Coed Darren – gweithrediadau cwympo coed llarwydd

Closes 31 May 2024

Opened 14 Sep 2023

Overview

I weld y dudalen yn Saesneg cliciwch yma 

Pa waith sy'n digwydd?

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd gweithrediadau  cwympo cod yn dechrau yng Nghoed Darren i gael gwared ar goed llarwydd y mae Phytophthora ramorum (a elwir yn fwy cyffredin yn glefyd llarwydd) yn effeithio arnynt.

Bydd angen gwaredu tua 11 hectar o goed llarwydd a bydd y gwaith yn cymryd tua chwe mis.

Beth yw clefyd llarwydd?

Mae clefyd llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng a all achosi difrod helaeth a marwolaethau i amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd llarwydd yn lledaenu trwy sborau yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid. 

Er na allwn atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd (Chalara) coed ynn

Mynediad i'r goedwig yn ystod gweithrediadau

Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni gau mynediad cyhoeddus i rai ardaloedd o’r goedwig pan fydd gweithrediadau'n cael eu cynnal, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Er nad ydym yn hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, sy’n cael eu mwynhau gan lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i ddiogelu diogelwch ein staff, ein contractwyr, ac ymwelwyr â’r coetir.

Cadwch at yr holl hysbysiadau cau a dargyfeirio pan fyddant ar waith. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol.

Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma

Ailblannu 

Er ei bod yn anffodus pan fydd yn rhaid inni dorri coed sydd wedi’u heintio â chlefyd llarwydd, mae hyn yn darparu'r cyfle inni ail-ddylunio’r coetiroedd a’u gwneud yn gryfach ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud yn siŵr bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo mewn modd cyfrifol a chynaliadwy, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a Safon Ardystio’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) a’r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

Bydd ein tîm coedwigaeth yn ailstocio’r safle yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd, gydag amrywiaeth o rywogaethau’n arwain at goetir cryfach sy’n gallu gwrthsefyll bygythiadau o blâu a chlefydau a newid hinsawdd.

Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Give us your views

If you have any questions, please contact: SEForest.operations@naturalresources.wales

Areas

  • Crosskeys

Audiences

  • Management

Interests

  • Forest Management