Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am gyhoeddi cynlluniau rheoli basnau afonydd ar gyfer dwy ardal basn afon yng Nghymru: Gorllewin Cymru a Dyfrdwy.
Cyhoeddwyd y cynlluniau rheoli basnau afonydd presennol yn 2015. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru'r cynlluniau hyn bob chwe blynedd. Mae'n ofynnol i ni wneud hyn yn unol â rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017.
Mae'r cynlluniau'n nodi sut y bydd sefydliadau, rhanddeiliaid a chymunedau yn cydweithio i wella'r amgylchedd dŵr ym mhob ardal.
Mae'r cynlluniau’n gwneud y canlynol:
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn ar bawb i ystyried y materion sy'n effeithio ar yr amgylchedd dŵr yn ardal basn afon Gorllewin Cymru, a'r camau sy’n angenrheidiol i ddiogelu ac adfer yr amgylchedd dŵr.
Bydd eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn hanfodol wrth lunio, datblygu a diweddaru cynlluniau rheoli basn afon Gorllewin Cymru.
Rydym hefyd yn ymgynghori ar ddiweddaru cynllun rheoli basn afon Dyfrdwy ar gyfer 2021-2027.
Asiantaeth yr Amgylchedd fydd yn diweddaru ac yn cyhoeddi cynllun rheoli basn afon Hafren.
Mae dŵr yn hanfodol i'n hiechyd, ein lles, ein heconomi ac i greu amgylchedd iach sy'n gweithio y mae pob un ohonom yn dibynnu arno. Rydyn ni'n ei yfed, yn ei fflysio, yn nofio ynddo, yn pysgota ynddo ac mae planhigion a bywyd gwyllt yn byw ynddo.
Fodd bynnag, o ganlyniad i’n gweithredoedd ni, mae'r berthynas fregus rhwng pridd, dŵr a llystyfiant wedi newid. Mae datblygu trefol, seilwaith draenio ac amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi gwaethygu'r ffactorau hynny ymhellach.
Mae ein holl weithgareddau'n rhoi pwysau sylweddol ar ansawdd a maint y cyflenwad dŵr.
Rhaid dod o hyd i gydbwysedd gwell sy'n diwallu anghenion natur a phobl, yn enwedig wrth ystyried newidiadau yn y dyfodol o ganlyniad i effeithiau posibl newid hinsawdd.
Share
Share on Twitter Share on Facebook