Coetiroedd Coffa Cymru

Closed 30 Apr 2023

Opened 4 Feb 2022

Overview

Ym mis Mawrth 2021 cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i greu dau goetir newydd, i weithredu fel cofeb i bawb a gollodd eu bywydau yn y pandemig Covid-19, a'r ffordd y mae cymdeithas yng Nghymru wedi ymdopi â bygythiad Covid-19.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cael y fraint o weithio mewn partneriaeth i gefnogi prosiect coetiroedd coffa Llywodraeth Cymru.

I ddechrau, bydd dau goetir newydd yn cael eu creu, un yn y Gogledd ac un yn Ne Cymru, er y gellir cyhoeddi mwy yn y dyfodol.  

Rydym yn falch o rannu gyda chi ein bod yn bwriadu sefydlu’r safleoedd coetir newydd hyn yn Brownhill, yn Sir Gaerfyrddin ac ar ystâd Erddig yn Wrecsam.

Bydd y coetiroedd Coffa yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac yn un o adfywio ac adnewyddu wrth i'r coetiroedd newydd dyfu. Byddant yn fannau coffa lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio am anwyliaid coll a lle bydd y cyhoedd yn gallu myfyrio ar y pandemig a'r effaith enfawr y mae wedi'i chael ar bob un o'n bywydau.

Fel gyda phob coetir newydd, byddant yn ddarostyngedig i'r prosesau cymeradwyo angenrheidiol. Bydd y coetiroedd yn cael eu cynllunio i fod yn wydn i fygythiadau hinsawdd, plâu a chlefydau a byddant yn cael eu rheoli i ddarparu llesiant, effeithiau amgylcheddol ac economaidd i bobl Cymru am byth.

Bydd cymunedau’n cael y cyfle i ymgysylltu â’r safleoedd yn barhaus, o ran siapio’r cynllun a chymryd rhan yn y gwaith plannu, yn ogystal â rheolaeth barhaus. Ein gweledigaeth yw i’r ardaloedd fod yn goedlannau coffa yn eu cyfanrwydd, ac nid ydym yn bwriadu dyrannu coed yn unigol. Y rheswm am hyn yw bod coetiroedd yn systemau deinamig, byw sy’n cael eu rheoli’n weithredol. Er mwyn iddynt ffynnu, bydd angen i ni gael gwared ar goed o bryd i’w gilydd i wneud lle i’r goedlan aeddfedu ac i sicrhau ei fod yn ddiogel. Fel rhan o’r ymgynghoriad ehangach dros y misoedd nesaf, byddwn yn gofyn am awgrymiadau ynglŷn â ffyrdd y gellid cofio unigolion yn y ddwy goedlan.

Creu Coetiroedd

Mae coetiroedd yn darparu ystod eang o fuddion – o'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gloi carbon, i ddarparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt. Mae coetiroedd yn darparu mannau hamdden awyr agored i bobl fwynhau ac yn creu cyflogaeth yn ogystal â chefnogi bywoliaethau gwledig drwy eu hôl-ofal a'u rheolaeth weithredol.

Drwy gynyddu cyfradd creu coetiroedd newydd a phlannu coed yng Nghymru gallwn gefnogi'r ymdrechion i fynd i'r afael ag Argyfyngau Hinsawdd a Natur drwy gefnogi datgarboneiddio a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae'r prosiect coetir coffa yn rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys rhwydwaith o goetiroedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd o dan reolaeth o ansawdd uchel ledled Cymru, i gynnwys coetiroedd newydd a phresennol. Bydd ymgysylltu â'r gymuned yn allweddol o ran datblygu safleoedd Coedwigoedd Cenedlaethol er mwyn helpu i sicrhau bod y coetiroedd yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden, addysg ac ymarfer corff ac, yn yr achos hwn, le i fyfyrio i gofio'r rhai a gollwyd i Covid-19.

Wrth greu coetir newydd, mae'n bwysig sicrhau nad oes unrhyw effeithiau amgylcheddol andwyol, sy'n cynnwys ystyried yr effeithiau ar gymunedau lleol, a bod unrhyw faterion sensitif yn cael eu cydnabod a'u trin yn briodol. Bydd ein holl gynlluniau'n dilyn y weithdrefn ar gyfer Asesu'r Effaith Amgylcheddol, er mwyn sicrhau yr ymgynghorir â'r bobl gywir a bod y coetiroedd newydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol a chymunedau lleol. Bydd y coetiroedd newydd yn cael eu rheoli i fodloni Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU.

Crynodeb Byr o Safle Erddig

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o ofalu am natur, harddwch a hanes i'r genedl eu mwynhau. Yn Neuadd Erddig yn Wrecsam, ein bwriad yw darparu naw hectar o dir yn yr Hafod, ar ymyl ddeheuol yr ystâd, ar gyfer y coetir coffa.

Bydd y coetir yn darparu cyfleoedd ar gyfer mwy o fynediad i'r cyhoedd a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi adferiad natur a'n brwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Bydd y safle yn cael ei blannu gyda rhywogaethau coed a fydd yn gallu addasu i fygythiadau plâu, clefydau a hinsawdd sy'n newid. Ynghyd â chreu coetiroedd bydd y safle yn cynnwys cynefinoedd hanfodol eraill ar gyfer bywyd gwyllt fel pyllau, gwrychoedd a dolydd.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, cymunedau a rhanddeiliaid i archwilio syniadau, ymrwymiad a chyfleoedd plannu ar gyfer y lle arbennig hwn er budd trigolion lleol, ymwelwyr a natur.

Y safle ar gyfer creu'r coetir yw'r rhan ogleddol o floc 14 hectar o dir nad yw'n gyffiniol ag ystâd Neuadd Erddig.  Mae'n cynnwys tri chae sy'n cael eu ffinio gan wrychoedd aeddfed, sy'n cynnwys y ddraenen wen yn bennaf.  Mae pantiau a holltau yn y ddaear sy'n gallu dal dŵr gan gynnwys pwll mawr o ddŵr yn y rhan fwyaf deheuol o'r cae. 

Mae'r safle wrth ymyl parc gwledig, Bonc yr Hafod sydd wedi'i ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd y boblogaeth uchel o fadfall ddŵr gribog a geir yno. Cyn hynny, hen bwll glo yr Hafod oedd y parc gwledig hwn.  Mae pentref Johnstown (ym mwrdeistref sirol Wrecsam) yn rhan o hen gymuned lofaol Rhosllannerchrugog ac mae wedi'i leoli yn union i'r gorllewin o'r coetir newydd arfaethedig.

Crynodeb Byr o Safle Brownhill

Mae’r safle yn 94ha ac mae'n cynnwys tir amaethyddol yn bennaf, sy’n amrywio o ran ansawdd. Mae'n dir gorlifdir gwastad yn bennaf.

Mae'r tir gwell i'r Gogledd o'r safle wedi'i ddefnyddio ar gyfer silwair/gwair a phori, tra bod y gweddill yn tueddu i fod yn dir gwlypach ac wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer pori. Mae'r caeau wedi'u rhannu gan wrychoedd, rhai ohonynt yn aeddfed a rhai wedi'u plannu'n fwy diweddar, gyda hen wrychoedd a gwrychoedd aeddfed a choed yn y caeau (derw yn bennaf).

Hoffem nodi bod y tir wedi’i werthu yn bum lot a chawsom dri ohonynt. Roedd y ddau arall yn cynnwys cyfran uwch o dir amaethyddol o ansawdd da. Roedd y tri a gawsom yn cynnwys cyfran o dir garw a/neu lai hygyrch, yn llai deniadol at ddibenion amaethyddol.

Mae'r safle'n cynnwys nodweddion gorlifdir gweithredol fel ystumllynoedd a sianelau afonydd sy'n cefnogi ffeniau gwernen a dŵr sefydlog. Mae'r safle'n pontio Afon Tywi (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig penodedig). I'r Dwyrain o'r brif afon a’r sianeli mwy, mae’n anodd cyrraedd y tir sydd wedi’i adael yn fraenar ac mae’r coetir ar lannau’r afon yn ailfywiogi.

Ein bwriad yw creu coetir amrywiol, llydanddail yn bennaf. Bydd hyn yn cynnwys elfennau o goetir gwlyb, coetir afonol, a thir pori coed ochr yn ochr â phlannu coetiroedd mwy traddodiadol. Fel gyda phob coetir newydd bydd hyn yn cynnwys mannau agored. Bydd hyn yn cael ei gynnal o amgylch y cyrsiau dŵr, gwrychoedd aeddfed, a hen goed i ddiogelu a gwella'r nodweddion hyn. Rydym hefyd yn bwriadu creu llwybrau mynediad a byddwn yn gofyn am eich barn am seilwaith arall y gallech fod am ei weld ar y safle yn y dyfodol.

Why your views matter

 

 

 

Areas

  • Carmarthen Town North
  • Carmarthen Town South
  • Carmarthen Town West

Audiences

Interests

  • Forest Management