Prosiect Perllannau Ffrwythlon

Closed 7 Jan 2022

Opened 9 Dec 2021

Overview

Leaners from Fairfield Primary School with their teacher holding a tree

Coed ffrwythau am ddim ar gyfer mannau cymunedol yng Nghanol De Cymru!

Rydym yn cynnig coed ffrwythau am ddim ar gyfer mannau cymunedol yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i greu eu perllan eu hunain.

Mae'r mannau cymunedol hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ysgolion, lleoliadau addysgol, canolfannau, gerddi a rhandiroedd, os oes ganddynt ddigon o le i blannu ychydig o goed.

Ynghyd â choed ffrwythau am ddim, byddwch yn derbyn hyfforddiant i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu a phrofiad y bydd y berllan newydd yn eu cynnig.

I gofrestru, dilynwch y ddolen isod i roi eich manylion ac ateb ychydig o gwestiynau. Dim ond ychydig funudau y dylai gymryd i chi eu cwblhau.

Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn a ydych yn gallu darparu cynllun a gofyn i chi ymrwymo i ofalu am y coed yn eich lle cymunedol.

Dysgwch fwy am sut i gynllunio, datblygu, defnyddio a chynnal perllan ar gyfer dysgu.

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Cymraeg

Interests

  • Fruitful Orchard Project