Troed-y-rhiw CF48 4DX

    Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Willows Troed-y-rhiw, Stryd y Bont, Troed-y-rhiw CF48 4DX ar 26 Mawrth 2026. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin,Ystad Allen ac Ynysowen.

Ardaloedd

  • Abercynon
  • Aberdare East
  • Cwmbach
  • Mountain Ash East
  • Mountain Ash West
  • Penrhiwceiber
  • Treharris

Cynulleidfaoedd

  • DCWW
  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management