Cynigion Panel Adferiad Gwyrdd

Closed 31 Aug 2020

Opened 20 Aug 2020

Overview

Bydd adferiad gwirioneddol wyrdd o bandemig y coronafeirws yn allweddol i gyflymu'r broses o newid Cymru i economi carbon isel a chenedl iachach, fwy cyfartal.

Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig eisoes wedi gofyn i Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw, I arwain grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu syniadau sy’n cysylltu gweithredu ar ran yr hinsawdd â chreu swyddi, twf economaidd cynhwysol a theg, a blaenoriaethau datblygu eraill.

Y nod yw symud y tu hwnt i'r status quo a datblygu syniadau radical sy'n ymarferol ac yn gyraeddadwy, er mwyn mynd i'r afael â’r sefyllfa sydd ohoni ar ôl COVID-19.

I wneud hyn, bydd angen i ni ddangos hyblygrwydd a dychymyg wrth edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd a sut y gallem ehangu ein ffordd o feddwl er mwyn datblygu dulliau newydd a dyfeisgar.

 

Why your views matter

Dyma’r cyfle i gyfrannu eich syniadau gall ein harwain tuag at ddulliau gwell a mwy cynhwysol o fynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur, economi carbon isel a chenedl iachach a mwy cyfartal.

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Cymraeg

Interests

  • Gwirfoddoli Cymunedol