Cynllun Adnoddau Coedwig Hafren

Closed 23 Apr 2021

Opened 24 Mar 2021

Overview

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae ardal cynllun adnoddau Coedwig Hafren yn 3513 hectar i gyd sy’n cynnwys prif floc Coedwig Hafren (2875 ha) a phum bloc coedwigaeth ategol.  Mae tri o’r rhain tua’r gogledd (Dolgau, Llwynygog Hill a Llwynygog) a dau ohonynt tua’r dwyrain a’r de (Tan Hinon a Maes Y Brynar, yn eu trefn).

Mae Coedwig Hafren yn sefyll ar ymylon Mynyddoedd Cambria, saith milltir i’r gorllewin o dref farchnad Llanidloes. O ganol tref Llanidloes gellir mynd yno ar hyd y ffordd gul i’r Hen Neuadd neu drwy ben gogleddol Llyn Clywedog ar ffyrdd bychain.

Mae’r goedwig yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr oherwydd y nifer fawr o lwybrau cerdded at atyniadau sydd yno gan gynnwys llwybr troed i Raeadr Blaenhafren, llwybr cerdded sy’n arwain at raeadr enwog Dŵr Torri Gwddf a llwybr saith milltir Tarddiad Afon Hafren sy’n mynd drwy’r goedwig hyd at darddiad Afon Hafren ym Mhumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru.

Mae Pumlumom yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei gynefin o fawnogydd a’i boblogaethau o adar yr ucheldir.

Mae Coedwig Hafren yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ardaloedd o goetir newydd ac yn helpu i adfer rhai o goetiroedd sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys rhai o goetiroedd hynafol unigryw Cymru. Gydag amser, bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig trwy Gymru gyfan, gan ddwyn buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y Cynllun Adnoddau Coedwig:

Amcanion Cryno Coedwig Hafren

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

 

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

 Esboniad o allwedd y map                                                

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

Bydd CNC yn cynnal neu'n cynyddu'r swm o bren a gynhyrchir er mwyn sicrhau hwb parhaus i economi Cymru wrth i'r galw byd-eang am bren gynyddu yn wyneb dirywiad yn y cyflenwad a fydd ar gael dros y 25 mlynedd nesaf.

Mae gan Goedwig Hafren rwydwaith torlannol helaeth a fydd yn parhau i gael ei gynnal, ac, ynghyd â hynny, caiff rhannau torlannol newydd eu dethol er mwyn gwarchod ansawdd y dŵr a'r cydbwysedd pH, ac i gynyddu bioamrywiaeth.

Mae llawer o'r goedwig wedi'i lleoli mewn dalgylchoedd sy'n sensitif i asid, sy'n golygu y caiff gweithrediadau coedwigaeth sy'n agos at gyrsiau dŵr eu hamlygu fel rhai enwedig o sensitif, ac y dylid arfer protocolau lliniaru priodol.

Archwilir cyfleoedd i gefnogi'r gwaith o greu cynefinoedd coetir gwlyb, ac i hybu bioamrywiaeth a'r manteision lleol posibl o ran rheoli llifogydd.

Caiff cymysgedd cynyddol amrywiol o goed ei blannu a'i ddatblygu lle mae'r pridd a'r uchder yn addas.

Mae gwaith rheoli SoDdGA Pumlumon yn gofyn am gyfuniad o fesurau clustogi â chynefinoedd agored, a phlannu coed llydanddail (lle bo'n briodol), a gwaith datblygu ymyl graddol er mwyn atal coed conwydd anfrodorol rhag sefydlu ac er mwyn sicrhau trawsnewid mwy meddal ar draws y dirwedd.

Dylid diogelu henebion cofrestredig, nodweddion treftadaeth a mannau treftadaeth ddiwylliannol, er mwyn cynnal gwerth hanesyddol y lleoliadau hyn o fewn y goedwig.

Mae mynediad a gweithgareddau hamdden yn bwysig i'r safle hwn, a dylid sicrhau y gwneir gwaith cynnal a chadw i gyfleusterau, neu eu gwella, lle bônt ar gael (e.e. traciau a llwybrau). Bydd cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r safle'n hybu statws y goedwig, yn enwedig gan ei bod wedi'i chydnabod fel safle enghreifftiol ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru.

Parhau i warchod nythfaoedd gweilch y pysgod â phroffil uchel er budd ymwelwyr, addysg ac ymchwil.

 

Why your views matter

 

Hoffem wybod eich barn a'ch sylwadau ar y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwig Hafren er mwyn ein helpu i wella'r dull o'i rheoli i'r hirdymor.

Areas

  • Aberaeron

Audiences

  • Management

Interests

  • Species Licence
  • Trwydded Rhywogaeth
  • Community Voulnteering
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig