Penyrenglyn - Rheoli Risg Tomen Lo
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Dyma ddiweddariad ar y cefndir, y gwaith a gwblhawyd, a’r gwaith sydd wedi’i gynllunio gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ardal Penyrenglyn o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Cefndir - Rheoli risg y domen lo
Mae tomen lo Penyrenglyn yn un o’n prif safleoedd â blaenoriaeth i osod systemau draenio er mwyn lleihau’r risg o dirlithriad.
Bellach mae gan lawer o domenni glo nas defnyddir systemau draenio i leihau ymdreiddiad dŵr i ddeunydd y domen. Pan fydd dŵr glaw yn treiddio i haen uchaf y pridd ac yn mynd i mewn i ddeunydd y domen oddi tano, gall gynyddu’r risg o dirlithriad.
Nid oes gan Benyrenglyn system ddraenio eto i reoli ymdreiddiad dŵr glaw, ac y mae wedi’i chategoreiddio fel tomen Categori D gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’r categori hwn yn golygu bod gan y domen y potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd.
Gallwn nawr rannu cynlluniau dylunio amlinellol y rhwydwaith arfaethedig o ddraeniau ar yr wyneb ac o dan yr wyneb, a fydd yn cael eu gosod i ddal a sianelu dŵr ar draws y safle a lleihau ymdreiddiad i’r domen. Mae hyn wedyn yn lleihau’r tebygolrwydd o effeithio ar y cyhoedd. Mae’r rhwydwaith draenio arfaethedig yn cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o ddraeniau, a amlinellir isod.
Gwaith arfaethedig – gosod draeniau
Datblygwyd y dyluniad amlinellol, sydd wedi’i gynnig, yn ystod 2024. Ceir dolenni i’r lluniadau dylunio amlinellol isod.
SYLWER: mae’r cynlluniau hyn yn cynrychioli’r cynllun presennol ar gyfer y gwaith, a gallent fod yn agored i newid yn dilyn ymgynghoriad.
- Dyluniad Amlinellol - Trefniant Cyffredinol - Lluniadu Cynllun
- Dyluniad Amlinellol - Trawstoriad a Manylion
Diben y draeniau yw dal a rheoli’r glawiad sy’n glanio o fewn dalgylch y safle er mwyn lleihau faint o ddŵr a all ymdreiddio i ddeunydd y domen lo.
Mae’r system ddraenio hefyd wedi’i dylunio i sicrhau na fydd unrhyw gynnydd yn y llif i’r systemau draenio ymhellach i ffwrdd o’r safle.
Mae’r system ddraenio yn cynnwys draeniau o dan yr wyneb ar oleddf, ffosydd, rhaeadrau cerrig bloc, a draeniau hidlo, sydd i gyd yn cydweithio i ddal dŵr ffo ar yr wyneb a thynnu dŵr allan o ddeunydd y domen lo.
Bydd y draeniau o dan yr wyneb, sydd ar oleddf, yn cael eu drilio’n uniongyrchol i ddeunydd y domen lo. Bydd y draeniau hyn yn cael eu lapio mewn pilen i leihau’r tebygolrwydd o rwystr, a byddant yn gweithredu’n debyg i wic cannwyll; byddant yn tynnu dŵr daear allan o ddeunydd y domen lo ac yn bwydo hwnnw i’r dulliau draenio ar yr wyneb.
Bydd rhwydwaith o ffosydd â leinin yn atal dŵr ffo ar yr wyneb yn ystod glaw trwm. Bydd y nodweddion hyn yn cyfyngu ar ymdreiddiad i ddeunydd y domen lo islaw, a byddant yn cludo’r llif i’r rhaeadrau cerrig bloc a’r draeniau hidlo.
Ffigur 1 - Dyluniad amlinellol o drawstoriad y ffos.
Yna, bydd y llifoedd yn cael eu cludo i waelod y llethr trwy raeadrau cerrig bloc. Mae’r nodweddion hyn yn darparu sianel agored gadarn a fydd yn cyfeirio’r dŵr sy’n cael ei ddal ar y safle i’r rhwydweithiau draenio sy’n bodoli eisoes.
Ffigur 2 - Dyluniad amlinellol o drawstoriad y rhaeadr.
Mewn rhai ardaloedd, bydd y llif yn cael ei gludo i waelod y llethr trwy rwydwaith o ddraeniau hidlo (a elwir hefyd yn ‘ddraeniau Ffrengig’), a fydd yn rhedeg yn gyfochrog â thrac mynediad presennol i’r goedwig. Byddwn hefyd yn gwneud mân-atgyweiriadau i’r trac ar ôl i’r gwaith draenio ddod i ben.
Ffigur 3 - Dyluniad amlinellol o drawstoriad y ddraen hidlo
Diben yr holl fesurau hyn yw cyfyngu ar ymdreiddiad glaw i ddeunydd y domen lo, a rheoli llif y dŵr o’r safle trwy fesurau draenio cadarn.
O ystyried natur serth y safle, mae’n debygol y bydd angen peiriannau trwm arbenigol i adeiladu’r systemau hyn. Bydd y peiriannau arbenigol hyn, y cyfeirir atynt yn aml fel ‘y corryn cloddio’, yn sicrhau y gellir gosod y dulliau draenio yn ddiogel ac yn effeithlon.
Llun 1 - Peiriant cloddio sy'n debygol o gael ei ddefnyddio yn ystod y gwaith adeiladu.
Ein nod yw dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2026, unwaith y bydd yr holl gydsyniadau gofynnol ar waith.
Gwaith wedi’i gwblhau, 1 – Torri coed
Yn gynnar yn 2024, llwyrgwympwyd y coed ar safle Penyrenglyn. Gwnaed y gwaith hwn i ymdrin â chlefyd a oedd yn effeithio ar lawer o’r coed llarwydd yn y bloc coedwig, yn ogystal â bodloni’r cynigion rheoli coetir a ddiffinnir yn ein Cynllun Adnoddau Coedwig.
Llun 2 - Yr ardal lle cafodd coed eu cwympo ar safle Penyrenglyn.
Roedd y clefyd hwn, Phytophthora ramorum, wedi lladd dros hanner y coed yn y bloc. Roedd y coed marw hyn yn risg i iechyd y cyhoedd gan eu bod yn dueddol o gael eu chwythu drosodd, ac roedd perygl hefyd y byddent yn lledaenu’r clefyd ymhellach.
Roedd y gwaith torri coed wedi caniatáu i’r gwaith o arolygu’r safle ddigwydd trwy gydol 2024. Bydd hefyd yn caniatáu i’r dulliau draenio gael eu gosod o amgylch deunydd y domen.
Gwaith wedi’i gwblhau, 2 – Ymchwiliad o’r tir
Dros fisoedd yr haf yn 2024, cynhaliwyd gwaith ymchwilio’r tir ar y safle. Roedd hyn yn cynnwys mân-gloddio a chasglu samplau o ddeunydd y domen lo er mwyn eu profi mewn labordy.
Llun 3 - Gwaith ymchwilio ar y tir.
Mae canlyniadau’r profion hyn wedi’u defnyddio wrth ddatblygu dyluniad y draeniau ac unrhyw waith peirianneg sifil arall a fydd yn ofynnol i hwyluso’r datblygiad.
Gwaith wedi’i gwblhau, 3 – Arolwg ecolegol
Yn hydref a gaeaf 2024, cynhaliwyd arolygon ecolegol helaeth o’r safle. Roedd angen yr arolygon hyn i ymchwilio i bresenoldeb, neu absenoldeb, amrywiaeth o rywogaethau sensitif o fflora a ffawna.
Llun 4 - tegeirian yn tyfu ger y safle.
Mae’r canlyniadau wedi ein galluogi i sicrhau bod y dyluniad yn cael yr effaith leiaf posibl ar natur.
Dweud eich dweud!
Cyn cyflwyno’r cais cynllunio, byddwn yn ymgynghori ar y gwaith arfaethedig o ddydd Llun 8 Medi. Bydd hwn yn gyfle i chi ddweud eich dweud a llunio dyfodol safle Penyrenglyn.
Rydym hefyd yn bwriadu cynnal sesiwn galw heibio ar gyfer y cyhoedd ddydd Llun 22 Medi (rhwng 3pm a 7pm), yn ystod y cyfnod ymgynghori, er mwyn siarad â’r gymuned yn uniongyrchol am y cynlluniau, ac i roi cyfle ichi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cynhelir y sesiwn galw heibio yn neuadd Prosiect Penyrenglyn / Valleys Kids ar Stryd Corbet (https://w3w.co/guides.repeat.lookout).
Penyrenglyn Project / Valleys Kids
53-56 Stryd Corbett
Treherbert
Treorci
CF42 5ET
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon mewn perthynas â'r gwaith, cysylltwch â:
penyrenglyn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Awst 2025
Ardaloedd
- Treherbert
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook