Mae angen i ni wneud gwaith cwympo sylweddol mewn tri choetir ledled Caerffili i dynnu coed llarwydd sydd wedi eu heintio â Phytophthora ramorum (sef clefyd y llarwydd).
Diweddariad ar waith coedwigaeth 30/09/2022
Rydym wedi gorfod oedi ein gwaith coedwigaeth yng nghoetiroedd Wyllie, de Westend a Llanbradach am y tro, oherwydd heriau economaidd ar hyn o bryd yn y farchnad bren.
Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'n contractwyr a'n prynwyr, ac yn gweithio'n galed i ddatrys y materion hyn, fel y gall gwaith ailddechrau cyn gynted â phosibl.
Hoffem roi sicrwydd i drigolion ac ymwelwyr â'r coetiroedd drwy gadarnhau nad yw'r gweithrediadau cwympo coed wedi mynd yn angof, ond yn anffodus gallai’r gwaith gymryd ychydig yn hirach na'r disgwyl yn wreiddiol.
Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ar dudalen y prosiect a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol (@CyfNatCymDD) Diolch am eich amynedd.
Mynediad i’r coedwigoedd
Wyllie a De Westend
Mae llwybrau troed a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng nghoetiroedd Wyllie a de Westend yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, ond er mwyn sicrhau eich diogelwch a diogelwch ein contractwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sylw o unrhyw arwyddion dargyfeirio neu arwyddion gweithredol sydd ar y safle.
Llanbradach
Er nad ydym yn hoff o gau mynediad i'n coedwigoedd a'n coetiroedd, sy'n rhoi mwynhad i lawer, yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu agor y llwybrau troed yn Llanbradach ar hyn o bryd oherwydd problemau iechyd a diogelwch ac mae'r safle'n dal i fod ar gau am y tro.
Diweddariad 12/04/2022
De West End
Mae gwaith bellach wedi cychwyn i dynnu 22 hectar o goed llarwydd mewn coetiroedd yn West End ger Cross Keys. Bydd y gwaith yn cymryd tua 9 mis.
Er mwyn lleihau ar y tarfu ar adar sy’n nythu, mae ein hecolegydd wedi gwneud arolwg trylwyr o’r ardal am unrhyw nythod adar. Bydd unrhyw nythod sy’n cael eu canfod yn cael parth gwahardd o’u hamgylch, a bydd ein contractwyr yn gweithio o amgylch yr ardal tan fydd yr adar wedi gorffen nythu ac wedi gadael y nyth.
Rydym hefyd yn gwirio cofnodion hanesyddol i asesu a yw’n hysbys bod rhywogaethau a warchodir wedi nythu yn yr ardal honno o’r blaen.
Mae gwaith wedi cychwyn yn y de eisoes (ardal 1 wedi’i nodi ar fap ardaloedd gwaith West End isod) ble nad oes adar wedi’u canfod yn nythu. Byddwn yn parhau i fonitro am adar yn nythu drwy gydol y tymor.
Llanbradach
Mae gwaith i dynnu tua 23 hectar o goed llarwydd heintiedig mewn coetiroedd yn Llanbradach wedi stopio dros dro er mwyn caniatáu i adar orffen nythu a gadael yr ardal yn ddiogel.
Yn anffodus, bydd y coetir yn parhau i fod ar gau dros dro er mwyn sicrhau diogelwch pobl am fod rhannau o’r safle’n dal i fod yn anniogel. Barnwyd bod y gwaith i adfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r ffens o amgylch ardal y chwarel yn amharu’n ormodol ar yr adar ar yr adeg sensitif hon yn y tymor nythu.
Byddwn yn monitro’r sefyllfa’n barhaus er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo unwaith y bydd yr adar wedi gadael y safle.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa rannau o’r coetir a fydd yn cael eu hailagor mor gynnar â phosib drwy’r dudalen hon a’n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y Wyllie
Diweddariad 30/6/2022
Mae ein contractwyr bellach wedi oedi’r gweithrediadau cwympo yn ardal 1 a 2 fel y gwelir ar y map isod
Mae gwaith yn cael ei wneud yn ardal 5 o dan ffordd y goedwig fel y gwelir ar y map isod.
Mae gwaith bellach wedi’i gwblhau ar draws gwaelod ardal y De Ddwyrain a bydd yn symud i gyfeiriad y Gogledd Orllewin
Map yn dangos yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn West End
Map yn dangos yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn Llanbradach
Map yn dangos yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn Y Wyllie
Mynediad i goedwigoeddNodwch fod y lliwiau ar y map yn dynodi ardaloedd y llannerch ble bydd gwaith yn digwydd o fewn y coetir
Mae'n debygol y bydd yn rhaid inni gau mynediad y cyhoedd i rai rhannau o goedwigoedd tra bydd y gwaith yn digwydd. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu diogelwch ein staff, ein contractwyr ac ymwelwyr â'r coetir.
Cadwch at y rheolau cau a'r arwyddion dargyfeirio pan fyddant ar waith.
Diweddaru 1/12/21 Yn anffodus, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r prynwr, o ganlyniad i’r perygl sylweddol i ddefnyddwyr y goedwig, mae CNC wedi methu â chadw’r llwybrau cerdded cyhoeddus o fewn y goedwig ar agor drwy gydol y gwaith, hyd at ddiwedd Mai 2022 ar hyn o bryd. Felly, mewn cydweithrediad â’r Cyngor Sir, mae’r prynwr wedi cau’r llwybrau’n ffurfiol yn unol â'r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a gwerthfawrogwn eich amynedd wrth i’r gwaith barhau.
Cludo pren
Bydd angen i gerbydau cludo pren gael mynediad rheolaidd i'r coetiroedd i gymryd pren a gynaeafir o'r safle ymaith. Ar gyfer safleoedd sy'n agos at gymunedau, bydd uchafswm o wyth llwyth lori y dydd. Mewn ardaloedd adeiledig bydd cyfyngiad pellach hefyd ar y gweithgaredd hwn i oriau y tu allan i oriau cynnar y bore ac oriau prysur gyda'r nos.
Gweld y llwybr cludo ar gyfer Llanbradach
Gweld y llwybr cludo ar gyfer West End a Wyllie
Ailblannu
Unwaith y bydd yr holl goed llarwydd heintiedig wedi'u tynnu, rydym yn bwriadu ailblannu coed yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau i helpu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn y dyfodol.
Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd Llanbradach
Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd West End
Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd y Wyllie
Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am ein gwaith cwympo coed.
Wrth i ni baratoi i ymgymryd â'r gwaith hanfodol hwn, rydym am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith arfaethedig, ac yn deall pam mae'n digwydd a sut y gallai effeithio arnynt.
Rhagor o wybodaeth
Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y dudalen hon am y gwaith wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am ein gwaith cwympo coed.
Os hoffech gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd am y gwaith, e-bostiwch SEForest.operations@naturalresources.wales
Os hoffech gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd am y gwaith, e-bostiwch SEForest.operations@naturalresources.wales
Share
Share on Twitter Share on Facebook