Rheoli perygl llifogydd yn Ynysybwl

Yn cau 28 Tach 2026

Wedi'i agor 28 Tach 2023

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i leihau'r perygl o lifogydd yn Ynysybwl.

Cafodd Ynysybwl ei heffeithio'n wael yn ystod Storm Dennis yn 2020 pan lifogwyd 17 eiddo ar Clydach Terrace wrth i lefel yr afon godi uwchben wal y briffordd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cyfarwyddo i ymgymryd â phroses Achos Busnes llawn yn dilyn Canllawiau Achos Busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Diweddariadau Prosiect

8 Mawrth 2024

Mae Arup wedi cynhyrchu'r adroddiadau canlynol ar gyfer y prosiect:

30 Tachwedd 2023

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar 30 Tachwedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned leol am y prosiect.

Perygl llifogydd

Mae Clydach Terrace yn gorwedd ar y gorlifdir naturiol mewn rhan gyfyngedig iawn o'r dyffryn ac yn hanesyddol mae wedi dioddef o lifogydd difrifol. 

Mae gan y gymuned risg llifogydd unigryw oherwydd ei safle. Pan fydd yn gorlifo, mae'n gwneud hynny'n gyflym ac i ddyfnder mawr, sy'n golygu bod risg i fywyd.

Ar hyn o bryd nid oes amddiffynfeydd llifogydd yn Ynysybwl, er ein bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd i reoli'r perygl o lifogydd.

Rydym wedi cael gwared â mwy na 700 tunnell o ddeunydd o’r afon ger Clydach Terrace ers 2020.

Opsiynau i reoli'r perygl

Yn dilyn Storm Dennis, gwnaethom asesiad cychwynnol i ddeall yn well y perygl o lifogydd yn Clydach Terrace gan ddefnyddio model glawiad a llif.

Rydym wedi nodi ystod o fesurau i reoli'r risg. Rydym am ddefnyddio'r cyfoeth o wybodaeth sydd gan y gymuned leol am hanes llifogydd i ddatblygu ac arfarnu pob opsiwn ar gyfer ei fanteision a'i risgiau, gan ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost pob un.

Bydd llawer o'r opsiynau yn cynnwys adeiladu asedau rheoli perygl llifogydd, ond byddwn hefyd yn edrych ar opsiynau a chyfuniadau eraill. Bydd y penderfyniad ynghylch pa opsiwn fydd yn cael ei ddatblygu, yn seiliedig ar lu o wahanol feini prawf, ac yn y bôn bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

Camau y prosiect

Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno fesul cam a bydd yn dilyn proses arfarnu a gwerthuso Trysorlys EM.

Bydd y cam cyntaf yn nodi rhestr hir o opsiynau. Byddwn yn gwerthuso buddion a risgiau pob un drwy ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost.

Bydd angen i ni hefyd werthuso'r opsiynau o wneud dim a chynnal y lefel bresennol o reoli perygl llifogydd drwy ein rhaglen cynnal a chadw.

Bydd yr holl opsiynau hyfyw ar y rhestr fer yn ncael eu craffu ymhellach yn ystod y cam achos busnes amlinellol.

Os yw'n hyfyw, byddwn yn argymell opsiwn a ffefrir ac yn gofyn am adborth gan y gymuned leol. Os cytunir arno, argymhellir ei gyflwyno o fewn ein hachos busnes llawn.

Llinell Amser y Prosiect

Ein nod yw ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol pob cam o'r prosiect.

  • Gaeaf 2023 – Gwanwyn 2024: Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru (rhestr hir o opsiynau)
  • Gwanwyn 2024 – 2025: Paratoi a chyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru (rhestr fer o opsiynau)
  • 2025 – 2026: Paratoi a chyflwyno Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru (opsiwn a argymhellir ar gyfer cyflwyno)
  • 2026 – 2028: Adeiladu neu Gyflenwi opsiwn dethol
  • 2029: Rhagwelir y bydd y prosiect yn cau

Cysylltwch â ni

Alexia Dimitriou, Rheolwr Prosiect

alexia.dimitriou@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Ardaloedd

  • Ynysybwl

Cynulleidfaoedd

  • Llifogydd

Diddordebau

  • Flooding