Creu coetir yn Nhy’n y Mynydd — cyfle i weithio mewn partneriaeth

Closed 15 Mar 2023

Opened 15 Feb 2023

Overview

Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgynghoriad i ofyn i bobl am eu hadborth i helpu i lunio'r cynlluniau ar gyfer coetir newydd yn Nhy’n y Mynydd, Ffordd Penmynydd ar Ynys Môn.

Diolch i chi am gysylltu i rannu eich adborth gyda ni, boed hynny drwy ein hymgynghoriad ar-lein, ein digwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Esceifiog, neu drwy gysylltu â ni yn uniongyrchol.

O ganlyniad i'r adborth rydym wedi’i gael, rydym wedi rhannu'r safle’n ddwy ardal er mwyn ein helpu i gyflawni'r amcanion a nodwyd:

  • Ardal un - Ardal blannu ar gyfer coetir cymysg, tua 4.5ha
  • Ardal dau — Cyfle i weithio mewn partneriaeth, tua 6.5ha

Mae'r cynllun isod yn dangos yr ardal a nodwyd ar gyfer coetir cymysg (yr ardal â llinellau gwyrdd) a'r ardal a nodwyd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth (yr ardal â llinellau brown)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Sut olwg fydd ar safle Ty’n y Mynydd?

Mae pum prif amcan wedi'u nodi ar gyfer y safle yn Nhy’n y Mynydd. Mae’r rhain wedi’u llywio gan yr amcanion ehangach ar gyfer ein Rhaglen Creu Coetir, amodau’r safle a’r adborth a gawsom gan randdeiliaid ar ein cynlluniau ar gyfer y safle.

  1. Gwella bioamrywiaeth trwy greu, adfer a chysylltu cynefinoedd.
  2. Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy i dyfu bwyd, coed a natur.
  3. Cynyddu gwydnwch coetiroedd yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
  4. Sefydlu man awyr agored diogel, cydnaws, hygyrch ar gyfer hamdden.
  5. Creu coetir sy'n cyd-fynd â chymeriad tirwedd Ynys Môn.

Cyfle gweithio mewn partneriaeth — sut alla i gymryd rhan?

O ganlyniad i'r adborth a gafwyd, rydym wedi nodi cyfle cyffrous i ni weithio fel rhan o bartneriaeth hirdymor (er enghraifft, gyda grŵp cymunedol neu fusnes ffermio lleol) ar gyfer y 6.5 hectar o'r safle y byddwn yn ei gyd-ddylunio fel rhan o bartneriaeth.

Rydym yn gwahodd grwpiau neu unigolion i gyflwyno datganiad o ddiddordeb, i weithio mewn partneriaeth â ni ar y safle hwn, i gyflawni ein hamcanion ochr yn ochr â'u hamcanion eu hunain. Bydd hyn ar gael ar Gronfa Ddata Eiddo'r Llywodraeth 'e-PIMS' Login, e-PIMS (cabinetoffice.gov.uk)

Gallwch hefyd ofyn am ffurflen Datganiad o Ddiddordeb drwy anfon e-bost at woodlandcreation.hub@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Er enghraifft, gallai syniadau gynnwys coetir cymunedol, amaethyddiaeth neu dyfu bwyd cymunedol, tir pori coediog, perllannau neu unrhyw gyfuniad o syniadau tebyg.

Byddwn yn gweithio gyda chynigion llwyddiannus i gyd-ddylunio'r cyfleoedd partneriaeth a chreu cytundeb â ni.

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb fydd Mawrth 15 2023. 

Crynodeb o'r adborth

Cawsom 57 o ymatebion i'n hymgynghoriad.  Roedd y rhain ar-lein (drwy Citizen Space), drwy e-bost a llythyr, ac yn bersonol yn ystod sesiwn galw heibio a gynhaliwyd ar 30 Mehefin yng Nghanolfan Esceifiog, y neuadd gymunedol.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn dangos bod bioamrywiaeth yn cael ei gweld fel yr amcan pwysicaf ar gyfer coetir yn gyffredinol ac yn benodol ar y safle hwn; dilynwyd hyn gan 'bobl/mynediad' ac yna newid yn yr hinsawdd.

O ran mynediad, yr ymateb mwyaf o ran teithio i’r safle oedd ‘car/motobeic’ ond yn aml roedd hyn yn dod gyda sylwadau ynghylch hygyrchedd a diogelwch presennol y mynediad i’r safle ar droed neu ddim mewn cerbyd. Os ydym am gyflawni ein hamcanion, bydd sefydlu mynediad diogel nad ydyw ar gyfer cerbydau yn flaenoriaeth glir yn y tymor hir.

Mae'n anodd mesur y sylwadau a roddwyd. Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn eu categoreiddio i bedair thema allweddol. Yn gyntaf, cawsom lawer o gyfraniadau brwdfrydig a defnyddiol ar ddyluniad y coetir y gallwn eu cynnwys wrth i ni fynd ati i gynllunio'r manylion. Yn ail, cawsom nifer sylweddol o ymatebion a oedd yn cyfeirio at y datblygiad yng Nghoetir Penrhos, nad yw o fewn cwmpas y prosiect hwn, ac rydym wedi’u trosglwyddo i'r awdurdod perthnasol.

Yn drydydd ac yn bedwerydd, cawsom sylwadau ynghylch parhau i gynhyrchu bwyd drwy ffermio’r tir, a’r defnydd cymunedol ac addysgol o'r safle.

Yn wahanol i ddefnydd cymunedol/addysgol, nid oedd bwyd/amaethyddiaeth yn rhan o'r amcanion ar gyfer y safle a oedd yn sail i’r ymgynghoriad a'r dyluniad gwreiddiol. Rydym yn deall y teimladau cryf sydd ynghlwm wrth hyn, felly teimlwn ei bod yn bwysig ystyried hyn ymhellach. Mae hyn felly wedi'i ystyried yn yr amcanion a'n dull o ddatblygu'r safle.

Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd gennym a sut mae'r rhain wedi dylanwadu ar ein cynlluniau ar gael yma.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Areas

  • Menai (Bangor)

Audiences

Interests

  • Forest Management