Achos dros Newid

Yn cau 13 Medi 2024

Wedi'i agor 31 Gorff 2024

Trosolwg

Heddiw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio ymgynghoriad gyda'i Undebau Llafur ar gynigion ar gyfer newidiadau i'w strwythur staffio.

Y pwrpas yw ailffocysu adnoddau ar y gweithgareddau a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar natur, hinsawdd a lleihau llygredd, yn ogystal â'r gwaith statudol y gall CNC yn unig ei wneud. Mae'n rhaid i'r sefydliad hefyd wneud arbedion ariannol sylweddol.

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr CNC, wrth lansio'r ymgynghoriad:

"Mae arian cyhoeddus yn eithriadol o dynn ar draws y DU gyfan. O'r herwydd, mae'n rhaid i ni edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac adolygu'n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud, yr hyn yr ydym yn ei stopio, a'r hyn yr ydym yn arafu neu'n ei wneud yn wahanol i gyflawni  ein huchelgeisiau Cynllun Corfforaethol. Nid yw hyn yn wahanol i unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd.

"Heddiw rydym wedi lansio ymgynghoriad gyda staff ar ein cynigion ar gyfer newidiadau yn ein strwythur staffio. Y nod yw lliniaru colli swyddi gymaint â phosibl.

"Bydd rhai o'r newidiadau hyn, os cânt eu gweithredu, yn effeithio ar ein partneriaid, ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid. Yn dilyn ein hymgynghoriad, bydd Bwrdd CNC yn gwneud penderfyniad terfynol ar newidiadau ac ar y pwynt hwnnw byddwn yn egluro beth mae'r newidiadau yn ei olygu wrth ddarparu gwasanaethau.

 

"Ni fydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion.  Yn 2022-23 cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ein Cynllun Corfforaethol, Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd, sy'n gosod ein cyfeiriad a'n blaenoriaethau strategol hyd at 2030.  Mae'r ymgynghoriad hwn gyda'r Undebau Llafur yn ymwneud â sut rydym yn sicrhau ffocws ar flaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol hynny wrth addasu i fyw o fewn ein dulliau ariannol. Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb sy'n gweithio yn CNC a gofynnwn i'r cyhoedd gefnogi ein pobl wrth iddynt fynd drwy'r ymgynghoriad hwn."

Mae hwn yn ymgynghoriad gyda staff ac Undebau Llafur ac ni fydd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 45 diwrnod a bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau terfynol ar newidiadau strwythurol ddiwedd mis Medi.

 

Ar y dudalen gallwch ddarllen rhai pennodau o'r Achos dros Newid ynghyd a phenawdau am y gwasanaethau rydym ni'n cynnig a fydd yn newid.

Ymgynghoriad mewnol yw hwn

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • Woodland Opportunity Map users
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Gwent
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Engagement