Ardal Draenio Mewnol Gwastadeddau Gwent

Yn cau 31 Rhag 2024

Wedi'i agor 17 Ion 2024

Trosolwg

Cliciwch yma i weld y dudalen Saesneg

Cil-y-coed a Gwynllŵg

Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd hanesyddol o bwys rhyngwladol sy'n cynnwys rhwydwaith cymhleth o gaeau ffrwythlon a chyrsiau dŵr hanesyddol (a elwir yn ‘reens’ neu’n ffosydd draenio yn lleol) sy'n ymestyn dros 180 km.

Yn gartref i saith Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy'n gyfystyr â thua 57Km o'r ardal, mae'r Gwastadeddau yn cael eu cynnal trwy reoli lefel y dŵr yn ofalus, ac mae angen cydsyniad ar gyfer hynny. Dyma restr o’r lleoliadau SoDdGA ar y Gwastadeddau:

  • Llanrhymni a Llan-bedr Gwynllŵg.
  • Llansanffraid Gwynllŵg.
  • Tre'ronnen ac Allteuryn.
  • Whitson.
  • Magwyr a Gwndy.
  • Redwick a Llandyfenni.
  • Cors Magwyr.

Ein rôl – rheoli'r rhwydwaith o ffosydd draenio

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae ein tîm Ardal Draenio Mewnol yn gyfrifol am reoli tua 105km o'r cyrsiau dŵr a'r sianeli draenio sy'n croesi'r Gwastadeddau, sy'n cael eu rheoli gan gyfuniad o 229 o goredau sy'n gogwyddo, llifddorau a lociau astellog.

Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud gwaith mor effeithiol â phosibl, mae gan ein tîm Ardal Draenio Mewnol raglen adeiladu flynyddol, i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol sy'n cynnwys:  

  • Uwchraddio strwythurau presennol
  • Gosod coredau a llifddorau newydd
  • Gosod ceuffosydd
  • Atgyweirio, ailbroffilio a sefydlogi cloddiau dŵr gan osod polion pren, sydd wedi bod yn dechneg reoli ar y Gwastadeddau ers nifer o flynyddoedd, a thechnegau sy’n defnyddio angorau tir y tu allan i’r SoDdGA.

Sylwch, o fis Hydref 2023, tîm gweithlu peirianneg integredig y de-ddwyrain fydd yn gyfrifol am archwilio gollyngfeydd i’r môr.

Gwaith cynnal a chadw

Isod ceir crynodeb o'r gwaith cynnal a chadw y bwriedir ei wneud ar y ffosydd draenio dros y misoedd nesaf.

Noder y gall hyn newid. Byddwn yn diweddaru hyn bob chwarter – cadwch lygad ar y dudalen prosiect hon a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol (@CyfNatCymDD) am ragor o fanylion:

Gwaith cynnal a chadw ar gyfer y chwarter presennol (Ebrill - Mehefin)

  • Rheolaeth barhaus o lefel y dŵr ac archwilio ffosydd draenio
  • Archwilio a chynnal a chadw asedau
  • Rheoli glaswellt y tu allan i ardaloedd SoDdGA
  • Archwilio a chynnal a chadw gridiau, sgriniau sbwriel a strwythurau a reolir gan ddŵr
  • Casglu sbwriel

Gwaith cynnal a chadw ar gyfer y chwarter blaenorol (Hydref – Rhagfyr)(Ionawr - Mawrth) 

  • Chwynnu
  • Torri llystyfiant
  • Gwaith cynnal a chadw cyffredinol, gan gynnwys cael gwared ar unrhyw rwystrau

Map o ffin yr Ardal Draenio Mewnol

Lleihau perygl llifogydd

Mae ein tîm Ardal Draenio Mewnol yn rheoli a chynnal lefelau'r dŵr ar Wastadeddau Gwent trwy addasu'r coredau, llifddorau a lociau yn dymhorol a thrwy fonitro rhagolygon y tywydd, gan ddefnyddio dull adweithiol. Gelwir yr addasiadau tymhorol yn Lefelau Corlannau'r Haf a Lefelau Corlannau’r Gaeaf sydd yn y bôn yn golygu bod angen cynnal lefelau dŵr uchel yn ystod misoedd yr haf a lefelau isel yn ystod misoedd y gaeaf i wneud iawn am gyfnodau gwlypach.  

Mae hyn yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn i leihau'r risg o lifogydd, ochr yn ochr â rheoli gwair  ar y torlannau a thynnu llystyfiant yn y sianel er mwyn atal gormod o ddeunydd planhigion sydd wedi cwympo rhag cronni.

Mae'r tîm hefyd yn dad-siltio'r cwrs dŵr bob 5-7 mlynedd, i gael gwared ar ddail planhigion marw a deunydd organig arall ynghyd â dŵr ffo o'r caeau cyfagos.

Gall silt sy'n cronni arwain at ostwng dyfnder y cwrs dŵr a chynyddu'r perygl o lifogydd.

Byddwn yn gadael o leiaf 600 mm o orchudd silt yn y ffosydd draenio er mwyn helpu i gynnal y cynefin, e.e. infertebratau

Darllenwch fwy am Y System Draenio Hanesyddol – Gwastadeddau Byw

Tipio anghyfreithlon

Er mai'r Awdurdodau Lleol sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o achosion o dipio anghyfreithlon, mae CNC yn mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ar dir sydd dan ein rheolaeth ni.

Os yw gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar ffosydd draenio Gwastadeddau Gwent, bydd ein tîm Rheoli Draenio Mewnol yn ei gasglu gyda pheiriannau arbenigol, er mwyn lleihau'r risg o lifogydd.

Yr Awdurdod Lleol neu'r perchennog tir perthnasol sy'n delio ag unrhyw sbwriel sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd ar Wastadeddau Gwent.

Mae cael gwared ar wastraff o ffosydd draenio yn gallu bod yn broses gostus ac mae'n tynnu oddi wrth waith craidd y tîm o reoli'r safle pwysig hwn.

Cofiwch, fel deiliad tŷ, os ydych chi'n talu rhywun i fynd â’ch gwastraff i ffwrdd, mae angen i chi wirio ei fod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Mae'n hawdd gwneud hyn, a gallwch wirio am ddim ar ein gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestr cyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff.

Os ydych chi'n amau bod gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn eich ardal chi, gallwch roi gwybod i'n llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000

Gwaith rheoli ychwanegol

Fel rhan o'n gwaith rheoli a chynnal a chadw mae gennym hefyd raglen flynyddol o dorri gwair a dad-chwynnu.

Mae unrhyw rywogaeth estron goresgynnol (INNS) a welir ar y ffosydd draenio fel Jac y Neidiwr, Clymog Japan a'r Efwr Enfawr, yn cael eu chwistrellu a'u rheoli yn unol â chanllawiau INNS.

Mae ein tîm amryddawn o weithwyr sy'n cynnal yr ardal hon o harddwch naturiol hefyd yn gweithio ar sail rota 24/7 i ateb galwadau gan y cyhoedd am ddigwyddiadau perygl llifogydd a llygredd posibl.  

Gallwch riportio digwyddiad i ni drwy ffonio 0300 065 3000 neu lenwi ein ffurflen ar-lein

Give us your views

If you have any queries please contact: generalenquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • marine developers
  • marine planners
  • South West Stakeholder group
  • Citizens
  • National Access Forum
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • Educators
  • SoNaRR2020
  • Mine recovery specialists
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Metal mines
  • Mwyngloddiau metel
  • Coastal Group Members
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Equality, Diversity and Inclusion

Diddordebau

  • Engagement