Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Coedwig Llanuwchllyn yn ymestyn dros 1,503 Hectar ac wedi’i lleoli i’r Gorllewin o Lyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r goedwig yn cynnwys nifer o flociau coedwig sef Penaran, Wenallt a Lordship, yn ogystal â nifer o goetiroedd llai sydd wedi’u canolbwyntio o amgylch pentref Llanuwchllyn. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau dŵr yn y goedwig gan gynnwys ffynhonnell Afon Dyfrdwy yn llifo i Lyn Tegid, sy’n ardal gadwraeth arbennig. Mae’r goedwig hefyd yn gorgyffwrdd ag ardal cadwraeth arbennig Migneint-Arenig-Dduallt lle ceir sawl cynefin gorgors a gweundir:
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o'r amcanion ar gyfer Coedwig Llanuwchllyn
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Crynodeb o'r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y coetiroedd:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Llanuwchllyn er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Share
Share on Twitter Share on Facebook