Gwybodaeth am Waith Coedwigaeth yng Nghoed Gwent

Ar gau 21 Medi 2023

Wedi'i agor 15 Medi 2021

Trosolwg

Bydd gwaith torri coed i gael gwared ar Sbriws Norwy aeddfed yn rhan ogleddol y coetir yng Nghoed Gwent yn cychwyn ddechrau mis Medi (2024). Mae’r ardal hon wedi’i heffeithio gan dân yn y gorffennol ac mae’r coed bellach yn dangos arwyddion o afiechyd a phydredd.

Yn ddiweddarach eleni, bydd gweithrediadau teneuo yn y de hefyd yn ailddechrau, er mwyn helpu i adfer y goedwig yn ôl yn Goetir Hynafol.

Mae'r coetir wedi'i ddynodi'n Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) ac mae'r gwaith hwn yn gam tuag at droi’r ardaloedd hyn yn ôl yn goetiroedd hynafol.

 Pa waith fydd yn digwydd?

  • Bydd cam cyntaf y gwaith teneuo yn digwydd yn yr ardaloedd o goed ifanc yn y coetir nad ydynt wedi'u teneuo o'r blaen; bydd hyn yn caniatáu mynediad gwell at gnydau tra'n hybu sefydlogrwydd o fewn y llannerch.
  • Bydd ardaloedd yn y coetir lle mae gwaith teneuo eisoes wedi digwydd yn cael eu teneuo ymhellach i greu bylchau yn y canopi coed. Bydd hyn yn helpu i gynyddu golau ar lawr y goedwig a chynyddu amrywiaeth o fewn y llystyfiant ar y ddaear a hyrwyddo aildyfiant naturiol.
  • Bydd coed yn y coetir sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum (neu glefyd y llarwydd) hefyd yn cael eu tynnu, i'n helpu i fynd i'r afael â lledaeniad y clefyd a'i atal rhag ymledu ymhellach.

Dysgu mwy am y ffyrdd yr ydym yn mynd i’r afael â phlâu a chlefydau yn ein coedwigoedd a’n coetiroedd

Map yn dangos yr ardal yr effeithir arni yng Nghoed Gwent

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu a thyfu i faint arbennig, bydd y coed yn dechrau cystadlu â’i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn caniatáu inni gael gwared o goed afiach a rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Dysgwch fwy am y ffordd yr ydym yn gofalu am ein coedwigoedd.

Cylch bywyd ein Coedwigoedd a’n Coetiroedd 

Mynediad i’r coetir

Mae'n debygol y bydd yn rhaid inni gau llwybrau mynediad cyhoeddus i rai rhannau o’r coetir tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu ein staff, ein contractwyr a’r rhai sy’n ymweld â’n coetiroedd.

Gofalwch ufuddhau i arwyddion cau a dargyfeirio sy’n weithredol.

 Gwyliwch ein fideo am gadw’n ddiogel yn ein coedwigoedd

Pam bod eich barn yn bwysig

Cwestiynau cyffredin 

Ardaloedd

  • Newport

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management