Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Saif Coetiroedd Llanandras ar 443 hectar dros saith bloc o goetir arwahanol yn nalgylch afon Llugwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr:
Mae’r cynllun adnoddau coedwig yn cynrychioli llai nag 1% o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gyda gwaith cynaeafu/cludo coed yn bennaf, a lle i deneuo cnydau i gynhyrchu cynhyrchion boncyff â gwerth uchel. Mae’r coetiroedd sy’n gyfagos i’r goedwig yn rhai cymysg, clòs o gymeriad tebyg, ar raddfa ganolig. Sefydlwyd llawer o'r goedwig ar briddoedd gwlypach ar dir uwch mewn ardaloedd lle mae’n parhau i fod yn bosibl tyfu amrediad eang o rywogaethau coed, a hynny er gwaethaf cystadleuaeth frwd gan chwyn a risg gymedrol o wyntyllu.
Mae'r cynllun adnoddau coedwig hwn yn anelu at amrywiaethu rhywogaethau coed lle bo modd, yn enwedig drwy deneuo â theneuon hadu er mwyn creu amodau golau sy'n hybu aildyfiant naturiol o amrywiaeth o rywogaethau coed. Mae'r dirwedd yn dir fferm caeedig yn bennaf, fel cefndir i dwristiaeth a menter ar gyrion trefi. Mae Phytophthora ramorum wedi osgoi’r cnydau llarwydd hyd yn hyn, ond mae’r gwaith o lwyrgwympo coed llarwydd er mwyn hybu amrywiaeth o rywogaethau wedibod yn yr arfaeth ers blynyddoedd lawer. Mae angen ymyriadau teneuo blynyddol ar bob un o'r saith coetir, gyda gwaith llwyrgwympo cyhoeddedig sydd wedi'i amseru'n .
Ceir cynhyrchiant uchel o bren ar raddfa fach i ganolig yn y coetiroedd yn y cynllun adnoddau coedwig hwn , gan ychwanegu at warchod ansawdddŵr, y dirwedd a gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored.
Isod mae dolen i gopi y gellir ei lawrlwytho o'r 'Crynodeb o Amcanion' ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Coetiroedd Llanandras
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coetiroedd Llanandras er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook