Gwybodaeth am weithrediadau coedwig yng Nghomin Trelech

Closed 9 Nov 2023

Opened 8 Nov 2022

Overview

Diweddariad 03/03/23

Mae gwaith teneuo coedwigoedd a gwaith adfer ar Gomin Trelech bellach wedi'i gwblhau ac mae'r holl lwybrau troed a llwybrau bellach ar agor.

Cofiwch fod rhywfaint o bren o gwmpas y safle o hyd. Gall staciau pren fod yn beryglus felly er eich diogelwch, peidiwch â dringo arnynt.

Diweddariad 23 Ionawr 2023

Mae'r gwaith teneuo bellach wedi ei gwblhau. Fodd bynnag, mae tu mewn y goedwig yn dal i fod yn safle byw.

Mae llwybrau troed i mewn i'r coetir o'r Narth drwy'r giât fochyn fetel bellach wedi ailagor ar gyfer i'r cyhoedd, ynghyd â'r holl ffyrdd coedwig.

Fodd bynnag, bydd y llwybrau troed o'r brif ffordd goedwig ar draws i Greenway Lane (llwybrau i Dryleg i'r de o'r goedwig) yn aros ar gau am y tro, nes y bydd gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau ar y mannau croesi a ddefnyddir gan y peiriannau cynaeafu.

Cofiwch y gallai lorïau pren a pheiriannau eraill fod yn bresennol o hyd ac, os dewch ar eu traws, dylech fod yn ofalus a sicrhau bod y gyrrwr wedi'ch gweld cyn cario ymlaen.

Trosolwg

Mae gwaith teneuo coedwig ar fin dechrau yng nghoetiroedd deheuol comin Trelech, er mwyn cychwyn ar y camau nesaf o helpu i adfer y goedwig yn Goetir Hynafol.

Mae’r coetir wedi’i ddynodi fel Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol.

Mae rhai o goed y coetir hefyd wedi’u heintio gan Dothistroma septosporum, clefyd coedwigoedd sydd fwyaf adnabyddus fel Malltod nodwyddau bandiau coch sy’n effeithio ar binwydd. 

Bydd y gwaith teneuo yn caniatáu inni gael gwared o goed sydd wedi’u heintio o’r coetir er mwyn helpu i arafu’r lledaeniad.

Pa fath o waith fydd yn digwydd?

  • Bydd ardaloedd o goed ifanc o fewn y coetir na chawsant eu teneuo o’r blaen, yn cael eu teneuo am y tro cyntaf, a bydd hyn yn hwyluso mynediad at goed ifanc ac ar yr un pryd yn hyrwyddo sefydlogrwydd o fewn y llannerch. 
  • Bydd ardaloedd o’r coetir lle mae gwaith teneuo eisoes wedi bod yn digwydd yn cael eu teneuo ymhellach i greu bylchau yng nghanopi’r coed. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o olau yn cyrraedd llawr y goedwig ac yn cynyddu amrywiaeth y llystyfiant ar y llawr ac yn hyrwyddo aildyfiant naturiol.
  • Bydd yr ardaloedd o’r coetir lle ceir clystyrau pinwydd sydd wedi’u heintio â malltod nodwyddau bandiau coch yn cael eu teneuo’n galed am y tro cyntaf. Diben hyn fydd cynyddu cylchrediad aer ymysg rhannau uchaf y coed er mwyn eu hadfywiogi.

Map yn dangos yr ardal yr effeithir arni yng Nghomin Trelech

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu a thyfu i faint arbennig, bydd y coed yn dechrau cystadlu â’i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn caniatáu inni gael gwared o goed afiach a rhai and ydynt yn tyfu’n dda.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Dysgwch fwy am y ffordd yr ydym yn gofalu am ein coedwigoedd:

 (31) Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd - YouTube

Mynediad i'r coetir 

Mae'n debygol y bydd yn rhaid inni gau llwybrau mynediad cyhoeddus i rai rhannau o’r coetir tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu ein staff, ein contractwyr a’r rhai sy’n ymweld â’n coetiroedd.

Gofalwch ufuddhau i arwyddion cau a dargyfeirio sy’n weithredol.

Ymweld â’n coedwigodd yn ddiogel

 

Areas

  • Trelech

Audiences

  • Management

Interests

  • Forest Management