Copi Gwynthi - gweithrediadau coedwig
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Pa waith fydd yn digwydd?
Dros yr wythnosau nesaf, disgwylir i weithrediadau coedwig ddechrau yng Nghopi Gwynthi ger Rhydri yng Nghaerffili, a bydd yn cymryd tua chwe mis i'w gwblhau.
Rydym yn cwympo coed llarwydd i gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol. Mae'r coed wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn fwy cyffredin fel clefyd llarwydd.
Bydd yr ardal yn cael ei hailstocio â choed llydanddail brodorol i helpu i'w hadfer yn goetir hynafol.
Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau loris pren ar ffyrdd y goedwig.
Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel
Map yn dangos yr ardal waith
Beth yw Phytophthora ramorum?
Mae Phytophthora ramorum yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill.
Coed llarwydd yw'r prif westeiwr ar gyfer y clefyd yn y DU, a dyna pam y cyfeirir ato'n gyffredin fel clefyd llarwydd. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.
Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.
Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn
Cysylltwch รข ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.wales
Ardaloedd
- Bedwas, Trethomas and Machen
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook