Lasgarn - gweithrediadau coedwig

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Pa waith fydd yn digwydd?

Dros yr wythnosau nesaf, disgwylir i weithrediadau coedwig ddechrau yng Nghoed Lasgarn ger Abersychan, Torfaen, a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.

Rydym yn cwympo coed llarwydd i gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol. Mae'r coed wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd.

Tra bod hyn yn digwydd, rydyn ni'n manteisio ar y cyfle i deneuo'r coed conwydd. Bydd y teneuo yn:

  • agor y canopi i annog adfywiad naturiol.
  • gwella sefydlogrwydd a gwytnwch y cnydau coed sy'n weddill.
  • cefnogi adfer coetir hynafol.

Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel

Map yn dangos yr ardal waith

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam rydyn ni'n teneuo coed?

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda. Mae hefyd yn annog adfywio naturiol rhywogaethau brodorol ac yn helpu i adfer ein coetiroedd hynafol.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd

Beth yw Phytophthora ramorum?

Mae Phytophthora ramorum yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill.

Coed llarwydd yw'r prif westeiwr ar gyfer y clefyd yn y DU, a dyna pam y cyfeirir ato'n gyffredin fel clefyd llarwydd. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch รข ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.wales

Yn cau 5 Rhag 2026

Wedi agor 5 Rhag 2025

Ardaloedd

  • Abersychan

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management