Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Ystwyth yn cynrychioli 1,218 hectar, gan ymgorffori llawer o'r blociau coetir annibynnol sy'n rhedeg ar hyd y cwm, o gyrion gorllewin Aberystwyth, i Bont Rhyd-y-groes, ar ochrau Mynyddoedd Cambria, i'r dwyrain.
Mae'r coetiroedd yn trawsnewid trwy sawl parth gwahanol, gyda'r Ystwyth Isaf yn cynnwys nifer o flociau llai, sy'n ffurfio rhan annatod o'r dirwedd amaethyddol a choediog gyfoethog. Gan symud ymhellach i fyny'r cwm, mae tirwedd ddramatig gorlifdir a cheunant Ystwyth yn ffinio ag ardaloedd sylweddol o goetir serth ar ochr y cwm sy'n amrywiol ond cynhyrchiol. Yn ei rhannau canolog a dwyreiniol, mae'r llethrau serth hyn yn codi i rannau mwy agored o lwyfandir ucheldir Ceredigion, lle mae ardaloedd mwy helaeth o goedwigaeth gynhyrchiol wedi'u rheoli yn hanesyddol.
Mae holl ardal y cynllun adnoddau coedwig yn rhan o Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.
Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Ystwyth
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Dwyrain)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Gorllewin)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Dwyrain)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Gorllewin)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Dwyrain)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Gorllewin)
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Cwm Ystwyth er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook