Rhaglen Adfer Afonydd

Trosolwg

Pwy ydyn ni?

Ffurfiwyd tîm Rhaglen Adfer Afonydd (RRP) Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn 2018, ac mae’n fenter genedlaethol sydd â'r nod o adfer afonydd Cymru i gyflwr mwy naturiol, gwella iechyd ecolegol, a darparu manteision di-rif o ran bioamrywiaeth, gwydnwch hinsawdd a chymunedau. Mae'n ategu dyletswyddau statudol CNC o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) a Rheoliadau Cynefinoedd, gan gefnogi cyflawniad prosiectau ar lawr gwlad, ar raddfa fawr a bach. Mae hyn wedi arwain at weld y gwaith o adfer afonydd ledled Cymru yn cynyddu’n sylweddol, gan gynnwys camau gweithredu lleol RBMP, gyda 30+ o weithwyr sy'n canolbwyntio ar gyflawni yn gweithio ar adfer afonydd yn CNC. 

Mae afonydd iach yn golygu dŵr glanach, tirweddau mwy gwydn, a lleoedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Drwy adfer afonydd, rydyn ni’n helpu Cymru i addasu i’r newid yn yr hinsawdd ac yn amddiffyn ei threftadaeth naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r mathau o brosiectau yn cynnwys:

🌊 Ailgysyllltu afonydd a gorlifdiroedd i leihau’r perygl o lifogydd ac i storio carbon.

🐟 Cael gwared ar rwystrau ar gyfer pysgod sy’n mudo er mwyn i rywogaethau fel yr eog a’r brithyll allu ffynnu.

🌳 Gwella cynefinoedd ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt drwy ychwanegu nodweddion naturiol fel deunydd coediog a phlannu coed ar hyd glannau afonydd.

🤝 Gweithio gyda chymunedau a thirfeddianwyr i gyflwyno datrysiadau seiliedig ar natur sydd o fudd i bawb. 

Y Cyd-destun Strategol

Mae ecosystemau afonydd yng Nghymru o dan fygythiad sylweddol gan bwysau amrywiol, gan gynnwys rheoli tir, addasu ffisegol, llygredd dŵr, rhywogaethau goresgynnol a newid hinsawdd. Fel y cyhoeddwyd yn ein Cynlluniau Rheoli Basn Afon (RBMPs), y pwysau mwyaf arwyddocaol sy'n effeithio ar ecosystemau afonydd yw addasu ffisegol. Mae'r Rhaglen Adfer Afonydd yn mynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol drwy adfer ffurf naturiol a chynaliadwy yr afon, ac adfer prosesau sydd wedi'u haddasu'n ffisegol.

Cyfres Gweminarau Tachwedd 2026

Ymunwch â ni i glywed gan ymarferwyr ac arbenigwyr sy'n darparu gwaith adfer afonydd ledled Cymru. Trwy gyfres o bedair gweminar awr o hyd, byddwn yn rhannu astudiaethau achos ymarferol, gwersi a ddysgwyd a dulliau arloesol sy'n cwmpasu ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd a monitro afonydd.

Mae'r gweminarau yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adfer afonydd, rheoli llifogydd naturiol, rheoli dalgylchoedd, pysgodfeydd, coedwigaeth a chadwraeth dŵr croyw.

Amserlen y gweminarau:

  • 11 Tachwedd, 1-2pm - Ffermydd, Dŵr Croyw a Phartneriaeth: Blwyddyn Gyntaf Ffermio Bro
  • 18 Tachwedd, 1-2pm - Cynllunio ar gyfer Cysylltedd: Rôl Coedwigaeth mewn Afonydd Iachach
  • 25 Tachwedd, 1-2pm - Ffocws Pysgodfeydd: Blaenoriaethau Strategol a Chyflawni Rhaglenni
  • 2 Rhagfyr, 1-2pm - Tystiolaeth ar gyfer Adfer: Monitro Afonydd yn Effeithiol

Bydd y gweminarau yma yn uniaith Saesneg, ond gyda sleidiau dwyieithog. Croesawir cwestiynau Cymraeg yn ysgrifenedig, a bydd atebion ysgrifenedig yn cael eu darparu cyn gynted â phosib.

Cofrestrwch ar gyfer un neu fwy o sesiynau gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Ffermydd, Dŵr Croyw a Phartneriaeth: Blwyddyn Gyntaf Ffermio Bro, 11 Tachwedd, 1-2pm

Flwyddyn ar ôl lansio cynllun amaeth-amgylcheddol newydd Llywodraeth Cymru, Ffermio Bro, byddwn yn clywed myfyrdodau gan y Rheolwr Cenedlaethol, Lawrence Harris ar gynnydd ac uchelgeisiau'r rhaglen.

Bydd Lawrence yn archwilio sut mae Ffermio Bro yn cefnogi dulliau cydweithredol a arweinir gan ffermwyr o reoli dŵr croyw ac adfer afonydd ar raddfa dalgylch.

Yna, bydd Dion Roberts yn trafod astudiaethau achos ymarferol o Barc Cenedlaethol Eryri, sy'n arddangos y cyflawniad ar lawr gwlad a'r gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar

Cynllunio ar gyfer Cysylltedd: Rôl Coedwigaeth mewn Afonydd Iachach, 18 Tachwedd, 1-2pm

Darganfyddwch sut y gall cynllunio coedwigaeth helpu i ddatgloi manteision i afonydd, bywyd gwyllt a thirweddau.

Bydd yr Uwch Swyddog Cynllunio Coedwigaeth Rob Marsh yn rhannu sut mae ystyriaethau dŵr croyw yn cael eu hintegreiddio mewn cynlluniau coedwigaeth i gryfhau cysylltedd cynefinoedd a chyflawni canlyniadau amgylcheddol lluosog.

Yna byddwn yn clywed gan Rob Booth, Swyddog Adfer Bioamrywiaeth, a fydd yn dod â'r pwnc yn fyw trwy astudiaeth achos gan Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, gan dynnu sylw at waith adfer cynefinoedd ymarferol a gwelliannau i gysylltedd ecolegol.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar

Ffocws Pysgodfeydd: Blaenoriaethau Strategol a Chyflawni Rhaglenni, 25 Tachwedd, 1-2pm

Beth yw'r dyfodol i boblogaethau pysgod mudol eiconig Cymru?

Bydd ein gweminar Ffocws Pysgodfeydd yn agor gyda throsolwg strategol gan Brif Swyddog Pysgodfeydd CNC, Ben Wilson, yn archwilio'r materion allweddol sy'n siapio rheolaeth ac adfer pysgodfeydd.

Yna byddwn yn plymio i mewn i'r ochr ymarferol o gyflawni. Bydd Dave Charlesworth - Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Reoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw yn darparu diweddariadau ar raglenni blaenllaw gan gynnwys y Gronfa Ddyrannu Strategol, Rhaglen Eogiaid Yfory, Dull Cadarnleoedd Eogiaid, a phrosiectau uchelgeisiol sy'n helpu i ailgysylltu afonydd ac adfer llwybrau mudo pysgod.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar

Tystiolaeth ar gyfer Adfer: Monitro Afonydd yn Effeithiol, 2 Rhagfyr, 1-2pm

Sut ydyn ni'n gwybod a yw prosiect adfer afonydd wedi bod yn llwyddiannus?

Ymunwch ag Uwch Swyddog Monitro CNC, Sophie Gott, i archwilio'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i fonitro prosiectau adfer afonydd, o arolygon cynefinoedd a geomorffolegol i fonitro ecolegol ac ansawdd dŵr.

Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin â'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu monitro effeithiol a'r paramedrau allweddol a ddefnyddir i asesu canlyniadau'r prosiect, gan helpu ymarferwyr i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer adfer.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar

 

Beth rydyn ni’n ei wneud

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth a gaiff ei nodi yng Nghynllun Corfforaethol CNC hyd at 2030, a gwireddu'r cyfleoedd yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, yn ogystal â chyflawni'r dyletswyddau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyflawni gofynion Rheoliadau WFD (2017), nod y Rhaglen Adfer Afonydd yw:

Keycap one Gwella prosesau cydlynu, gosod cyfeiriad, llywodraethu, rheoli (cyllidebol a phobl), arbenigedd, cyfathrebu ac integreiddio ein prosiectau adfer afonydd.

Keycap two Cyflawni'r weledigaeth ganlynol:

Adfer afonydd, gorlifdiroedd a dalgylchoedd ar gyfer cynefinoedd, bywyd gwyllt a chenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Keycap three Gweithio gyda rhanddeiliaid ar brosiectau adfer afonydd i gyflawni nodau cyffredin.

Ein hamcanion

Droplet Blaenoriaethu ble rydyn ni’n gweithio a beth rydyn ni’n ei wneud          Blaenoriaethu lleoliadau sy'n sicrhau manteision amrywiol i safleoedd gwarchodedig a’r WFD yn ogystal â lle gallwn ni wella bioamrywiaeth dŵr croyw a'r amgylchedd dŵr. 

DropletGweithio ar y cyd ar raddfa'r dalgylch                                        Integreiddio â'r dull cynllunio dalgylchoedd, drwy RBMPs. Mae hyn yn golygu cyflawni ar raddfa'r dalgylch, gweithio ar draws prosiectau/rhaglenni yn fewnol ac yn allanol i feddwl yn fwy eang, i sicrhau effeithlonrwydd, ac i gyflawni mwy. Byddwn yn adeiladu ar waith blaenorol gan bawb yn y dalgylch, yn ogystal â meithrin perthnasoedd cydweithredol.

DropletGadael i fyd natur wneud y gwaith                                                              Adfer prosesau a swyddogaethau naturiol afonydd, gan fanteisio i’r eithaf ar ddeinameg a gweithio gyda byd natur lle bo hynny'n bosibl. Byddwn ni’n chwilio am gyfleoedd i arafu'r llif a chreu cynefinoedd gwlyptir, sy'n dal gwaddod, yn cymedroli’r llif ac yn helpu i wrthsefyll newid hinsawdd.

Droplet Adfer cysylltedd                                                                                    Dileu neu wella rhwystrau i gysylltedd hydredol, ochrol a fertigol, gan helpu i adfer cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw.

Droplet Rhannu beth rydyn ni'n ei wneud                                                              Hyrwyddo Rhaglen Adfer Afonydd CNC a chyfathrebu a monitro ein llwyddiannau, er mwyn meithrin cefnogaeth, cyfnewid gwybodaeth a datblygu arferion gorau o ran adfer afonydd. Byddwn ni’n dryloyw gyda'n gwaith, gan wneud yn siŵr bod y data a’r adroddiadau am ein gweithgarwch yn hygyrch i'n holl randdeiliaid (lle bo’n briodol).

Prosiectau Cyfredol

Mae'r RRP yn gwneud cais am gyllid ar gyfer pob prosiect penodol. Ar hyn o bryd, mae'n cyflawni'r prosiectau canlynol yn uniongyrchol gyda chyllideb o ~£3.5miliwn wedi'i sicrhau o'r gronfa Argyfwng Natur ac Hinsawdd tan ddiwedd Mawrth 2028:

Nant Dowlais (Phase 2)

Kenson

Nant y Wedal River Restoration (Heath Park)

Nant y Fendrod

Clyne

Teifi Catchment restoration project

National Physical Modification project

Projects we are supporting but not directly delivering:

Freshwater Pearl Mussel reintroduction

Pulford Meadows SSSI

Four Rivers for Life

Upper Wye

LIFE Dee River

Cadoxton

Teifi Demonstrator Programme

Floodplain Meadows Partnership

Llandinam Gravels (postponed)

Opportunity Catchments

  • Dee
  • Clwyd
  • Conwy
  • Anglesey
  • Teifi
  • Taff/Ely
  • Cleddau/Milford Haven
  • Swansea Bay
  • Central Monmouthshire
  • Ithon

Prosiectau’r Gorffennol

Nant Dowlais Phase 1

Pelenna

Dulas (Upper & Lower)

Clywedog

Cysylltwch รข ni

Email adferafonydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Computer Natural Resources Wales

Yn cau 30 Tach 2030

Wedi agor 30 Tach 2025

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • River restoration
  • Rivers

Diddordebau

  • Adfer afonydd
  • Adnoddau Dwr
  • Bioamrywiaeth
  • Biodiversity
  • Community Voulnteering
  • Cynllunio dwr
  • Dee
  • Fishing
  • Flooding
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • Landscapes
  • Llifogydd
  • Pysgota
  • resources
  • river basin planning
  • River restoration
  • Terrestrial ecosystems and species
  • Tirweddau
  • water framework directive
  • water planning
  • Water Resources
  • WFD
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr