Ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.
Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu.
Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen yn cynnwys tua 5 coetir wedi'u rhannu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac yn cwmpasu ardal o 1,365 hectar.
Mae lleoliad y coetiroedd yn ddyffrynnoedd serth ger cymunedau Merthyr Tudful i'r Gogledd, trwy Aberfan, Aberpennar a Throedyrhiw ac i lawr i Dreharris ac Abercynon yn y De. Mae mwyafrif y Cynllun Coetiroedd yn ymestyn rhwng Afon Taf i'r dwyrain ac Afon Cynon i'r Gorllewin ac mae'n eistedd o fewn Dalgylch ehangach Taf.
Mae'r Cynllun Adfer Coetiroedd yn darparu nifer o fanteision gyda rhai ardaloedd yn darparu adnodd pren gwerthfawr, eraill yn canolbwyntio ar hamdden (h.y. Parc Beicio Cymru) ac adfer cynefinoedd (Adfer Coetiroedd Hynafol, cynefin Madfallod Dŵr Cribog, cynefin glaswelltir).
Amcanion Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen
Isod ceri crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Ddarllen Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen Cynodeb o'r Amcanion
Mapiau
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map Lleoliad
Map 1 - Amcanion Hirdymor
Gweledigaeth Hirdymor Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen
Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd
Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannau Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd ac ochrau dyffrynnoedd dros amser
- Cynnydd mewn cadw gorchudd coedwig yn y tymor hir
- Adfer Planhigfeydd yn Raddol ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol
- Coetiroedd Hynafol Amrywio rhywogaethau coed
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ystad Allen ac Ynysowen, er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Rhowch eich barn i ni
Digwyddiadau
-
Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth
O 24 Maw 2026 at 14:00 i 24 Maw 2026 at 17:30Location Canolfan Gymunedol Pennar, Llyfrgell Aberpennar, Stryd Rhydychen, Aberpennar CF45 3HDRydym yn cynnal sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Gymunedol Pennar, Llyfrgell Aberpennar, Stryd Rhydychen, Aberpennar CF45 3HD ar 24 Mawrth 2026. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin,Ystad Allen ac Ynysowen.
-
Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth
O 26 Maw 2026 at 14:30 i 26 Maw 2026 at 18:30Location Canolfan Willows Troed-y-rhiw, Stryd y Bont, Troed-y-rhiw CF48 4DXRydym yn cynnal sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Willows Troed-y-rhiw, Stryd y Bont, Troed-y-rhiw CF48 4DX ar 26 Mawrth 2026. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin,Ystad Allen ac Ynysowen.
Ardaloedd
- Abercynon
- Aberdare East
- Cwmbach
- Mountain Ash East
- Mountain Ash West
- Penrhiwceiber
- Treharris
Cynulleidfaoedd
- DCWW
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook