Coed Darren – gweithrediadau cwympo coed llarwydd

Ar gau 31 Mai 2024

Wedi'i agor 14 Medi 2023

Trosolwg

I weld y dudalen yn Saesneg cliciwch yma 

Pa waith sy'n digwydd?

Bydd gwaith torri coed yn dechrau yng Nghoetir Cwm Carn (Y Darren) yr hydref hwn, er mwyn cael gwared ar tua 11 hectar o goed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophora ramorum (neu glefyd y llarwydd).

Bydd y gwaith yn cymryd tua 9 mis.

Beth yw clefyd llarwydd?

Mae clefyd llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd (Chalara) coed ynn

Adar sy’n nythu 

Cyn i unrhyw waith ddechrau, rydym yn gweithio'n agos gyda syrfëwr adar i gynnal arolwg trylwyr o'r safle am unrhyw adar sy'n nythu. Bydd ardal waharddedig yn cael ei rhoi o gwmpas unrhyw nythod a ddarganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen magu a gadael y nyth.

Mynediad i'r goedwig yn ystod gweithrediadau

Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni gau mynediad cyhoeddus i rai ardaloedd o’r goedwig pan fydd gweithrediadau'n cael eu cynnal, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Er nad ydym yn hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, sy’n cael eu mwynhau gan lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i ddiogelu diogelwch ein staff, ein contractwyr, ac ymwelwyr â’r coetir.

Cadwch at yr holl hysbysiadau cau a dargyfeirio pan fyddant ar waith. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol.

Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma

Ailblannu 

Unwaith y bydd y llarwydd heintiedig wedi'u symud, byddwn yn ailblannu gyda choed llydanddail brodorol yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. 

Cludo pren

Bydd angen i gerbydau cludo gael mynediad rheolaidd i'r coetiroedd er mwyn symud pren sydd wedi'i gynaeafu o'r safle. Ar gyfer safleoedd sy'n agos at gymunedau, bydd uchafswm o wyth llwyth lori y dydd. Mewn ardaloedd adeiledig bydd cyfyngiad pellach hefyd ar y gweithgaredd hwn i oriau y tu allan i oriau brig y nos ac yn gynnar yn y bore.

Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Beth sy'n digwydd nesaf

If you have any questions, please contact: SEForest.operations@naturalresources.wales

Ardaloedd

  • Crosskeys

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management