Sut mae ein timau yn rheoli perygl llifogydd a lefelau dŵr ar Wastadeddau Gwent
Trosolwg
Cliciwch yma i weld y dudalen Saesneg
Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd hanesyddol o bwysigrwydd rhyngwladol lle ceir rhwydwaith cymhleth o gaeau ffrwythlon a chyrsiau dŵr hanesyddol sy’n cwmpasu 180km.
Yn rhedeg ar hyd aber afon Hafren, mae’r dirwedd hanesyddol hon yn cwmpasu nifer o gynefinoedd unigryw sy’n cyfrannu at y diddordeb bywyd gwyllt arbennig yma ac sy’n gofyn am waith rheoli gofalus.
Ein rôl reoli
Mae ein timau yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli perygl llifogydd a lefelau’r dŵr ar draws Gwastadeddau Gwent.
Mae ein tîm Ardal Draenio Mewnol yn helpu i gynnal a chadw tua 105km o’r cyrsiau dŵr a’r sianeli draenio; tra bod timau Integredig y Gweithlu a Pheirianneg yn cynnal tua 40km o amddiffynfeydd môr wedi’u codi a strwythurau cysylltiedig rhwng Cas-gwent a Chaerdydd.
Nhw hefyd sy’n cynnal yr oddeutu 64km o brif afonydd ynghyd â’r gronfa storio dŵr llifogydd yn Peterstone.
Gan ddefnyddio pwerau caniataol, gall y timau wneud gwaith cynnal a chadw, gwella neu adeiladu ar y cyrsiau dŵr i helpu i reoli perygl llifogydd i bobl ac eiddo a diogelu’r amgylchedd.
Er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y gwaith mor effeithiol â phosibl, mae gan y timau raglen cynnal a chadw flynyddol, i wneud gwaith hanfodol sy’n cynnwys:
- Torri gwair
- Archwilio gollyngfeydd i’r môr
- Rheoli chwyn
- Mân waith adeiladu
Mae’r holl weithgareddau hyn yn cael eu rheoli’n ofalus ac rydym yn ymgynghori â’n harbenigwyr bioamrywiaeth mewnol i benderfynu ar yr amser gorau i wneud gwaith cynnal a chadw ac i gael y caniatâd cyfreithiol angenrheidiol i wneud gwaith o’r fath.
Rydym yn cynllunio ein gwaith i ystyried y cyngor hwn, ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol. Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn cydbwyso gofynion cynnal a chadw ag anghenion cynefinoedd a rhywogaethau Gwastadeddau Gwent.
Torri gwair
Drwy gydol y ‘tymor tyfu’ rhwng mis Mawrth a Hydref mae ein timau mewnol ynghyd â chontractwyr yn torri’r gwair ar y safleoedd hyn i helpu i gadw’r amddiffynfeydd rhag llifogydd rydym yn eu cynnal yn gweithio’n dda i amddiffyn cymunedau lleol rhag perygl llifogydd.
Mae’r cloddiau hyn yn helpu i ddarparu amddiffyniad hanfodol rhag perygl llifogydd, ac mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn ein helpu i sicrhau bod argloddiau’n wydn pan fydd eu hangen.
Mae hefyd yn ein galluogi i fonitro am unrhyw arwyddion o ddifrod gan dda byw; gweithgareddau anghyfreithlon, megis cerbydau oddi ar y ffordd; neu anifeiliaid sy’n tyllu.
Cyn dechrau unrhyw waith torri, bydd ein gweithredwyr peiriannau yn cerdded dros y safle, gan chwilio’n ofalus am adar sy’n nythu a mathau eraill o fywyd gwyllt.
Mae angen torri Cronfa Ddŵr Peterstone yn fwy rheolaidd oherwydd y Ddeddf Cronfeydd Dŵr fel y gall peirianwyr wirio cyfanrwydd y cloddiau. Cynhelir y gwiriadau ecolegol angenrheidiol cyn pob toriad.
Mewn nifer fach o leoliadau rydym yn treialu dulliau ‘torri a chasglu’, ble rydym yn cael gwared ar doriadau gwair o’r morglawdd er mwyn lleihau lefelau’r maethynnau ac annog mwy o amrywiaeth o flodau a gweiriau. Torrir y gwair mor gynnar ac mor hwyr yn y tymor tyfu â phosibl er mwyn cadw digon o neithdar i’r peillwyr, gan gynnwys y gardwenynen feinlais – gwenynen brin y mae Gwastadeddau Gwent yn gadarnle iddi.
Archwilio gollyngfeydd i’r môr
Mae dros 20 o ollyngfeydd i’r môr ar Wastadeddau Gwent, sy’n cael eu harchwilio a’u cynnal a’u cadw i helpu i’w cadw mewn cyflwr da.
Cânt eu harchwilio’n rheolaidd am rwystrau a malurion i helpu i atal perygl llifogydd.
Rheoli chwyn
Fel rhan o’n gwaith rheoli a chynnal a chadw, mae gennym hefyd raglen flynyddol o chwistrellu chwynladdwyr ac o chwynnu.
Mae hyn yn helpu i fynd i’r afael ag unrhyw Rywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) a welir ar y ffosydd draenio a’r argloddiau – fel Jac y Neidiwr, Clymog Japan ac Efwr Enfawr.
Caiff yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio eu chwistrellu’n uniongyrchol gan ddefnyddio chwynladdwr cymeradwy sy’n addas i’w ddefnyddio ger y cwrs dŵr.
Mae’r holl chwistrellu yn cael ei wneud gan weithredwyr cymwys mewn tywydd addas.
Ymgymerir â gwaith chwynnu bob blwyddyn gan ddefnyddio peiriannau trwm i gael gwared ar chwyn wedi cronni o’r cyrsiau dŵr. Mae hyn yn caniatáu i ddŵr gael ei gludo’n effeithiol ac yn lleihau perygl llifogydd.
Mân waith adeiladu
O bryd i’w gilydd fe welwch ein staff yn ymgymryd â gweithgareddau adeiladu ar raddfa fach, er enghraifft gosod ffensys neu atgyweirio ein strwythurau a’n hasedau. Bydd y gwaith hwn yn cael ei asesu a’i gynllunio i leihau unrhyw aflonyddu ar yr amgylchedd lleol a bydd yn defnyddio cynhyrchion cynaliadwy lle bo angen.
Dolenni defnyddiol
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Management
- Woodland Opportunity Map users
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- River restoration
- Adfer afonydd
- Water Resources
- Educators
- SoNaRR2020
- Designated Landscapes
- Tirweddau dynonedig
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Gwent
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook