Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgynghoriad ar ein cynlluniau i greu Coetir Coffa yn Brownhill, Sir Gaerfyrddin.
Diolch am gysylltu i roi eich adborth i ni, boed hynny drwy ein hymgynghoriad ar-lein, y digwyddiad galw heibio yn neuadd bentref Llangadog, neu drwy gysylltu â ni'n uniongyrchol.
O ganlyniad i'r adborth a gawsom, rydym wedi rhannu'r safle'n dair ardal, a bydd gan bob un ohonynt amcanion gwahanol. Gellir gweld y tair ardal ar y map isod.
Ardal Un – Ardal Gadwraeth
Ardal Dau – Ardal Goetir
Ardal Tri – Ardal Dyfu
Crynodeb o adborth
Cawsom 117 o ymatebion i'n hymgynghoriad, cymysgedd o ymatebion ar-lein i'r arolwg, llythyrau ac e-byst a'r rhai a gasglwyd yn y digwyddiad wyneb yn wyneb. Gellir gweld y rhain yma.
Rydym yn deall y pryderon a godwyd ynghylch mynediad diogel i'r safle a gwahanol fathau o ddefnydd arfaethedig o'r tir. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r adborth o'n cylch ymgynghori cyntaf yn dangos cefnogaeth gyffredinol i'r amcanion a nodwyd ar gyfer 1, yr "Ardal Gadwraeth" a 2, yr "Ardal Goetir".
Byddwn yn ymdrin â’r ardaloedd hyn yn wahanol er mwyn sicrhau bod mynediad cyhoeddus a lle i fywyd gwyllt yn ategu ei gilydd. Yn y tymor hwy byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o wneud y safle'n fwy hygyrch heb gar.
Mae'r rhan fwyaf o'r syniadau a'r pryderon a godwyd yn ymwneud ag Ardal Tri, yr "Ardal Dyfu". Felly, byddwn yn canolbwyntio'r ymgynghoriad hwn ar y rhan hon o'r safle.
Ar gyfer yr “Ardal Dyfu” rydyn ni wedi cael ambell i syniad ar gyfer sut y gallen ni gyflawni’r amcanion a nodir uchod a hoffem eich gwahodd i rannu eich barn i helpu i lywio’r camau nesaf wrth ddylunio’r coetir coffa yn Brownhill.
Sut alla i gymryd rhan?
Gallwch ddweud eich dweud drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar-lein isod.
Cyflwynwch unrhyw adborth drwy'r ddolen ymgynghori lle bydd ein Tîm Creu Coetiroedd yn ymdrin ag ef. Dim ond ymatebion a gyflwynir yn y modd hwn y byddwn yn eu hystyried.
Byddwn yn cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb ar
14 Gorffennaf yn ystafell ddarllen Llansadwrn, SA19 8HH Sir Gaerfyrddin
I siarad â chymunedau o'r ardal gyfagos a chasglu adborth.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Unwaith y byddwn wedi gorffen ymgynghori â'n cymdogion, cymunedau lleol a phartneriaid, byddwn yn casglu adborth pawb i'n helpu i lywio dyluniad y safle.
Byddwn yn rhannu’r adborth a’r dyluniadau ar dudalen y prosiect ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (@NatResWales)
Neu gallwch ofyn i gael eich ychwanegu ar ein rhestr bostio drwy e-bostio: woodlandcreation.hub@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rydym yn bwriadu creu cyfleoedd i wirfoddolwyr i'n helpu i baratoi a phlannu coed ar y safle. Bydd y rhain yn dechrau yn yr hydref, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddyddiadau ac amseriad y rhain maes o law.
Share
Share on Twitter Share on Facebook